Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
Diweddarwyd y dudalen: 16/07/2024
Mae'r Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol wedi'i gyflwyno fel mantais i staff er mwyn cynyddu'r hyblygrwydd o ran cynllunio amser i ffwrdd. Mae'r cynllun ar gael i'r rhan fwyaf o staff, ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol.
Trefniant Ildio Cyflog
Caiff gwyliau ychwanegol eu trin fel trefniant ildio cyflog ac mae'n amrywio telerau ac amodau eich cyflogaeth am gyfnod y cytundeb. Rydych yn cytuno i leihau eich cyflog gros yn ôl gwerth y diwrnodau o wyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd ac yn ei dro byddwn yn darparu hyd at 10 diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn, yn amodol ar y gofynion gweithredol sy'n gorfod parhau i fod yn flaenoriaeth.
Unwaith y telir yn llawn am y gwyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd, bydd telerau ac amodau eich cyflogaeth h.y. cyflog yn dychwelyd i'r telerau ac amodau cyn y trefniant ildio cyflog.
Cyn cyflwyno eich cais am brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, mae angen ichi ddeall y canlynol:
- Mae'r penderfyniad i'ch galluogi chi i brynu gwyliau ychwanegol yn gwbl yn ôl ein disgresiwn.
- Bydd angen ichi nodi'r dyddiadau rydych yn dymuno eu prynu.
- Os cymeradwyir eich cais am brynu gwyliau ychwanegol, bydd eich cyflog yn cael ei leihau drwy gynllun ildio cyflog â didyniadau misol a fydd yn para tan ddiwedd eich blwyddyn wyliau.
- Drwy gymryd rhan yn y Cynllun hwn, gallai effeithio ar eich cymhwysedd i gael taliadau statudol a budd-daliadau e.e. Credyd Treth Gwaith, Credyd Plant, Tâl Statudol o ran Mamolaeth/Tadolaeth a Mabwysiadu.
- Mae'n rhaid i'r holl wyliau ychwanegol a brynwyd gael eu defnyddio erbyn diwedd eich blwyddyn wyliau flynyddol y gwnaed y cais ynddi.
- Mae'n rhaid talu am yr holl wyliau ychwanegol a brynwyd, boed yn un swm o 10 diwrnod neu'n symiau lluosog, o fewn yr un cyfnod o wyliau blynyddol ag y cawsant eu prynu.
- Ar ôl prynu’r gwyliau, ni ellir eu gwerthu yn ôl i ni.
- O ganlyniad i dderbyn cyflog is, byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn llai ar gyfer cyfnod y didyniadau cyflog.
- Gallwch wneud cais i brynu'r pensiwn a gollwyd yn ôl drwy ddewis talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol.
Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o'n gweithwyr, ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol.
Bydd angen i chi sicrhau:
- Eich bod wedi cwblhau 12 mis o wasanaeth parhaus ar adeg gwneud y cais ac wedi cwblhau'r cyfnod prawf yn foddhaol;
- Bod gennych gontract cyflogaeth am gyfnod y cytundeb ildio cyflog; a
- Bod gennych gyflog gros sy'n uwch na throthwy y cyflog byw cenedlaethol, ar ôl ystyried yr holl daliadau ildio cyflog drwy gydol tymor y cytundeb ildio cyflog.
Os ydych yn dymuno prynu gwyliau ychwanegol, fe'ch anogir i drafod eich cais yn anffurfiol gyda'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl fel bod modd asesu'r effaith ar y gwaith yn eich maes mewn pryd ar gyfer cyflwyno cais ffurfiol. Dylech hefyd ystyried goblygiadau ariannol y didyniadau misol o'ch cyflog.
Gellir gwneud ceisiadau am brynu gwyliau ychwanegol ar unrhyw adeg o ddechrau eich blwyddyn wyliau blynyddol. Bydd didyniadau o'ch cyflog yn cael eu rhannu dros weddill eich blwyddyn wyliau gan ddechrau o'r cyfnod cyflog cyntaf posibl ar ôl cael cymeradwyaeth.
Mae'n bwysig eich bod yn deall:
- Nid oes hawl awtomatig i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Dim ond diwrnodau llawn o wyliau y gellir eu cymryd.
- Bydd y swm yn cael ei ddidynnu o'ch cyflog drwy'r cynllun ildio cyflog.
- Os byddwch yn gadael eich swydd, byddwn ni'n adennill unrhyw arian sy'n ddyledus o'ch cyflog terfynol neu'ch taliadau cyflog.
- Nid yw gwyliau ychwanegol yn bensiynadwy, felly bydd aelodau'r CPLlL yn colli'r diwrnodau cyfatebol o wasanaeth pensiynadwy.
- Mae'n rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn wyliau.
Bydd eich Rheolwr llinell yn:
- Trin yr holl geisiadau yn gyfartal
- Asesu eich cais am brynu gwyliau blynyddol ychwanegol ac ystyried ymarferoldeb gweithredol caniatáu'r cais, gan gynnwys sicrhau y gellir cymryd y gwyliau ychwanegol o fewn eich blwyddyn wyliau.
- Sicrhau bod eich gwyliau'n cael eu rheoli'r briodol drwy gydol eich blwyddyn wyliau er mwyn sicrhau bod yr holl wyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu cymryd cyn diwedd eich blwyddyn wyliau.
- Rhoi gwybod i chi am y canlyniad o fewn 14 diwrnod calendr
- Anfon y cais am wyliau ychwanegol ymlaen at y Tîm Absenoldeb i'w brosesu
Bydd y Tîm Absenoldeb yn:
- Cyfrifo'r gost a godir arnoch i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn seiliedig ar eich cyflog ar adeg y cytunir ar eich cais am wyliau ychwanegol gan eich Rheolwr Llinell.
- Rhoi gwybod i chi am gyfanswm cost prynu'r gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Rhoi manylion ynghylch y didyniadau misol a fydd yn cael eu cymryd a rhoi gwybod i chi pa fis y bydd y didyniadau'n dechrau ac yn gorffen.
- Rhoi gwybod i chi am y broses o brynu'r pensiwn a gollwyd.
Ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo, bydd eich hawl i wyliau blynyddol yn ymddangos ar My View
Bydd angen ichi wneud cais am y gwyliau ychwanegol drwy My View fel y broses arferol o wneud cais am wyliau blynyddol.
Os na fydd cais yn cael ei gymeradwyo, gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad.
Gellir gofyn am hyn drwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Rheoli Pobl, Adeilad 4, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB gan nodi eich rhesymau dros ofyn am adolygiad.
Ar ôl i gais gael ei gymeradwyo, a'r taliad cyntaf wedi'i ddidynnu o'ch cyflog, mae'r cytundeb yn rhwymol ac ni ellir tynnu'n ôl ohono cyn bod y taliad terfynol yn cael ei ddidynnu.
Drwy brynu gwyliau ychwanegol, rydych yn derbyn cyflog is a byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn llai. Gallwch wneud cais i brynu'r pensiwn a gollwyd drwy ddewis talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol ond nid yw hyn yn orfodol.
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi gwybod i chi ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo a bydd yn rhoi ffigwr y cyflog pensiynadwy ichi. Os ydych chi am brynu eich pensiwn a gollwyd, rhaid ichi wneud cais o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y cymeradwywyd eich cais. Gellir cael gwybodaeth am y gost a'r cais am brynu pensiwn a gollwyd drwy fynd i wefan yr lgps.
Os byddwch yn gwneud cais o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y cymeradwywyd eich cais, rhennir y gost fel a ganlyn: 1/3 gweithiwr a 2/3 cyflogwr. Os byddwch yn gwneud cais i brynu'r pensiwn a gollwyd ar ôl 30 diwrnod o'r dyddiad y cymeradwywyd eich cais, chi fydd yn talu'r gost lawn.
Canllawiau ynghylch Prynu Pensiwn a Gollwyd
Mae'r cais am brynu pensiwn a gollwyd yn eithaf syml, ond dyma rai pwyntiau defnyddiol os oes gennych unrhyw broblemau:
- Gellir dod o hyd i'r 'lost pensionable pay figure' yn adran 4 o'ch ffurflen gais gwyliau blynyddol a gymeradwywyd.
- Y rheswm am yr absenoldeb yw 'authorised unpaid leave'.
- Gallwch adael y blwch '30 day override' yn wag os ydych yn gwneud cais o fewn 30 diwrnod o gael cymeradwyaeth, ond rhaid ticio'r blwch os oes mwy na 30 diwrnod wedi mynd heibio ers cael cymeradwyaeth.
- Y dull talu fydd 'lump sum deduction'.
- Gadewch y blwch 'years you wish to pay over and frequency' yn wag.
Ar ôl ichi gael canlyniad, rydym yn argymell eich bod yn argraffu'r dyfynbris ar gyfer eich cofnodion. Yna, parhewch i gwblhau'r cais, ei argraffu a'i lofnodi a'i anfon at y Tîm Absenoldeb, Gwasanaethau Pobl, Cyngor Sir Caerfyrddin, Adeilad 4, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r cais am brynu pensiwn a gollwyd, ffoniwch estyniad 6169.
Gall gymryd rhan yn y cynllun ildio cyflog effeithio ar eich cymhwysedd i gael taliadau statudol a budd-daliadau e.e. gallai effeithio ar Gredyd Treth Gwaith, Credyd Plant, Tâl Statudol o ran Mamolaeth/Tadolaeth a Mabwysiadu.
Os ydych yn derbyn y budd-daliadau hyn ac yn ystyried prynu gwyliau blynyddol ychwanegol, cysylltwch â'ch darparwr budd-daliadau i ddeall sut y gallai'r cynllun effeithio arnoch.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol