Achwyniad
Diweddarwyd y dudalen: 16/12/2024
Mae’n bosibl i unrhyw un sy’n gweithio i ni gael problem neu bryder rhyw bryd ynglŷn â’u gwaith, amodau gwaith neu eu perthnasau â chydweithwyr, y maent yn dymuno eu trafod. Mae hefyd yn glir ei bod yn fuddiol i ni ddatrys problemau cyn y gallant ddatblygu yn anawsterau mawr i bawb dan sylw.
Dylid codi achwyniadau mor fuan â phosibl ar ôl y digwyddiad neu ar ôl i’r mater godi. Disgwylir i chi a’ch rheolwr gydweithio i ddatrys materion yn gyflym ac anffurfiol pan fydd hynny’n bosibl a phriodol. Mae hyn yn helpu i ddatrys eich pryderon yn gynnar, yn lleihau amhariad yn y gwaith ac yn helpu perthnasau gwaith.
Mae achwyniad yn bryder, yn broblem neu’n gŵyn y byddwch yn ei chodi gyda ni.
Ymhlith y materion a allai achosi achwyniad mae:
- telerau ac amodau cyflogaeth
- iechyd a diogelwch
- cysylltiadau gwaith
- bwlio ac aflonyddwch
- arferion gwaith newydd
- amgylchedd gwaith
- newid sefydliadol
- gwahaniaethu
Mae gennych hawl i gael cwmni cydymaith, yn ystod holl gamau ffurfiol y weithdrefn hon. Gall cydymaith fod yn:
- cynrychiolydd neu swyddog undeb llafur
- cydweithiwr
Os byddwch yn dewis cael cwmni cydymaith, anfonir copïau o’r hysbysiadau am gyfarfodydd galluogrwydd, nodiadau cyfarfodydd, llythyr ymateb ac yn y blaen at yr unigolyn hwnnw, oni fyddwch yn ein cynghori fel arall, yn ysgrifenedig.
Mae’n bosibl y cynigir cymorth a chwnsela i chi os ydych yn ymwneud ag ymchwiliadau a gwrandawiadau disgyblu. Cysylltwch â’r Tîm Adnoddau Pobl Rheoli Pobl i gael cyngor.
Dylai cyflogeion a rheolwyr ddarllen Canllawiau Addasiadau Rhesymol yr Awdurdod lle mae gan gyflogai sy'n codi'r achwyniad anabledd ac ystyried pa addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen i'w galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob cam o'r weithdrefn achwyniadau. Er enghraifft, os nad yw cyflogai’n gallu cyfleu’r achwyniad yn ysgrifenedig (er enghraifft oherwydd anabledd neu anhawster mynegi ei hun yn ysgrifenedig) dylid cynnig cymorth i’w alluogi i lunio achwyniad ysgrifenedig neu dylid ystyried dull arall o ddatgan ei achwyniad. Er enghraifft, gall cyflogai geisio cymorth gan swyddog undeb llafur neu gydweithiwr.
Os byddwch yn codi achwyniad yn ystod unrhyw broses ddisgyblu, bydd eich Cyfarwyddwr neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd yn penderfynu a yw’n briodol gohirio’r broses ddisgyblu dros dro er mwyn ymdrin â’ch achwyniad.
Pan fydd cyswllt rhwng eich materion disgyblu a’ch achwyniad efallai y byddai’n fwy priodol ymdrin â’r ddau fater yr un pryd.
Darperir y canlynol fel canllaw yn unig oherwydd efallai y bydd sefyllfaoedd lle bydd angen newid rolau a chyfrifoldebau.
Eich cyfrifoldebau
Dylech godi eich achwyniad yn brydlon gyda’ch rheolwr fel arfer, gan esbonio’n glir beth yw’r broblem neu’r pryder ac awgrymu sut y gellid ei ddatrys ar y cam anffurfiol, pan fo hynny’n briodol. Wrth esbonio’r achwyniad, dylech lynu at y ffeithiau ac osgoi sylwadau goddrychol neu emosiynol. Fe’ch anogir i weithio gyda’ch rheolwr i geisio datrys eich achwyniad yn anffurfiol, er mwyn helpu i gynnal perthynas waith gadarnhaol. Os yw eich achwyniad yn ymwneud â’ch rheolwr yna dylech godi eich pryder gyda rheolwr uwch.
Eich rheolwr
Eich rheolwyr sydd fel arfer yn gyfrifol am ymdrin â’ch achwyniad a gweithredu’n brydlon, esbonio eich achwyniad, sefydlu’r ffeithiau a chadarnhau’r canlyniad i chi (gyda chyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl). Os nad yw’n briodol i’ch rheolwr ymdrin â’ch achwyniad, yna gallai rheolwr arall arwain y broses (gyda chyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl). Cedwir unrhyw gofnodion ysgrifenedig sydd gan eich Rheolwr yn unol ag egwyddorion diogelu data.
Rheoli Pobl (RhP).
I sicrhau cysondeb, bydd y Tîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl yn darparu cyngor ar bob cam o’r weithdrefn ac yn monitro ac adrodd ar gymhwyso’r Polisi. Bydd y tîm Rheoli Pobl hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw ar ffeiliau personol am y cyfnod priodol a chan ddilyn egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.
Dylid datrys eich pryder yn anffurfiol, cyflym a sensitif pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl.
Dylech chi a’ch rheolwr wneud pob ymdrech i geisio datrys yr achwyniad yn anffurfiol felly dylech drafod y mater gyda’ch rheolwr i ddechrau. Pan fydd eich achwyniad yn ymwneud â’ch rheolwr yna dylech godi eich pryder gyda rheolwr uwch.
Os ydych yn cael anhawster i esbonio eich achwyniad oherwydd iaith neu unrhyw reswm arall, yna fe’ch anogir i ofyn am help gan gynrychiolydd neu swyddog undeb llafur, gweithiwr arall neu Gynghorydd Adnoddau Dynol.
Efallai y bydd adegau pan na fydd yn bosibl datrys eich pryder yn anffurfiol. Yn dibynnu ar y rhesymau, gallech godi eich achwyniad yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig i reolwr uwch drwy gwblhau Ffurflen y Weithdrefn Achwyniadau.
Pan fydd eich achwyniad yn ymwneud â’ch rheolwr ac nad yw wedi’i datrys yn anffurfiol gyda rheolwr uwch, dylech godi eich pryder gyda’ch Pennaeth Gwasanaeth.
Pan fydd gennych bryder am y Prif Weithredwr, dylech godi’r mater yn ysgrifenedig gyda’r Swyddog Monitro.
Bydd y Rheolwr/Pennaeth Gwasanaeth yn cydnabod eich achwyniad yn ffurfiol o fewn 14 diwrnod calendr ac yn eich gwahodd i gyfarfod i drafod eich pryderon. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl a dylech gymryd pob cam rhesymol i’w fynychu.
Dylech gael hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad y cyfarfod o fewn 14 diwrnod calendr.
Os nad ydych yn fodlon â’r canlyniad, mae’n bosibl i chi godi eich achwyniad yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig gyda’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) o fewn 14 diwrnod calendr o dderbyn penderfyniad ffurfiol y Rheolwr/Pennaeth Gwasanaeth. Dylid gwneud hyn drwy gwblhau Ffurflen y Weithdrefn Achwyniadau. Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich achwyniad ffurfiol o fewn 14 diwrnod calendr.
Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) yn eich gwahodd i gyfarfod cam 2 achwyniad er mwyn trafod eich achwyniad. Bydd eich Cyfarwyddwr ac Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried eich achwyniad. Dylai’r cyfarfod hwn gael ei gynnal cyn gynted â phosibl a dylech gymryd pob cam rhesymol i’w fynychu.
Bydd penderfyniad y cyfarfod Cam 2 yn derfynol a dylech gael eich hysbysu o fewn 14 diwrnod calendr.
Yn ystod cyfarfod achwyniad gallwch esbonio eich pryder a dweud sut yr ydych chi’n credu y gellid ei datrys. Efallai y bydd y Swyddog sy’n cadeirio’r cyfarfod achwyniad yn dymuno gohirio’r cyfarfod i’w alluogi/galluogi i gasglu rhagor o wybodaeth neu i gael cyngor a chytunir ar ddyddiad i gwrdd eto, os yn bosibl.
Os ydych yn rheolwr, yna darllenwch ‘Paratoi ar gyfer Cyfarfod Achwyniad Ffurfiol – Canllaw i Reolwyr (.pdf)’
Ar ôl y cyfarfod, anfonir ymateb ysgrifenedig atoch o fewn 14 diwrnod calendr.
Cedwir cofnodion drwy’r broses achwyniadau gyfan, yn cynnwys:
- Natur yr achwyniad
- Beth y penderfynwyd arno a’r camau gweithredu a gymerwyd
- Y rhesymau dros y camau gweithredu
- A gyflwynwyd apêl ai peidio
- Canlyniad yr apêl
- Unrhyw ddatblygiadau dilynol
Dylid cadw cofnodion ar eich ffeil bersonol.
Dylid trin y cofnodion yn gyfrinachol a’u cadw yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Bydd pob Swyddog a Chynghorydd sy’n gysylltiedig â’r broses ddisgyblu yn derbyn cymorth a/neu hyfforddiant priodol. Ewch i adran Dysgu a Datblygu y fewnrwyd i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n rhaid cymhwyso’r polisi hwn yn gyson i bob gweithiwr, waeth beth fo’u hil, lliw, tarddiad ethnig neu wladol (yn cynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhieni neu briodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gymhwyso’r polisi a’r gweithdrefnau hyn, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os bydd angen, yn sicrhau bod y polisi/weithdrefn yn cael ei hadolygu’n briodol.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol