Atal dros dro

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Efallai y bydd achlysuron yn codi pan fydd angen atal rhywun o'r gwaith gyda thâl tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.  Er enghraifft, mewn achosion o gamymddwyn difrifol posibl, lle y ceir pryderon iechyd a diogelwch neu pan geir risgiau i chi neu i'n heiddo ni, i'n defnyddwyr gwasanaeth neu i'n cyfrifoldebau tuag at bartïon eraill.

Efallai yr ystyrir hyn hefyd pan fydd yn rhesymol credu bod rhywun wedi ymyrryd â thystiolaeth neu ddinistrio tystiolaeth, neu bod tystion wedi cael eu rhoi dan bwysau yn ystod y broses ymchwilio neu cyn y gwrandawiad disgyblu.

Os cewch eich atal o'r gwaith, dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith nad cam disgyblu yw hwn.

Bydd symud ymlaen gyda'r ymchwiliad a'r gwrandawiad disgyblu (pan fo hynny'n briodol) mor gyflym ag y bo modd er eich budd chi ac er ein budd ni.

Cedwir unrhyw drefniant atal dan arolwg.  (Sylwer:  mewn rhai achosion, bydd yn rhaid i adolygiad atal ystyried gofynion codau a safonau proffesiynol sy'n llywodraethu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed).

Cyn penderfynu atal rhywun, byddwn yn ystyried y ffactorau canlynol:

  1. Difrifoldeb yr honiadau sy'n ymwneud â chi
  2. Yr angen i ddiogelu uniondeb yr ymchwiliad.
  3. Eich budd pennaf chi os gwneir honiadau yn eich erbyn.
  4. Ein budd pennaf ni a budd pennaf eich cydweithwyr, y cyhoedd a/neu'n defnyddwyr gwasanaeth
  5. Cysondeb wrth atal unigolion mewn achosion eraill lle y gwnaethpwyd honiadau tebyg yn y gorffennol

Ar ôl yr ystyriaethau hyn, rhaid i'ch rheolwr benderfynu a fyddai'ch trosglwyddo i faes gwaith neu i dîm arall yn gam priodol amgen yn hytrach na'ch atal.

Cyn gweithredu unrhyw drefniant atal, rhaid i'ch rheolwr ymgynghori â'u Pennaeth Gwasanaeth a cheisio cyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol.

Cam 1:  Cael yr honiad/cwyn

Ystyriwch:

Ddifrifoldeb yr honiadau sy'n ymwneud â'r unigolyn:

  • A oes posibilrwydd y byddai'r honiad yn cyfateb â chamymddwyn gros yn unol â'r Polisi a'r Weithdrefn Ddisgyblu?

Yr angen i ddiogelu uniondeb yr ymchwiliad:

  • A oes risg y byddai modd troi at/diwygio neu lygru tystiolaeth bosibl?

Budd pennaf yr unigolyn y gwneir yr honiad yn eu herbyn:

  • A oes risg y byddai'r unigolyn yn destun honiadau pellach yn eu sefyllfa bresennol?

Budd pennaf yr awdurdod, cyflogeion eraill, aelodau'r cyhoedd neu ddefnyddwyr gwasanaeth:

  • A oes risg y gallai'r gŵyn/digwyddiad honedig barhau. A wnaethpwyd argymhelliad gan swyddogion diogelu plant/oedolion?  A fu unrhyw gyswllt archwilio/gyda'r heddlu?

Cysondeb gyda chyn honiadau tebyg:

  • Ceisiwch gyngor gan Dîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn dull gweithredu fel awdurdod.

Cam 2:  Trosglwyddo

Yn dilyn yr ystyriaethau hyn, rhaid i chi benderfynu a fyddai trosglwyddo'r cyflogai i faes gwaith neu dîm arall yn briodol.  Wrth wneud hynny, dylech ystyried:

  • Na fydd y cyflogai'n cael cyswllt rheolaidd gydag unrhyw dystion/achwynwyr yn y lleoliad newydd.
  • Bod modd cyflawni'r Rôl yn y lleoliad a gynigir.
  • Bod unrhyw gyfyngiadau dros dro a roddir ar ddyletswyddau yn realistig.
  • Bod modd i'r Cyflogai fanteisio ar y cymorth angenrheidiol.

Er mwyn gweithredu newid fel hwn, mae'n anochel y bydd angen i chi gysylltu â thimau eraill er mwyn cyflawni hyn.  Dylid rheoli hyn mewn ffordd sensitif a chyfrinachol.

Dylid penodi Swyddog Cyswllt o hyd pan fydd trosglwyddiad wedi digwydd.

Cam 3:  Atal

  • Hysbyswyd Tîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl a Pherfformiad
  • Hysbyswyd y Pennaeth Gwasanaeth
  • Hysbyswyd y cyflogai. Fel arfer, bydd y Rheolwr Llinell neu swyddog enwebedig yn gwneud hyn os na fydd y Rheolwr ar gael.  O ganlyniad i'r ffaith bod y cyfarfod atal wedi cael ei alw heb roi rhybudd, ni fyddai'r cyflogai'n cael y cyfle i drefnu cynrychiolaeth mewn perthynas â'r canlynol fel arfer:
    • Esbonio bod honiad/cwyn wedi cael ei wneud ac esbonio beth mae hwn yn ymwneud ag ef, ...................(bydd angen bod manylion personol achwynwyr/ defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diogelu yn ystod yr esboniad hwn). Os yw hwn yn destun ymchwiliad yn unol â rheoliadau’r  Awdurdod Diogelu Annibynnol neu ymchwiliad gan yr Heddlu hefyd, bydd angen i chi hysbysu'r cyflogai o hyn, oni bai bod yr Heddlu wedi gofyn fel arall.  Yn ogystal, esboniwch bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu yr awdurdod.
    • Os nad oes modd i chi amlinellu'r gŵyn yn fanwl o ganlyniad i ymchwiliad Diogelu/gan yr Heddlu, nodwch hyn.
    • esboniwch i'r cyflogai y byddant yn cael eu hatal ar gyflog llawn ac nad diben hyn yw eu cosbi, ond yn hytrach, mai mesur ydyw er mwyn diogelu'r partïon dan sylw.
    • hysbyswch y cyflogai o'r ffaith bod y mater hwn yn un cyfrinachol ac na ddylent droi at unrhyw gyflogeion eraill ynghylch yr honiad.
    • Dweud y byddant yn cael gohebiaeth ysgrifenedig 3 diwrnod gwaith fan bellaf yn dilyn y cyfarfod, a fydd yn nodi manylion amodau'r trefniant atal.
    • Hysbysu'r cyflogai y bydd modd iddynt fanteisio ar swyddog cyswllt cyn bo hir, sef eu pwynt cyswllt yn yr awdurdod.
    • A fyddech gystal â chynorthwyo'r cyflogai i gasglu unrhyw rai o'u heitemau personol, gan sicrhau eu bod yn gadael y safle.
  • Nodi swyddog cyswllt priodol gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ffaith y bydd rhywun yn cysylltu â nhw.
  • Dilyn y cam o atal gyda llythyr, a anfonir dan drefniant post cofnodedig mewn amlen heb ffenestr ac sy'n cynnwys y geiriau Preifat a Chyfrinachol.
  • Nodi Swyddog ymchwilio.

Bydd eich rheolwr yn dilyn y weithdrefn isod pan gytunir ar benderfyniad i'ch atal:

  1. cyfarfod â chi er mwyn eich hysbysu o'r rheswm dros eich atal;
  2. esbonio'r honiad i chi mewn ffordd eglur, ond ni fyddant yn rhoi unrhyw fanylion pellach;
  3. esbonio'r hyn a fydd yn digwydd nesaf a'ch cyfeirio at y polisi a'r weithdrefn Adnoddau Dynol perthnasol);
  4. eich hysbysu:
    • na chaniateir i chi fynd i'ch gweithle nag i unrhyw un o safleoedd y Cyngor a nodir neu i gartrefi defnyddwyr gwasanaeth yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn cael eich hatal, heb sicrhau caniatâd y Swyddog Ymchwilio ymlaen llaw;
    • os ydych yn dymuno cysylltu â'ch cydweithwyr yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn cael eich hatal, bod yn rhaid i chi gael caniatâd y Swyddog Ymchwilio yn gyntaf. Bydd angen i'r Swyddog Ymchwilio deimlo'n fodlon bod gennych chi reswm teg dros wneud eich cais ac na fydd eich cyswllt yn amharu ar yr ymchwiliad.  Os na fyddwch yn ceisio caniatâd, gallai hyn arwain at gamau disgyblu pellach yn cael eu cymryd;
    • bod eich atal o'r gwaith yn weithred niwtral ac mae ei diben yw eich diogelu chi neu ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau'r cyhoedd neu'ch cydweithwyr, fel bod modd cynnal ymchwiliad;
    • bod yn rhaid i chi fod ar gael yn ystod eich oriau gwaith arferol er mwyn i'r Swyddog Ymchwilio eich cyfweld. Ni ddylech adael yr ardal leol neu fynd ar wyliau yn ystod y cyfnod pan fyddwch wedi cael eich atal, heb sicrhau caniatâd y Swyddog Ymchwilio;
    • Gofynnir i Swyddog Cyswllt (cydweithiwr fel arfer) gyflawni rôl eich prif gyswllt yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn cael eich hatal;
    • Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, os bydd angen i chi gael cymorth iechyd galwedigaethol, mae modd trefnu cyfeiriad trwy'ch Swyddog Cyswllt neu'ch Rheolwr.

Ar ôl i'r cyfarfod atal orffen, bydd eich rheolwr yn eich helpu i gasglu'ch eitemau personol a'ch hebrwng o'r safle.

Bydd eich rheolwr yn cadarnhau manylion eich trefniant atal yn ysgrifenedig cyn pen 3 diwrnod gwaith o'ch atal.  Anfonir copi o'r llythyr hwn at y Tîm Adnoddau Dynol ac fe'i cedwir yn eich ffeil bersonél 

Gweler Atodiad 2 – Canllaw i Gyflogeion, a fydd yn cael ei gynnwys gyda'ch llythyr. 

Os ydych yn aelod o undeb llafur, bydd eich rheolwr yn anfon copi o'r llythyr atal i swyddfa'ch cangen leol, oni bai eich bod yn rhoi cyfarwyddyd fel arall yn ysgrifenedig.

Os ydych yn gynrychiolydd undeb llafur, bydd aelod o'r tîm Adnoddau Dynol yn hysbysu swyddog amser llawn yr undeb llafur o'r honiad(au) trwy'r gangen leol.

Bydd eich rheolwr yn nodi Swyddog Cyswllt a fydd yn rhoi cymorth diduedd ac yn cael cyswllt rheolaidd gyda chi, o leiaf bob pythefnos.  Ni fydd y Swyddog Cyswllt yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad, a byddant yn cadw cofnod o unrhyw ymweliadau a chysylltiadau gyda chi yn ystod y cyfnod atal.

Mae'r Swyddog Ymchwilio yn gyfrifol am gynllunio a pharatoi'r ymchwiliad yn unol â'r Polisi Ymchwilio.

Bydd y Swyddog Ymchwilio yn adolygu'r penderfyniad a wnaethpwyd i atal, ynghyd â thelerau'r cyfnod hwn ar adegau allweddol yn ystod yr ymchwiliad.  Bydd y Swyddog Ymchwilio yn ysgrifennu atoch chi bob pythefnos fel arfer, neu ar ddyddiadau y cytunwyd arnynt yn ystod yr ymchwiliad, gan gadarnhau'r cynnydd sy'n cael ei sicrhau gan yr ymchwiliad.

Mewn rhai amgylchiadau, pan fo'r heddlu, gweithwyr amddiffyn oedolion/plant neu archwilwyr mewnol/allanol yn cynnal ymchwiliad ar yr un pryd, efallai na fydd modd symud ymchwiliad rheoli yn ei flaen nes bydd tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i'r llysoedd.  Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am ein camau gweithredu yn ystod y cyfnod hwn o hyd.

Telir tâl cytundebol arferol i chi yn ystod eich cyfnod atal a bydd eich llythyr atal yn cynnwys esboniad o'r ffordd y caiff hwn ei gyfrifo.

Os byddwch yn sâl yn ystod eich cyfnod atal, mae gofyn i chi roi gwybod am eich salwch yn y ffordd arferol yn unol â'n Polisi Absenoldeb Salwch.  Cofnodir y cyfnod o absenoldeb salwch a thelir thelir tâl salwch priodol.

Os byddwch yn cychwyn ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth yn ystod eich cyfnod atal, mae gofyn i chi roi gwybod am gychwyn eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn y ffordd arferol, yn unol â'n Polisi Mamolaeth. Cofnodir y cyfnod mamolaeth a thelir tâl mamolaeth priodol.

Byddwch yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ystod eich cyfnod atal, yn ystod eich blwyddyn gwyliau blynyddol.  Dylech barhau i ofyn am wyliau blynyddol yn ystod eich cyfnod atal yn unol â'r weithdrefn arferol yn ystod eich cyfnod atal, oherwydd na chaiff yr hawl hon ei chario ymlaen i'r flwyddyn wyliau ddilynol.

Pan geir unrhyw amheuaeth ynghylch eich addasrwydd i weithio, rhaid i'ch rheolwr geisio cyngor gan Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol ac Adnoddau Dynol cyn y gwneir penderfyniad i'ch atal, yn unol â'n Polisi Absenoldeb Salwch

Cyn dychwelyd i'r gwaith ar ôl i chi gael eich atal am resymau meddygol, fe'ch cyfeirir at yr Uned Iechyd Galwedigaethol a disgwylir i chi gydweithredu'n llawn ag unrhyw gais i fynychu asesiad iechyd.

Rhaid gweithredu'r protocol hwn mewn ffordd gyson ar gyfer yr holl gyflogeion, beth bynnag fo eu hil, eu lliw, eu cefndir ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), eu hiaith, eu hanabledd, eu crefydd, eu credo neu eu diffyg credo, eu hoedran, eu rhyw, eu statws ailbennu rhywedd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu statws fel rhiant neu eu statws priodasol/partneriaeth sifil, eu sefyllfa o ran beichiogrwydd neu famolaeth.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithrediad y protocol hwn, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol, a fydd yn sicrhau bod y polisi/gweithdrefn yn cael ei adolygu o ganlyniad, yn ôl yr angen.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol