Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023
O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mae gan yr holl weithwyr (waeth beth fo'u cyfnod gwasanaeth) yr hawl i gymryd cyfnod 'rhesymol' o amser di-dâl o'r gwaith yn ddirybudd i ymdrin ag argyfyngau penodol, annisgwyliadwy sy'n effeithio ar eu dibynyddion.
Amser o'r gwaith i ofalu am ddibynnydd. Mae dibynnydd yn cynnwys y canlynol:
- Priod: Gŵr, gwraig, partner sifil
- Plentyn: Golyga hyn blentyn o unrhyw oedran
- Rhiant: Mae hyn yn cynnwys llys-rieni
- Rhywun sy'n byw yn yr un cartref: mae hyn yn cynnwys partneriaid neu berthnasau oedrannus sy'n byw gyda'r gweithiwr, ond nid yw'n cynnwys gweithiwr, tenant, lodjar neu letywr.
Nid oes cyfnod o wasanaeth yn ofynnol er mwyn bod yn gymwys am amser i ffwrdd.
Mae gennych hawl i amser rhesymol o'r gwaith yn ddi-dâl yn ystod eich oriau gwaith er mwyn cymryd camau sy'n angenrheidiol mewn nifer o wahanol amgylchiadau, fel y nodir isod:
- I roi cymorth ar adeg pan fo dibynnydd yn mynd yn sâl, yn rhoi genedigaeth, yn cael anaf, neu'n dioddef ymosodiad. I wneud trefniadau ar gyfer darparu gofal am ddibynnydd sydd wedi'i daro'n wael neu wedi'i anafu (mae salwch neu anaf yn cynnwys salwch neu anaf meddyliol).
- O ganlyniad i farwolaeth dibynnydd (byddai'r hawl hon yn cwmpasu, er enghraifft, gwneud trefniadau ar gyfer angladd a bod yn bresennol yn yr angladd).
- Oherwydd bod amharu annisgwyl ar drefniadau ar gyfer gofalu am ddibynnydd neu oherwydd eu bod wedi eu terfynu'n annisgwyl. (Byddai hyn yn cynnwys y gweithiwr ei hun yn rhoi cymorth neu'n gwneud trefniadau eraill).
- I ddelio ag achos sy'n ymwneud â phlentyn i'r gweithiwr ac sy'n digwydd yn annisgwyl yn ystod cyfnod pan fo sefydliad addysgol y mae'r plentyn yn ei fynychu yn gyfrifol amdano. Byddai hyn yn cynnwys:
- Pan fo'r plentyn mewn trallod am ryw reswm
- Lle bo'r plentyn wedi camymddwyn mewn modd difrifol a allai arwain at ei wahardd o'r ysgol
Noder: Mae gan y Cyngor ddarpariaethau Absenoldeb o'r Gwaith Tosturiol y gellir eu caniatáu pan fydd perthynas agos i'r gweithiwr wedi marw neu'n ddifrifol wael. Mae'r darpariaethau hyn yn annibynnol ar y Rheoliadau mewn perthynas ag Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion, ac yn ychwanegol atynt.
Rhaid ichi gysylltu â'ch rheolwr llinell neu'ch swyddog enwebedig cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi gwybod iddo/iddi pam eich bod yn absennol neu fod angen amser o'r gwaith arnoch, ac am ba hyd rydych yn disgwyl bod yn absennol.
Bydd gofyn i chi gyflwyno cais Amser o'r Gwaith ar gyfer dibynyddion gan ddefnyddio'r system hunanwasanaeth ar y we, ‘Dangosfwrdd – My View'
Os na allwch gael mynediad i'r system hunanwasanaeth ar y we, bydd gofyn i chi lenwi'r ffurflen Cais am Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion.
Dylai'ch rheolwr ystyried y canlynol wrth benderfynu faint o amser o'r gwaith sy'n rhesymol:
- Beth sydd i'w wneud yn ymarferol? Faint o amser byddai hynny'n ei gymryd fel arfer?
- A oes unrhyw amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau rhoi rhagor o amser ichi? Er enghraifft, ydy'r dibynnydd yn byw bellter i ffwrdd? Os felly, efallai na fyddai'n ymarferol ichi ddychwelyd i'r gwaith rhwng gwneud trefniadau.
- A oes unrhyw anghenion gwasanaeth a fyddai'n effeithio ar faint o amser a ganiateir ichi ar adeg benodol?
Dylid cydbwyso'r tair ystyriaeth uchod wrth benderfynu beth sy'n rhesymol.
Os camddefnyddir y cynllun hwn mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â hynny o dan ein gweithdrefn ddisgyblu. Mae camddefnydd yn cynnwys:
- Cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw gofalu am ddibynnydd, fel y nodir uchod.
Os yw eich cais am amser o'r gwaith wedi cael ei wrthod, er ei fod yn un teg yn eich barn chi, gallwch ddefnyddio'r Weithdrefn Achwyniad i ddatrys y mater.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol