Treuliau
Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024
Fe fyddwch wedi cael gwybod a oes angen ichi ddefnyddio eich trafnidiaeth eich hun am resymau gwaith ac fe fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad am y teithiau hyn. Rhaid ichi ofalu fod yswiriant eich cerbyd yn cynnwys eich defnydd busnes, gan y gallai methu gwneud hynny olygu na fyddai eich cais yn ddilys pe baech yn cael damwain. Bydd gan eich adran drefniadau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gostau teithio.
Efallai hefyd y bydd gan eich adran gar rhannu, sydd ar gael at ddefnydd busnes. Cofiwch holi a oes ceir rhannu ar gael cyn defnyddio eich cerbyd eich hun ar gyfer teithiau.
Os yw'n ofynnol ichi ddefnyddio cerbyd preifat ar gyfer teithiau busnes awdurdodedig, bydd un gyfradd milltiroedd mewn grym ar gyfer pob taith a bydd yn gysylltiedig â Thaliadau Lwfans Milltiroedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy’n ddi-dreth, fel a ganlyn:
Y cyfraddau presennol am bob milltir fusnes (yn ddarostyngedig i newidiadau a wneir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi)
Math o Gerbyd | Y 10,000 milltir gyntaf | Dros 10,000 |
---|---|---|
Ceir a faniau | 45c | 25c |
Beiciau modur | 24c | 24c |
Rydych yn gymwys i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth yn unol â’ch Hamodau Gwasanaeth.
Dylai hawliadau gael eu gwneud yn y mis ar ôl i’r gwariant ddigwydd a hynny ar ffurflenni a gymeradwywyd at y diben gan y Cyfarwyddwr Adnoddau. Os na chaiff hawliadau eu cyflwyno’n brydlon bydd angen ffurflen ar wahân ar gyfer pob mis. Bydd ffurflenni sy’n cynnwys mwy nag un mis yn cael eu dychwelyd heb eu talu.
Mae’n bosibl y gofynnir i’r swyddogion awdurdodi gadarnhau sut y maent wedi’u bodloni eu hunain ynghylch pa mor rhesymol oedd yr hawliadau hwyr. Mae’n hollbwysig bod hawliadau’n cael eu cyflwyno’n brydlon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i sicrhau bod yr hawliadau’n cael eu codi ar gyllidebau a threth y flwyddyn briodol.
Disgwylir i’r holl staff deithio yn y dull mwyaf diwastraff sy’n briodol i’w gallu i gyflawni’u dyletswyddau.
Sail yr Hawliad:
- Man cychwyn a diwedd siwrneiau swyddogol fydd y man lle rydych yn gweithio, fel rheol.
- Pan fyddech yn cychwyn siwrnai o leoliad gwahanol i'ch man gweithio arferol neu'n gorffen siwrnai mewn lleoliad gwahanol i'ch man gweithio arferol, dim ond y "milltiroedd ychwanegol" a deithiwyd yn sgil y dyletswyddau swyddogol y dylid eich hawlio.
- Mae'r Egwyddor o ran Milltiroedd Ychwanegol yn cydnabod yr hyn y byddwch yn arbed drwy beidio â theithio i'ch gweithle arferol neu o'ch gweithle arferol ac yn lleihau faint y gellir ei hawlio yn unol â hynny. Hefyd bydd yn sicrhau eich fod chi'n cael ei ddigolledu'n llawn am unrhyw filltiroedd ychwanegol rydych yn teithio yng nghyswllt eich ddyletswyddau swyddogol.
Ym mhob enghraifft, seilir y cyfrifiad ar daith o 10 milltir rhwng y Cartref a'r Gweithle arferol
Enghraifft 1: Mae swyddog yn mynd i gyfarfod gan deithio yno o'i gartref ac yna'n teithio i'w weithle arferol
- O'r cartref i'r cyfarfod: 5 milltir
- O'r cyfarfod i'r gweithle arferol: 10 milltir
- Cyfanswm y milltiroedd: 15 milltir
Sail yr hawliad: Cyfanswm y milltiroedd – Taith o'r cartref i'r gweithle arferol = Nifer y milltiroedd ychwanegol
Nifer y milltiroedd ychwanegol a hawlir: 15 milltir - 10 milltir = 5 milltir
Enghraifft 2: Mae swyddog yn mynd i gyfarfod gan deithio yno o'r gweithle arferol ac yna'n teithio i'w gartref
- O'r gweithle arferol i'r cyfarfod: 10 milltir
- O'r cyfarfod i'r cartref: 5 milltir
- Cyfanswm y milltiroedd: 15 milltir
Sail yr hawliad: Cyfanswm y milltiroedd – Taith o'r gweithle arferol i'r cartref = Nifer y milltiroedd ychwanegol
Nifer y milltiroedd ychwanegol a hawlir: 15 milltir - 10 milltir = 5 milltir
Enghraifft 3: Mae swyddog yn mynd i gyfarfod gan deithio yno o'i gartref ac yna'n dychwelyd i'w gartref
- O'r cartref i'r cyfarfod: 20 milltir
- O'r cyfarfod i'r cartref: 20 milltir
- Cyfanswm y Milltiroedd: 40 milltir
Sail yr Hawliad: Cyfanswm y milltiroedd – Taith o'r cartref i'r gweithle ac yn ôl = Milltiroedd ychwanegol
Nifer y milltiroedd ychwanegol a hawlir: 40 milltir - 20 milltir = 20 milltir
Rydym yn argymell eich bod yn darllen y ddogfennau canlynol yn llawn cyn cyflwyno eich hawliad teithio:
Os ydych yn gorfod aros dros nos yn sgil cynhadledd neu gwrs, rhaid ichi wneud trefniadau ymlaen llaw drwy gysylltu â Chris A Davies drwy ffonio Estyniad 4121 i sicrhau bod y llety'n cael ei archebu a'i dalu gan ddefnyddio'r Cerdyn Credyd Corfforaethol.
Bydd lwfans prydau bwyd dyddiol o hyd at £28 yn cael ei ad-dalu am aros dros nos.
Os ydych yn mynd i gynhadledd / cwrs y tu allan i'r Sir lle nad oes angen aros dros nos fe fydd eich lwfans prydau bwyd fel a ganlyn:
- Brecwast – £4.00 (mwy na 4 awr cyn 11.00am)
- Cinio – £8.00 (mwy na 4 awr gan gynnwys 12 canol dydd hyd 2.00pm)
- Te – £3.00 (mwy na 4 awr gan gynnwys 3.00pm hyd 6.00pm)
- Swper – £13.00 (mwy na 4 awr gan ddiweddu ar ôl 7.00pm)
Os yw eich llety yn cynnwys brecwast, £24 fydd uchafswm eich lwfans dyddiol. Os yw eich llety yn cynnwys pob pryd bwyd, ni thelir lwfans ychwanegol.
Hawlir lwfans ar sail yr union wariant, gyda derbynebau i gyd-fynd â'r gwariant. Yr unig adeg y telir yr uchafswm yw pan fo’r union wariant yn gyfwerth ag ef neu’n fwy.
Pennwyd mai uchafswm cost aros dros nos yw'r symiau canlynol (ni fydd y symiau'n cynnwys TAW os gellir ei hadennill):
- £200 yn Llundain
- £95 bobman arall
Mewn amgylchiadau arbennig, megis archebu lle mewn gwestai ar gyfer cynadleddau, bydd y Prif Weithredwr neu'r swyddog a enwebir ganddo yn cael disgresiwn rhesymol i awdurdodi swyddog i wario mwy na'r uchafswm a bennwyd.
Mae uchafswm lwfans o £30 ar gael ar gyfer aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau.
Caiff y lwfansau uchod eu newid yn awtomatig i adlewyrchu unrhyw newidiadau yng nghynllun lwfansau'r Aelodau.
Pan fydd staff yn cyflwyno ffurflenni hawlio, dylid gwirio'r canlynol cyn awdurdodi'r hawliadau:
Milltiroedd
- Dylid cadarnhau'r siwrneiau a hawlir.
- Dylid cynnwys digon o fanylion ynghylch y siwrneiau e.e. nid yw nodi 'Rhydaman' yn ddigon.
- Dylai nifer y milltiroedd fod yn rhesymol.
- Pan hawlir milltiroedd o'r cartref / i'r cartref dylid gwneud hynny yn unol â'r Egwyddor o ran Milltiroedd Ychwanegol.
- Pan fydd nifer o hawliadau yn dod i law i'w hawdurdodi dylid atgoffa'r staff fod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn cyfeirio'n benodol at gyflwyno hawliadau'n brydlon.
- Cyflwynir derbynebau TAW am danwydd gyda'r ffurflenni hawlio milltiroedd.
Treuliau
- RHAID rhoi derbynebau ynghlwm wrth y ffurflen hawlio wrth hawlio treuliau achlysurol e.e. tocynnau bws, costau parcio, tollau pontydd ac ati.
- Os yw gweithwyr yn cyflwyno cais am ad-dalu costau galwadau ffôn, RHAID iddynt roi rhestr o'r galwadau unigol a wnaed ynghlwm wrth y ffurflen hawlio.
- O ran hawlio treuliau cynhaliaeth (teithiau y tu allan i'r sir yn unig) rhaid sicrhau bod yr amserau yn gymwys a bod y symiau a hawlir yn cydymffurfio â therfynau'r lwfansau a'u bod yn seiliedig ar yr union wariant a nodwyd ar y derbynebau.
Os ydych yn derbyn hawliadau am aros dros nos / tocynnau trên (heb fod yn cynnwys teithiau trên lleol) cofiwch fod yn RHAID i staff sy'n aros dros nos oherwydd eu bod yn gorfod mynychu cynadleddau neu gyrsiau, gysylltu gyda Chris A Davies drwy ffonio Estyniad 4121 i sicrhau yr archebir gwesty ac y telir amdano drwy ddefnyddio carden gredyd gorfforaethol yr Awdurdod. Caniateir i staff hawlio'r lwfansau prydau bwyd a nodir yn y Polisi Cynhaliaeth a byddant yn derbyn ad-daliad o'r union wariant a nodwyd ar y derbynebau, hyd at y terfynau uchaf.
Hawliadau am dreuliau a gyflwynir trwy Resource Link / MyView
Rhaid ichi sicrhau bod y Taflenni Crynodeb o'r Hawliadau, gyda'r derbynebau perthnasol ynghlwm wrthynt, yn cael eu derbyn oddi wrth y staff cyn awdurdodi talu hawliad.
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, dylech sicrhau eich bod yn cadw'r Taflenni Crynodeb o'r Hawliadau. Mae'n hanfodol bod yr Adrannau'n cadw'r derbynebau TAW er mwyn i'r Arolygwyr TAW allu eu harchwilio yn y dyfodol.
Cyfrifoldeb y rheolwr yw sicrhau, cyn awdurdodi talu hawliadau milltiroedd a/neu dreuliau, fod yr hawliadau sy'n dod i law yn cydymffurfio â'r polisïau perthnasol, a'u bod yn gywir ac wedi'u cefnogi gan y dogfennau priodol.
Byddwn yn mynd ar ôl enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio â pholisi / gweithdrefn gyda'r rheolwr a'r pennaeth gwasanaeth perthnasol.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol