Cynhadledd Achos

Diweddarwyd y dudalen: 01/07/2025

Cyn gofyn am gynhadledd achos, yn y lle cyntaf byddem yn annog rheolwyr i ofyn drwy e-bost am eglurhad ar y cyngor a roddwyd yn yr adroddiad meddygol. 

Ar adegau, efallai y bydd gwrthdaro rhwng canlyniadau'r adroddiad, barn y gweithiwr ac anghenion y gwasanaeth a bydd angen mynd i'r afael â rhain, yn aml gellir datrys y rhain drwy drefnu cyfarfod gyda'r Rheolwr ac Adnoddau Dynol. 

Yn dilyn yr uchod, os oes angen eglurder pellach o hyd, gall cynhadledd achos fod yn fwy buddiol ar yr adeg honno. Gall rheolwr ofyn am gynhadledd achos drwy broses arferol rheolwyr ar gyfer atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol. 

Mae cynhadledd achos yn gyfarfod anffurfiol nad yw'n rhan o'r polisi absenoldeb salwch. Defnyddir cynhadledd achos yn yr achosion mwyaf cymhleth ond yn syml cyfarfod yw hwn i roi eglurhad meddygol pellach ar yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad. Cynhelir y cyfarfod rhwng y gweithiwr, y rheolwr, y clinigwr, y Cynghorydd Adnoddau Dynol a chynrychiolydd undeb llafur pan fo angen.  

Rheolwyr fyddai'n arwain y cyfarfod fel arfer gyda'r ymarferydd Iechyd Galwedigaethol yno i roi mewnbwn meddygol. 

Adnoddau Dynol