Dychwelyd yn Raddol
Diweddarwyd y dudalen: 17/11/2025
Mewn achosion o absenoldeb salwch tymor hir, efallai y bydd Iechyd Galwedigaethol yn argymell bod y gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Diben dychwelyd yn raddol i'r gwaith yw adsefydlu'r gweithiwr i'w ddyletswyddau llawn ac adeiladu'n raddol yn ôl i fyny i ymgymryd â'i oriau gwaith arferol.
Cytunir ar fanylion y dychwelyd yn raddol fel y mae IG wedi'i argymell rhwng y rheolwr llinell a'r gweithiwr, gan ystyried anghenion y gwasanaeth. Bydd dychwelyd yn raddol ar gyfer uchafswm o bedair wythnos ac yn gallu cymryd amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys:
- Gweithio ar ddyddiau penodol o'r wythnos yn unig
- Gweithio nifer lai o oriau
- Ymgymryd â dyletswyddau cyfyngedig am gyfnod o amser
Yn dilyn cyfnod o absenoldeb salwch tymor hir pan nad yw'r Cynghorydd Iechyd Galwedigaethol wedi argymell dychwelyd yn raddol ac mae gan y Rheolwr Llinell rai pryderon, yna dylid ail-atgyfeirio'r mater i Iechyd Galwedigaethol er mwyn sicrhau ni ragwelir unrhyw effaith andwyol ar iechyd y gweithiwr.
Mae polisi Absenoldeb Salwch Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi ar y pryd, mewn achosion o absenoldeb salwch hirdymor, gall Iechyd Galwedigaethol argymell bod y gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Fodd bynnag, yn y dyfodol, er mwyn hwyluso dychwelyd i'r gwaith heb oedi diangen, bellach gall rheolwr gytuno ar gynllun dychwelyd i'r gwaith yn raddol ar gyfer gweithiwr a'i weithredu os nad oes angen addasiadau eraill, heb gyfeirio'r gweithiwr at Iechyd Galwedigaethol.
Pwrpas dychwelyd i'r gwaith yn raddol yw adsefydlu'r gweithiwr i'w ddyletswyddau llawn a chynyddu hyn yn raddol hyd nes y gellir cyflawni'r oriau gwaith arferol. Bydd y rheolwr llinell a'r gweithiwr yn cytuno ar fanylion y cynllun dychwelyd i'r gwaith yn raddol gan roi ystyriaeth i anghenion y gwasanaeth.
Gellid sefydlu hyn wrth gael sgwrs gyda'r gweithiwr ynglŷn â pha rwystrau y mae'n teimlo sy’n ei atal rhag dychwelyd i oriau gwaith arferol am gyfnod byr, gan ddefnyddio'r rhestr wirio isod. Gallai cynllun byr gynnwys cyfnod o 1-2 wythnos neu hyd at 4 wythnos ar y mwyaf yn dibynnu ar sut mae'r gweithiwr yn ymdopi wrth ddychwelyd i'r gwaith; gallai hyn olygu llai o oriau, llai o ddiwrnodau neu gymysgedd o'r ddau a gallai fod yn hyblyg os oes angen os nad yw'r gweithiwr yn dod i ben â’r oriau y cytunwyd arnynt.
Hefyd, os yw meddyg teulu'r gweithiwr wedi cynghori y dylid cael cynllun dychwelyd i'r gwaith yn raddol a does dim angen addasiadau eraill, yna gallai'r rheolwr weithredu’r cynllun dychwelyd i'r gwaith yn raddol.
Dylai'r Rheolwr Llinell adolygu cynnydd y gweithiwr yn wythnosol, ac os bydd yn gweld bod y gweithiwr yn annhebygol o allu ailddechrau ei oriau gwaith a'i ddyletswyddau arferol cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos, yna bydd angen gwneud atgyfeiriad at Iechyd Galwedigaethol i benderfynu ar ffitrwydd yr unigolyn i weithio.
Os yw'r meddyg teulu wedi dweud bod y gweithiwr yn ffit i weithio ond bod gan y rheolwr bryderon am hyn ar ôl siarad â'r gweithiwr, efallai y bydd angen atal y gweithiwr o'r gwaith ar sail feddygol hyd nes y ceir asesiad gan Iechyd Galwedigaethol. Dywed y polisi absenoldeb salwch fod 'Dyletswydd arnom i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau iechyd a diogelwch y gweithiwr. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen atal gweithiwr o'r gwaith ar sail feddygol hyd nes y ceir asesiad meddygol os oes risg penodol i iechyd. Bydd y penderfyniad yn cael ei seilio ar asesiad risg. Os yw gweithiwr yn cael ei atal ar sail feddygol, bydd ganddo'r hawl i gael tâl llawn. Dylid adolygu'r ataliad ar ôl derbyn yr asesiad gan Iechyd Galwedigaethol. Fodd bynnag, os yw'r gweithiwr yn cael cynnig gwaith addas arall ac nid yw'n ei dderbyn, gallai golli'r hawl i gael ei dalu.)’
Bydd y gweithiwr yn cael ei dalu'n llawn hyd at bedair wythnos ar y mwyaf yn ystod y cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Os cytunir ar ddychwelyd i'r gwaith yn raddol dros gyfnod sy'n fwy na phedair wythnos, bydd angen rheoli'r cyfnod ychwanegol drwy ddefnyddio, er enghraifft, gwyliau blynyddol/hyblyg/absenoldeb di-dâl/gostyngiad dros dro mewn oriau ac ati.
Ni fydd angen tystysgrifau meddygol ar gyfer y cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol, gan na fydd y gweithiwr bellach ar absenoldeb salwch ac ni fydd tâl salwch yn berthnasol.
1. Pam rydych yn teimlo bod angen cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol arnoch?
2. Pa rwystrau sy'n eich atal rhag gweithio eich oriau arferol? Trafodwch sut y gallai'r rheolwr a/neu'r gweithiwr oresgyn y rhwystrau hyn drwy'r cyfnod byr:
- Mân addasiadau i ddyletswyddau.
- Addasiadau i'r ffordd y mae'r gwaith yn cael ei drefnu.
3. Ydych chi'n teimlo bod angen addasiadau eraill arnoch i'ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn? (Efallai y bydd angen atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol os mai 'ydw' yw’r ateb neu os nad yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn gallu goresgyn y rhwystrau a drafodwyd).
Senario 1
Mae ME yn weithiwr gofal ac wedi bod yn absennol o'r gwaith gyda haint ar y frest ers 4 wythnos, mae'n teimlo'n ddigon ffit i ddychwelyd i'r gwaith ond mae'n poeni efallai na fydd yn gallu gweithio 5 diwrnod llawn yn syth oherwydd blinder yn hwyr yn y prynhawn. Gan ddefnyddio'r rhestr wirio, dyma'r canlyniad:
1. Pam rydych yn teimlo bod angen cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol arnoch?
2. Pa rwystrau sy'n eich atal rhag gweithio eich oriau arferol? Trafodwch sut y gallai'r rheolwr a/neu'r gweithiwr oresgyn y rhwystrau hyn drwy'r cyfnod byr:
- Mân addasiadau i ddyletswyddau.
- Addasiadau i'r ffordd y mae'r gwaith yn cael ei drefnu.
3. Ydych chi'n teimlo bod angen addasiadau eraill arnoch i'ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn? (Efallai y bydd angen atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol os mai 'ydw' yw’r ateb neu os nad yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn gallu goresgyn y rhwystrau a drafodwyd).
- Teimlo'n flinedig yn hwyr yn y prynhawn.
- Nid yw'n teimlo y gall weithio'r sifft gyfan oherwydd blinder erbyn y prynhawn.
- Na.
Canlyniad - Cytuno ar gynllun byr i ddychwelyd i'r gwaith dros bythefnos, gan weithio boreau am 3 diwrnod yn wythnos 1 a 4 sifft yn y bore yn wythnos 2 cyn dychwelyd i oriau arferol yn wythnos 3. Cyfarfod yn wythnos 1 a diwedd wythnos 2 i asesu a yw'n ymdopi â'r oriau ac os yw'n gallu dychwelyd i oriau arferol yn wythnos 3.
Senario 2
Mae CP yn gynorthwyydd gweinyddol ac wedi bod yn absennol o'r gwaith am 4 wythnos gyda phigwrn dolurus ond mae'n teimlo y gall ddychwelyd i'r gwaith ond yn poeni na fydd efallai'n gallu gweithio 5 diwrnod 8 awr oherwydd bod y pigwrn yn anesmwyth. Gan ddefnyddio'r rhestr wirio, dyma'r canlyniad:
1. Pam rydych yn teimlo bod angen cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol arnoch?
2. Pa rwystrau sy'n eich atal rhag gweithio eich oriau arferol? Trafodwch sut y gallai'r rheolwr a/neu'r gweithiwr oresgyn y rhwystrau hyn drwy'r cyfnod byr:
- Mân addasiadau i ddyletswyddau.
- Addasiadau i'r ffordd y mae'r gwaith yn cael ei drefnu.
3. Ydych chi'n teimlo bod angen addasiadau eraill arnoch i'ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn? (Efallai y bydd angen atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol os mai 'ydw' yw’r ateb neu os nad yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn gallu goresgyn y rhwystrau a drafodwyd).
- Anesmwythder yn y pigwrn os yw’n symud o gwmpas yn rheolaidd heb orffwys.
- Gweithio sifft 8 awr a methu â gorffwys y pigwrn
- Na
Canlyniad - gweithio 5 hanner diwrnod am 1 wythnos a 5 diwrnod 6 awr yn wythnos 2, defnyddio stôl i orffwys y pigwrn wrth eistedd, a chymryd seibiannau rheolaidd bob 30 munud os oes angen sefyll neu symud o gwmpas. Cyfarfod yn wythnos 1 a diwedd wythnos 2 i asesu a yw'n ymdopi â'r oriau ac os yw'n gallu dychwelyd i oriau arferol yn wythnos 3.
Senario 3
Mae JB yn llwythwr sbwriel/ailgylchu ac wedi bod yn absennol o'r gwaith am 6 wythnos gyda symptomau gorbryder ac yn teimlo'n barod i ddychwelyd i'r gwaith ac i fynd yn ôl i drefn, ond mae'n poeni efallai na fydd yn gallu gweithio trwy'r wythnos gan mai nawr y mae’r feddyginiaeth newydd yn dechrau cael effaith ac mae'n teimlo efallai na fyddai'n gallu rheoli unrhyw bethau sy'n achosi straen a allai ddigwydd yn ystod y diwrnod gwaith - yn y gwaith neu gartref. Gan ddefnyddio'r rhestr wirio, dyma'r canlyniad:
1. Pam rydych yn teimlo bod angen cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol arnoch?
2. Pa rwystrau sy'n eich atal rhag gweithio eich oriau arferol? Trafodwch sut y gallai'r rheolwr a/neu'r gweithiwr oresgyn y rhwystrau hyn drwy'r cyfnod byr:
- Mân addasiadau i ddyletswyddau.
- Addasiadau i'r ffordd y mae'r gwaith yn cael ei drefnu.
3. Ydych chi'n teimlo bod angen addasiadau eraill arnoch i'ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn? (Efallai y bydd angen atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol os mai 'ydw' yw’r ateb neu os nad yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn gallu goresgyn y rhwystrau a drafodwyd).
- Yn poeni am weithio wythnos lawn yn syth gan mai nawr mae'r feddyginiaeth yn dechrau cael effaith.
- Unrhyw straen yn y gwaith/bywyd a allai effeithio arno.
- Oes - rhywfaint o gymorth llesiant.
Canlyniad - gweithio 3 diwrnod llawn yn wythnos 1 gan weithio Ll/Mer/G, a 4 diwrnod llawn yn wythnos 2 gan weithio Ll/Ma/I/G ac i atgyfeirio at y Gwasanaeth Cymorth Llesiant; anfon neges at y rheolwr os nad yw'n gallu rheoli'r oriau a weithiwyd a gellir trafod atgyfeiriad at Iechyd Galwedigaethol os oes angen addasiadau eraill. Cyfarfod yn wythnos 1 a diwedd wythnos 2 i asesu a yw'n ymdopi â'r oriau ac os yw'n gallu dychwelyd i oriau arferol yn wythnos 3.
Senario 4
Mae CH yn Gynorthwyydd Cymorth Busnes ac wedi bod yn absennol o'r gwaith am 2 fis gan fod gwaelod ei gefn yn boenus, ac mae'n teimlo'n barod i ddychwelyd i'r gwaith ond mae'n poeni efallai na fydd yn gallu gweithio'r wythnos gyfan yn eistedd wrth ei ddesg am 8 awr y dydd. Gan ddefnyddio'r rhestr wirio, dyma'r canlyniad:
1. Pam rydych yn teimlo bod angen cyfnod dychwelyd i'r gwaith yn raddol arnoch?
2. Pa rwystrau sy'n eich atal rhag gweithio eich oriau arferol? Trafodwch sut y gallai'r rheolwr a/neu'r gweithiwr oresgyn y rhwystrau hyn drwy'r cyfnod byr:
- Mân addasiadau i ddyletswyddau.
- Addasiadau i'r ffordd y mae'r gwaith yn cael ei drefnu.
3. Ydych chi'n teimlo bod angen addasiadau eraill arnoch i'ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn? (Efallai y bydd angen atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol os mai 'ydw' yw’r ateb neu os nad yw'r rheolwr a'r gweithiwr yn gallu goresgyn y rhwystrau a drafodwyd).
- Yn poeni y gallai eistedd wrth ddesg drwy'r dydd wneud ei broblem gyda'i gefn yn waeth ac achosi rhagor o absenoldeb salwch
- Gweithio 8 awr y dydd gan ddefnyddio'i gadair a'i ddesg bresennol
- Ydy - atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol am addasiadau pellach ar gyfer addasu gweithfan - darparu offer newydd neu offer wedi'i addasu.
Canlyniad - gweithio 3 hanner diwrnod yn wythnos 1 gan weithio Ll/Mer/G, 2 ddiwrnod llawn a 2 hanner diwrnod yn wythnos 2 gan weithio Ll/Ma/I/G, 2 ddiwrnod llawn a 3 hanner diwrnod yn wythnos 3. Bydd atgyfeiriad at Iechyd Galwedigaethol yn cael ei wneud cyn dychwelyd i weld a oes angen offer swyddfa newydd h.y. desg sefyll, cadair neu stôl droed. Cyfarfod yn wythnosol pan fydd yn dychwelyd i asesu a yw'n ymdopi â'r oriau ac os yw'n gallu dychwelyd i oriau arferol yn wythnos 4.
Efallai y bydd gweithiwr angen i addasiadau rhesymol gael eu gwneud pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith. Gall addasiadau o'r fath gynnwys y canlynol:
- Cytuno ar oriau gwaith hyblyg
- Mân addasiadau i ddyletswyddau
- Gostyngiad mewn oriau gwaith
- Addasiadau i'r ffordd y mae gwaith yn cael ei drefnu
- Addasu gorsaf waith - darparu cyfarpar newydd neu addasedig
Cyfrifoldeb y Rheolwr Llinell yw sicrhau bod yr holl addasiadau rhesymol wedi cael eu rhoi ar waith a'u heffeithiolrwydd wedi'i asesu cyn bwrw ymlaen trwy gamau pellach y polisi absenoldeb salwch.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi rhwymedigaeth gyfreithiol glir ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol i ddyletswyddau/amodau staff anabl.
-
Os na fydd gweithredu ‘addasiadau rhesymol’ yn galluogi gweithiwr i ddychwelyd i'w swydd bresennol, bydd y Rheolwr Llinell yn gweithio gydag AD a'r gweithiwr i ystyried swydd wag amgen addas. Mae hyn yn addasiad rhesymol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Pan fydd Iechyd Galwedigaethol yn argymell adleoli, bydd y gweithiwr yn cael ei roi ar y gofrestr adleoli am gyfnod 4 wythnos yn gychwynnol. Bydd y gweithiwr yn cael ei gefnogi'n briodol i edrych am swyddi gwag a allai cyfateb i'w sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwyseddau.
Os na ddeuir o hyd i gyflogaeth amgen addas o fewn y cyfnod 4 wythnos, bydd y Rheolwr Llinell a'r cynghorydd AD yn cyfarfod â'r unigolyn i roi rhybudd am ddiswyddo oherwydd gallu iechyd gwael. Bydd y gweithiwr yn parhau ar y gofrestr adleoli ar gyfer ei gyfnod rhybudd llawn.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
- Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
Gadael y Cyngor
Cyfeirlyfr
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
- Polisi ynghylch Costau Teithio a Chynhaliaeth Staff
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol
