Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblygam rheolwyr
Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2024
I fod yn gymwys i wneud cais statudol am weithio'n hyblyg, mae'n rhaid bod yr unigolyn:
- yn weithiwr cyflogedig.
- heb wneud mwy na dau gais eisoes i weithio'n hyblyg yn ystod y 12 mis diwethaf.
- ddim yn weithiwr asiantaeth.
Mae gan weithwyr yr hawl statudol i wneud cais am batrwm oriau gwaith mwy hyblyg neu drefniadau gweithio mwy hyblyg. Dylech ddelio â chais mewn modd rhesymol, a dim ond ar rai Seiliau Busnes Cydnabyddedig y gallwch ei wrthod (gweler y Trefniadau Gweithredu Safonol ar gyfer 'seiliau busnes cydnabyddedig dros wrthod cais’). Fodd bynnag, nid oes gan weithwyr yr hawl awtomatig i newid i batrwm gweithio mwy hyblyg.
Ni fydd gofyn gwneud unrhyw addasiad os bydd yr oriau/diwrnodau i'w gweithio dan gontract yn aros yr un fath. Os gweithredir trefniant sy'n effeithio ar yr oriau/diwrnodau gwaith, megis gostwng nifer yr oriau/diwrnodau gwaith arferol, efallai y bydd angen gwneud addasiad.
Nac oes. O 30 Mehefin 2014, nid yw'n ofyniad statudol mwyach bod cyflogai'n rhoi rheswm pan fyddant yn gwneud cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg. Nid yw'r hawl i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg yn cael ei chyfyngu i geisiadau a wneir er mwyn galluogi'r cyflogai i ofalu am rywun mwyach, ac ni cheir gofyniad ar y cyflogai i nodi eu rheswm dros wneud y cais.
Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth sy'n eich atal chi rhag gofyn i'r cyflogai pam eu bod yn gwneud y cais am drefniadau gweithio hyblyg, ac fe allai cael gwybod mwy am anghenion y cyflogai eich cynorthwyo chi i awgrymu ffordd y byddai modd bodloni'r anghenion hynny.
Fodd bynnag, ni ddylech ddefnyddio diffyg rheswm da fel sail penderfyniad i wrthod y cais.
Nac ydynt, nid yw gweithwyr asiantaeth yn gymwys i fanteisio ar yr hawl statudol i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. Caiff gweithiwr asiantaeth eu diffinio fel rhywun a ddarperir gan asiant i wneud gwaith ar gyfer rhywun arall (“y cyfarwyddwr”) dan gontract neu drefniant arall a wneir rhwng yr asiantaeth a'r cyfarwyddwr.
Bydd gan weithiwr sy'n tynnu'n ôl ei gais am weithio'n hyblyg hawl i wneud cais arall o dan y weithdrefn statudol o fewn cyfnod o 12 mis o ddyddiad y cais gwreiddiol.
Dylech fod yn ymwybodol o'r risg o gŵyn ynghylch gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw/hil/anabledd ac ati os byddwch yn anwybyddu cais am weithio'n hyblyg, neu'n ei wrthod heb roi ystyriaeth ddifrifol iddo, hyd yn oed pan nad yw'r cais yn dod o dan weithdrefn statudol.
Oes, mae modd i chi a'r cyflogai benderfynu y dylid cynnal cyfnod prawf mewn perthynas â'r trefniadau gweithio hyblyg arfaethedig. Mae cyfnod prawf yn rhoi cyfle i chi a'r cyflogai adolygu sut y mae'r trefniadau'n gweithio mewn gwirionedd, ac a ydynt yn debygol o arwain at unrhyw anawsterau ymarferol i'r adran gyfan.
Mae modd i'r cam o weithredu'r newid ffurfiol gymryd hyd at dri mis o'r adeg pan gyflwynir cais statudol cyflogai am drefniadau gweithio hyblyg, oni bai eich bod chi a'r cyflogai'n cytuno ar gyfnod hwy. Felly, cyn cychwyn ar gyfnod prawf, dylai'r ddau barti gytuno i ymestyn y terfyn amser statudol dan y weithdrefn trefniadau gweithio hyblyg (oni bai y bydd y cyfnod prawf yn cael ei gwblhau o fewn y cyfnod penderfynu o dri mis).
Yn ogystal, dylech chi a'r cyflogai gofnodi'r patrwm gwaith newydd, gan egluro mai amrywiad dros dro yw hwn yn unig i amodau contract y cyflogai. Dylai'r cytundeb ysgrifenedig nodi dyddiad cychwyn a gorffen y cyfnod prawf a'r newidiadau y cytunwyd arnynt. Dylai gofnodi eich bod chi'n cadw'r hawl, ar ddiwedd y cyfnod prawf cytunedig, i fynnu bod y cyflogai'n dychwelyd i'w drefniant gwaith blaenorol. Dylai'r ddau barti lofnodi'r ddogfen hon.
O 30 Mehefin 2014, mae gan bob cyflogai yr hawl statudol i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg, ar yr amod ei fod wedi rhoi gwasanaeth parhaus am o leiaf 26 wythnos.
Yn ogystal, dylech gadw mewn cof eich dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ystyried cais am drefniadau gweithio hyblyg a wneir gan gyflogai sy'n meddu ar nodwedd warchodedig.
Felly, fe'ch cynghorir i ystyried pob cais am drefniadau gweithio hyblyg o ddifrif, gan roi ystyriaeth briodol iddynt.
Mae gofyn i chi ddelio â cheisiadau mewn ffordd resymol. Rhaid i chi hysbysu'r cyflogai o'ch penderfyniad cyn pen tri mis o'r cais, neu gyfnod hwy os cytunir ar hynny gyda'r cyflogai.
Os byddwch yn cytuno ar gais am drefniadau gweithio hyblyg, byddwch yn cytuno i newid mewn amodau a thelerau cyflogaeth; dylech gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'r newid dan a.4 Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996.
Pan fo'r newid yn un helaeth, efallai y byddwch yn penderfynu cyhoeddi contract diwygiedig i'r cyflogai er mwyn osgoi unrhyw ddryswch ynghylch yr amodau newydd, ond ni cheir gofyniad cyfreithiol i wneud hyn.
Os na fydd cyflogai'n mynychu cyfarfod a drefnwyd i drafod cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg, dylech gysylltu â'r cyflogai; gofynnwch am esboniad o'i absenoldeb a cheisiwch aildrefnu'r cyfarfod os yw hynny'n briodol cyn pen 7 diwrnod calendr o'r dyddiad gwreiddiol a gynigiwyd ar gyfer y cyfarfod.
Os na fydd cyflogai'n mynychu cyfarfod heb roi gwybod ymlaen llaw, ac os na fydd yn rhoi esboniad rhesymol cyn pen 7 diwrnod calendr, dylech ysgrifennu at y cyflogai gan gadarnhau bod y cais yn cael ei drin fel cais a dynnwyd yn ôl.
Pan fyddwch yn gwrthod cais, mae gan y cyflogai yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig, a'i gyfeirio i'r Cyfarwyddwr priodol neu eu cynrychiolydd enwebedig, gan nodi'r sail dros wneud yr apêl, cyn pen 14 diwrnod o gael yr hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad.
Mae modd i chi drin cais statudol am drefniadau gweithio hyblyg fel cais a dynnwyd yn ôl os na fydd y cyflogai'n mynychu'r cyfarfod cychwynnol a drefnwyd gennych chi i drafod y cais ac ail gyfarfod a drefnwyd at y diben hwnnw, heb reswm da.
Mae modd i chi drin y cais fel pe bai'n gais a dynnwyd yn ôl hefyd os bydd y cyflogai'n penderfynu tynnu'r cais yn ôl neu os bydd y cyflogai'n gwrthod rhoi'r wybodaeth ofynnol i chi, a bod hynny'n afresymol.
Rhaid i chi hysbysu'r cyflogai eich bod chi wedi penderfynu trin methiant y cyflogai i fynychu'r cyfarfodydd fel achos lle y tynnwyd y cais yn ôl.
Gall gweithwyr wneud dau gais am weithio hyblyg mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Ar ôl cytuno ar gais am drefniadau gweithio hyblyg, mae'n rhan o newid parhaol i gontract y cyflogai, oni bai y cytunir fel arall, ac ni fydd modd ei newid heb i chi a'r cyflogai gytuno ymhellach ar hynny. Mae modd i chi a'r cyflogai gytuno bod y trefniadau'n rhai dros dro, neu eu bod yn destun cyfnod prawf. Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd cyflogai'n gofalu am rywun sydd â salwch angheuol, efallai y byddwch yn dymuno cael cyfnod dros dro yn unig o drefniadau gweithio hyblyg, y bydd modd i chi ymdopi ag ef efallai.
Ym mwyafrif yr achosion, bydd er budd y ddau barti bod y trefniant gweithio newydd yn un parhaol. Efallai y bydd cyflogeion sy'n gofyn am drefniadau gweithio hyblyg oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, yn cael anhawster i newid eu trefniadau gofal os byddwch chi'n dymuno dychwelyd i'r trefniadau gwaith blaenorol. Yn yr un modd, efallai na fydd modd i chi ganiatáu cais cyflogai i ddychwelyd i batrwm gwaith blaenorol o ganlyniad i gyfyngiadau ar eich cyllideb, oherwydd bod cyflogai arall wedi cael ei recriwtio i wneud y gwaith efallai, neu oherwydd bod y gwaith wedi cael ei ad-drefnu efallai.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol