Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2024

Mae cais statudol am weithio hyblyg yn gais gan weithiwr i wneud newid i'w delerau ac amodau cyflogaeth sy'n ymwneud â:

  • yr oriau y mae'n ofynnol i'r gweithiwr weithio
  • yr amseroedd pan fydd gofyn i'r gweithiwr weithio neu
  • y lleoliad y mae'n ofynnol i'w gweithiwr weithio

Mae'n rhaid i'r cais nodi'r newid y gwneir cais amdano a'r dyddiad yr ydych yn cynnig y dylai'r newid ddod i rym. Mae'n rhaid i'r cais hefyd esbonio beth ydych chi'n meddwl y bydd effaith y newid ar eich tîm/adran a sut y gellir ymdrin â'r effaith honno.

Caniateir i chi wneud dau gais o dan y polisi hwn mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Mae gennych hawl statudol i wneud cais am batrwm oriau gwaith mwy hyblyg neu am drefniadau gweithio mwy hyblyg. Mae'n ofynnol i'ch rheolwr ddelio â chais o'r fath mewn modd rhesymol, a dim ond ar rai Seiliau Busnes Cydnabyddedig y gall ei wrthod. Fodd bynnag, nid oes gennych yr hawl awtomatig i newid i batrwm gweithio mwy hyblyg.

Os byddwch yn gofyn am amserlen waith sy'n gostwng nifer eich oriau/diwrnodau arferol, bydd eich tâl a'ch gwyliau blynyddol yn cael ei addasu o ganlyniad.

Mae gennych yr hawl i drefnu bod cynrychiolydd Undeb Llafur neu gydweithiwr yn mynychu'r cyfarfod a/neu'r cyfarfod apêl ynghylch eich cais am drefniadau gweithio hyblyg gyda chi.

Rhaid i gais am drefniadau gweithio hyblyg fod yn gais ysgrifenedig ac:

  • mae'n rhaid iddo gael ei wneud ar ffurflen ymgeisio am drefniadau gweithio hyblyg FW (A).
  • rhaid iddo nodi'r dyddiad.
  • rhaid iddo nodi'r newid(iadau) i drefniadau gwaith yr hoffech fanteisio arnynt.
  • rhaid iddo nodi'r dyddiad a gynigir gennych fel y dyddiad pan ddylai'r newid(iadau) y gofynnwyd amdano/amdanynt ddod i rym.
  • rhaid iddo nodi effaith(effeithiau), os o gwbl, unrhyw newid(iadau) ar y tîm/adran yn eich barn chi, a sut y byddai modd delio ag unrhyw effeithiau o'r fath yn eich barn chi ac.
  • mae'n rhaid iddo nodi a ydych chi wedi cyflwyno cais i weithio oriau hyblyg yn flaenorol, ac os felly, pryd.

Gall gweithwyr wneud dau gais am weithio hyblyg mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Ar ôl cytuno i gais am drefniadau gweithio hyblyg, mae'n creu newid parhaol i'ch contract, oni bai y cytunir fel arall, ac ni fydd modd ei newid heb i chi a'ch rheolwr ddod i gytundeb pellach.  Mae modd i'r ddau ohonoch gytuno bod y trefniadau'n rhai dros dro, neu eu bod yn destun cyfnod prawf.  Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd cyflogai'n gofalu am rywun y mae ganddynt salwch angheuol, efallai mai dim ond cyfnod dros dro drefniadau gweithio hyblyg y bydd y cyflogai'n dymuno ei gael, ac efallai y bydd modd i'r rheolwr ganiatáu hyn.

Ym mwyafrif yr achosion, bydd er budd i'r ddau barti bod y trefniant gweithio newydd yn un parhaol.  Efallai y bydd cyflogeion sy'n gofyn am drefniadau gweithio hyblyg oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu yn cael anhawster wrth newid eu trefniadau gofal os bydd y rheolwr yn dymuno dychwelyd i'r trefniadau gweithio blaenorol.  Yn yr un modd, efallai na fydd modd i'r rheolwr gymeradwyo cais y cyflogai i ddychwelyd i batrwm gwaith blaenorol o ganlyniad i gyfyngiadau ar y gyllideb, efallai y bydd cyflogai arall wedi cael ei recriwtio i wneud y gwaith, neu efallai y bydd y gwaith wedi cael ei ad-drefnu.

Oes, mae modd i chi apelio os gwrthodir eich cais.  Mae'r cyfarfod apêl yn cynnig cyfle i adolygu eich cais ymhellach ac i chi gwestiynu'n fanwl pam y gwnaethpwyd y penderfyniad ac a seiliwyd y rhesymau dros wrthod y cais ar ffeithiau cywir.  Yn yr un modd â'r penderfyniad cychwynnol, rhaid i'r penderfyniad i wrthod cais ar ôl gwneud apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo gynnwys y dyddiad a nodi'r sail y dibynnwyd arni.

Bydd angen i chi nodi'r canlynol:

  • Os cytunir ar y cais, bydd hwn yn drefniant parhaol fel arfer.
  • A hoffech chi ofyn am gyfnod prawf er mwyn gweld a yw'r trefniadau arfaethedig yn addas i'ch anghenion, i ofynion eich rôl ac i'r tîm/adran.
  • Os ydych yn gofyn am drefniant sy'n golygu lleihau cyfanswm eich oriau gwaith, gostyngir eich cyflog ac amodau a thelerau eraill ar sail pro-rata.
  • Bydd goblygiadau ar gyfer eich pensiwn hefyd.
  • Mae o fantais i chi ddarparu cymaint o fanylder ag y bo modd yn y ffurflen gais am y patrwm gwaith yr ydych yn ei ddymuno, er mwyn sicrhau bod eich Rheolwr yn deall eich cais yn llawn.
  • Ystyriwch yr effaith ar gydweithwyr, eich rheolwr a'ch swydd pe byddai'r patrwm neu'r trefniadau gwaith yn newid. Dylech geisio dangos ar y ffurflen na fydd eich cais yn niweidio'ch perfformiad, eich swydd, y tîm na'r adran mewn unrhyw ffordd.  Mewn rhai achosion, efallai y bydd trefniadau gweithio hyblyg o fudd i'r tîm/adran – er enghraifft, os yw'n caniatáu i chi ddarparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod oriau brig.
  • Meddyliwch am unrhyw broblemau posibl y gallent godi o'ch cais. Sut fyddai modd goresgyn y rhain?
  • Ystyriwch a oes unrhyw oblygiadau iechyd a diogelwch y gallent ddeillio o'r trefniadau gweithio hyblyg yr ydych chi wedi gofyn amdanynt. Ar gyfer rhai mathau o drefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio gartref, bydd angen cynnal asesiad risg ar y cyd â chi, fel yr amlinellir yn y Polisi Gweithio Ystwyth.
  • Cael cyngor gan gydweithwyr (yn enwedig os ydynt eisoes yn gweithio mewn ffordd hyblyg) neu gan eich undeb llafur am eich cais a llenwi'ch ffurflen.
  • Dylech fod yn gyfarwydd â'r manylion yn eich cais am drefniadau gweithio Hyblyg a bod yn barod i ymhelaethu neu esbonio unrhyw ran o'ch cais.
  • Byddwch yn barod i fod yn hyblyg. Efallai y bydd eich rheolwr yn gofyn i chi ystyried cyfnod prawf neu batrymau neu ffurfiau gweithio hyblyg amgen.
  • Os ydych yn dymuno trefnu bod rhywun yn mynychu gyda chi, sicrhewch eich bod yn hysbysu'ch rheolwr (neu AD os yw'n gyfarfod apêl). Sicrhewch eich bod yn briffio'ch cydweithiwr neu'ch cynrychiolydd undeb llafur yn llawn ymlaen llaw.
  • Darllenwch Bolisi a Gweithdrefn Gweithio Hyblyg yr Awdurdod.
  • Dylai fod modd i'ch cynrychiolydd undeb llafur eich cynorthwyo, ac efallai y bydd ganddo wybodaeth bellach ar eich cyfer.
  • Gall eich Swyddog AD dynodedig gynnig cymorth hefyd.
  • Mae modd i chi weld gwybodaeth ar-lein hefyd – mae'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn cynhyrchu Canllaw cynhwysfawr i Gyflogeion a Chyflogwyr am Drefniadau Gweithio Hyblyg ar wefan .gov.
Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol