Gwirfoddoli

Diweddarwyd y dudalen: 18/06/2024

Gwirfoddoli ydi gweithgaredd di-dâl lle mae rhywun yn rhoi eu hamser i gynorthwyo sefydliad neu unigolyn nad ydynt yn perthyn iddynt. Nid yw gwirfoddolwyr yn staff cyflogedig ac nid oes ganddynt berthynas dan gontract sydd wedi’i rwymo mewn cyfraith gyda'r Cyngor.

Gall bod yn werth chweil a gall gynnwys ystod eang o dasgau megis:

  • cael paned o de gyda rhywun sy'n teimlo'n ynysig
  • garddio neu weithio y tu allan yn amddiffyn ac yn diogelu'r amgylchedd lleol
  • cefnogi mewn digwyddiadau chwaraeon neu theatr lleol
  • helpu plant i ddysgu darllen yn yr ysgol

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor am nifer o flynyddoedd ac fe'i gwerthfawrogir yn fawr.

Adnoddau Dynol