Absenoldeb Rhiant
Diweddarwyd y dudalen: 25/03/2024
Absenoldeb Rhiant yw'r hawl i gymryd 18 wythnos o absenoldeb heb dâl er mwyn gofalu am blentyn. Ers 5ed Ebrill 2015 mae'r ddeddfwriaeth wedi'i newid fel bod yr hawl hon yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw blentyn sydd o dan 18 oed. Y cyfnod o 18 wythnos heb dâl yw cyfanswm yr absenoldeb rhiant y gellir ei gymryd ar gyfer plentyn hyd nes bod y plentyn yn 18 oed.
Nid oes angen isafswm o wasanaeth i fod yn gymwys. Er mwyn bod yn gymwys i gael Absenoldeb Rhiant, mae'n rhaid eich bod yn gyfrifol am blentyn.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhiant biolegol y plentyn
- Rhiant y plentyn os yn briod â'r rhiant biolegol adeg yr enedigaeth neu os ydyw wedi'i gofrestru'n rhiant i'r plentyn
- Y rhiant (os nad yw wedi'i gynnwys uchod) os wedi caffael cyfrifoldeb rhiant o dan Ddeddf Plant 1989. Gwneir hyn naill ai trwy orchymyn llys neu trwy gytundeb rhwng y gweithiwr geni a'r rhiant sy'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol penodol
- Gwarcheidwad a benodwyd o dan Adran 5 Deddf Plant 1989
- Rhieni mabwysiadol
- Partner sifil y rhiant biolegol y plentyn (yn ôl y diffiniad yn Neddf Partneriaeth Sifil 2005)
- Rhiant maeth
Gellir cymryd absenoldeb rhiant mewn un bloc o 18 wythnos, ar ffurf nifer o gyfnodau byrrach (isafswm o 1 wythnos) neu fel y cytunwyd gyda'ch rheolwr llinell.
Gellir gwneud ceisiadau am absenoldeb heb dâl o lai nag un wythnos yn unol â'r Polisi Gweithio Hyblyg neu'r darpariaethau absenoldeb heb dâl.
Diffiniad o wythnos:
- Lle nad yw patrwm gweithio y gweithiwr yn amrywio, wythnos yw'r cyfnod y maen nhw yn eu gweithio fel arfer
- Lle bo'r patrwm gweithio fel arfer yn amrywio o wythnos i wythnos neu dros gyfnod hwy, neu os yw'n ofynnol fel arfer i'r gweithiwr weithio ar rai wythnosau ac nid ar rai eraill, wythnos yw cyfanswm yr holl gyfnodau y maen nhw’n gweithio, wedi'i rannu â 52.
Bydd wythnos ar sail pro rata yn achos gweithwyr rhan-amser, e.e. os yw gweithiwr fel arfer yn gweithio am 3 diwrnod yr wythnos, ystyrir 3 diwrnod yn wythnos at ddibenion absenoldeb rhiant.
Bydd gofyn i chi gyflwyno cais Absenoldeb Rhiant gan ddefnyddio'r system hunanwasanaeth ar y we, ‘Dangosfwrdd – My View' a'i chyflwyno i'ch rheolwr llinell, gan wneud hynny o leiaf 7 diwrnod calendr cyn y dyddiad y bwriedir i'r absenoldeb ddechrau.
Os na allwch gael mynediad i'r system hunanwasanaeth ar y we, bydd gofyn i chi lenwi'r Ffurflen Gais Absenoldeb Rhiant a'i chyflwyno i'ch rheolwr llinell, gan wneud hynny o leiaf 7 diwrnod calendr cyn y dyddiad y bwriedir i'r absenoldeb ddechrau.
Bydd eich rheolwr llinell yn cymeradwyo/gohirio'r cais fel sy'n briodol, a bydd yn rhoi gwybod i chi am ei benderfyniad pan fydd yn dychwelyd y Ffurflen Gais. Mae'n rhaid gwneud hyn o fewn 7 diwrnod calendr ar ôl i'r cais ddod i law.
DALIER SYLW: Ni all yr Awdurdod ohirio rhiant neu riant mabwysiadol sy'n dymuno cymryd Absenoldeb Rhiant ar enedigaeth ei blentyn neu adeg ei fabwysiadu.
Gall eich rheolwr llinell ohirio Absenoldeb Rhiant:
- Petai hynny'n amharu'n ddiangen ar weithrediad y busnes. Fodd bynnag, os yw'r absenoldeb i gael ei gymryd ar unwaith wedi i blentyn gael ei eni neu ei leoli ar gyfer mabwysiadu, ni all eich rheolwr llinell ohirio'r absenoldeb.
Mae'n rhaid i reolwr llinell sy'n dymuno gohirio cyfnod o absenoldeb roi gwybod i chi, trwy lythyr, o fewn saith diwrnod ar ôl cael y cais am absenoldeb, gan nodi'r rheswm dros ei ohirio. Yn ogystal, rhaid i'ch rheolwr llinell gytuno i ganiatáu'r absenoldeb o fewn tri mis a phennu, yn ysgrifenedig, y dyddiad pan gaiff yr absenoldeb ei gymryd, ar ôl ymgynghori â chi. Os na ellir dod i gytundeb wedi ymgynghori, rhaid i’ch rheolwr llinell bennu dyddiadau priodol.
Os yw cyfnod o absenoldeb rhiant yn cynnwys Gŵyl Banc, bydd yr ŵyl banc heb dâl ac ni ellir ei chadw a'i chymryd yn ddiweddarach.
Os oes gennych fwy nag un swydd gyda'r Cyngor, nid oes hawl absenoldeb rhiant ar wahân ar gyfer pob swydd, h.y. cyfanswm yr absenoldeb rhiant y gellir ei hawlio yw 18 wythnos o hyd.
Os ydych am gymryd absenoldeb rhiant o un swydd yn unig, gan ddal i weithio yn y llall/lleill, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o bythefnos yng nghyfanswm yr absenoldeb rhiant y gallwch ei hawlio.
Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cymryd absenoldeb rhiant o'r holl swyddi, a lle bo un rheolwr llinell (neu fwy nag un rheolwr llinell) yn dymuno gohirio'r absenoldeb, bydd yr absenoldeb ar gyfer yr holl swyddi yn cael ei ohirio. Mewn achosion o'r fath, cyfrifoldeb y rheolwyr llinell yw penderfynu ar amser arall y gellir cymryd absenoldeb rhiant ond mae'n rhaid bod hyn o fewn tri mis i'r cais gwreiddiol.
Os camddefnyddir y cynllun hwn mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â hynny o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu. Mae camddefnydd yn cynnwys:
- Cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw gofalu am blentyn. Yn gyffredinol digwydd hyn lle bo rhywun arall yn cymryd y prif gyfrifoldeb dros eich plentyn.
- Gwneud datganiad ffug o ran yr hawl i gael absenoldeb rhiant, er enghraifft oed y plentyn, y berthynas â'r plentyn, neu faint o absenoldeb rhiant a gymerwyd gyda chyflogwr blaenorol.
Os ydych o'r farn bod eich cais am absenoldeb rhiant wedi cael ei wrthod, neu fod absenoldeb wedi cael ei ohirio'n annheg, gallwch ddefnyddio'r Weithdrefn Achwyniad i ddatrys y mater.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol