Absenoldeb Tosturiol

Diweddarwyd y dudalen: 07/04/2020

Mae uchafswm o 5 diwrnod o'r gwaith gyda thâl (pro rata i weithwyr rhan-amser) ar gael os bydd perthynas agos ichi'n marw, neu'n cael anaf neu salwch critigol. Yn achos marwolaeth plentyn, rhiant neu bartner, gellir estyn hyn i 10 diwrnod. Dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, rhaid gofyn i Bennaeth y Gwasanaeth awdurdodi’r absenoldeb.

Y diffiniad o berthynas agos yw eich priod, partner sifil, partner, rhiant, plentyn, brawd/chwaer, mam-gu/dad-cu.

Profedigaeth

Yn achos marwolaeth perthynas agos eich teulu dylech gysylltu â'ch rheolwr llinell i ofyn am absenoldeb tosturiol. Dylech roi gwybod i'ch rheolwr fod angen ichi gymryd absenoldeb tosturiol cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

Ystyrir pob achos gyda chydymdeimlad, a bydd hyd yr absenoldeb a ganiateir yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd y rheolwr yn ystyried ffactorau megis eich perthynas â'r sawl sydd wedi marw, cyfrifoldebau domestig a gofynion teithio. Yn achos marwolaeth aelod agos arall o'r teulu, megis ewythr neu fodryb, gallwch ofyn am absenoldeb tosturiol i fynd i'r angladd.

Anaf critigol neu salwch critigol

Mae absenoldeb tosturiol ar gael lle bo perthynas agos, fel y’i diffiniwyd uchod, yn cael anaf critigol neu’n dioddef salwch critigol. Bydd y rheolwr yn ystyried ffactorau megis natur y digwyddiad, eich perthynas â'r sawl sydd wedi marw; cyfrifoldebau domestig a gofynion teithio.

Sefyllfaoedd argyfyngus yn y cartref

Gellir cymeradwyo amser o'r gwaith, sef hyd at 1 diwrnod, i alluogi gweithwyr i ddelio â sefyllfaoedd argyfyngus yn y cartref, megis llifogydd, tân, neu fyrgleriaeth. Nid yw hyn yn berthnasol i ddigwyddiadau a drefnwyd megis atgyweiriadau domestig, gwaith adnewyddu, gwaith gan adeiladwyr neu grefftwyr, gosod peiriannau, dosbarthu eitemau i'r cartref ac ati.

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, fod angen ichi gymryd absenoldeb tosturiol. Edrychir ar bob achos gyda chydymdeimlad, a bydd canlyniad eich cais yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os byddwch yn dymuno cymryd rhagor o absenoldeb, dylech wneud cais am wyliau blynyddol yn y ffordd arferol.

Dylai ffurflen Cais am Amser o'r Gwaith gael ei llenwi a'i chyflwyno ar y cyfle cyntaf posibl.

Adnoddau Dynol