Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
Diweddarwyd y dudalen: 13/11/2024
Mae’r hawl i absenoldeb a thâl mabwysiadu yn golygu bod staff cymwys yn gallu cael absenoldeb â thâl yn y cyfnod cychwynnol pan fydd plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, ac felly hefyd staff sy’n dod yn rhieni cyfreithiol plentyn drwy wneud cais am orchymyn rhiant dan drefniant mam fenthyg.
Pan fydd cwpwl yn mabwysiadu neu’n cytuno i drefniant mam fenthyg ar y cyd, rhaid i’r cwpwl benderfynu pa bartner sy’n cael absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Mae’n bosibl y bydd y partner arall yn gymwys i gael absenoldeb cefnogi mamolaeth ac absenoldeb tadolaeth os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yn y polisi Absenoldeb Tadolaeth.
Rhaid i Reolwyr Llinell sicrhau bod eu holl staff yn ymwybodol o’r drefn ar gyfer rhoi gwybod a gwneud cais am absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yn eu hadrannau.
Cyn ichi gychwyn ar absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg dylai eich rheolwr llinell drafod trefniadau addas â chi i gadw cysylltiad yn ystod eich absenoldeb. Argymhellir, yn ystod eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, eich bod yn cael gwybod am faterion sy’n codi yn y sefydliad a’r adran. Er enghraifft, dylid anfon copïau o ohebiaeth adrannol, cylchlythyrau, cofnodion cyfarfodydd staff a, lle bo modd, gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol ymlaen atoch.
Rydym yn cydnabod, os ydych yn parhau i deimlo’n rhan o’ch tîm, y bydd dychwelyd i’r gwaith yn llai trawmatig i chi ac y bydd hi’n fwy tebygol y bydd eich ymroddiad yn parhau. Efallai yr hoffech ystyried trefnu dyddiau ‘Cadw mewn Cysylltiad’ yn ystod eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn dilyn y broses ardystio gywir. Ar gyfer pob absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, rhaid cael tystysgrif baru a ddarperir gan yr Asiantaeth Fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, mae angen tystiolaeth o orchymyn rhiant.
- Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg o hyd at uchafswm o 52 wythnos.
- Mae dwy ran i’r tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yn ystod yr absenoldeb – tâl mabwysiadu statudol a thâl mabwysiadu galwedigaethol.
- Yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith dan amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai fyddai wedi bod yn gymwys pe na byddech wedi cymryd yr absenoldeb.
- Bydd y prif fabwysiadwr yn cael amser o’r gwaith â thâl ar gyfer hyd at bum apwyntiad mabwysiadu. Gall y mabwysiadwr eilaidd gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer hyd at ddau apwyntiad.
- Bydd gan staff a gweithwyr asiantaeth a chanddynt berthynas gymwys â menyw feichiog neu blentyn a ddisgwylir yr hawl i gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl i fynd yn gwmni i’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.
- Bydd eich hawl i wyliau blynyddol yn seiliedig ar eich amodau gwasanaeth.
- Byddwch yn cadw eich telerau ac amodau gwasanaeth.
- Byddwch yn cael tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg statudol, wedi’i dalu trwy’r gyflogres.
- Byddwch yn cael eich gwarchod rhag cael eich diswyddo am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg hyd y byddwch yn dychwelyd i’r gwaith.
Bydd y prif fabwysiadwr yn gallu cymryd amser o’r gwaith â thâl ar gyfer hyd at bum apwyntiad mabwysiadu. Bydd y mabwysiadwr eilaidd yn gallu cymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer hyd at ddau apwyntiad. Mae apwyntiadau mabwysiadu yn apwyntiadau a wneir gan asiantaeth fabwysiadu ynghylch plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu neu ei faethu ar gyfer lleoliad mabwysiadu.
Bydd gan staff a gweithwyr asiantaeth a chanddynt berthynas gymwys â menyw feichiog neu blentyn a ddisgwylir yr hawl i gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl i fynd yn gwmni i’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.
Bydd gan staff yr hawl hwn o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Bydd gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar ôl 12 wythnos yn yr un aseiniad. Mae’r hawl i amser o’r gwaith yn gyfyngedig i uchafswm o chwe awr a hanner ar bob achlysur, a all gynnwys amser teithio, amser aros a phresenoldeb yn yr apwyntiad.
Dylech roi gwybod i’ch rheolwr a’r Tîm Absenoldeb drwy lenwi’r ffurflen gais o fewn 7 diwrnod o gael gwybod gan yr Asiantaeth Fabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu (oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol) neu, yn achos trefniant mam fenthyg, pan fyddwch wedi gwneud cais am orchymyn rhiant dan drefniant mam fenthyg.
Rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Ffurflen gais Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg i’r holl staff (ac eithrio athrawon)
- Ffurflen gais Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg i athrawon
- Y dyddiad disgwyliedig pan fydd plentyn yn cael ei leoli a’r Dystysgrif Baru gan yr Asiantaeth Fabwysiadu yn cadarnhau eich bod wedi eich paru â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
- Neu yn achos trefniant mam fenthyg, tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am orchymyn rhiant dan drefniant mam fenthyg.
- Y dyddiad yr hoffech i’r absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg arferol ddechrau. Bydd absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yn cychwyn ar ddyddiad lleoli’r plentyn (boed hyn yn gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl) neu ar ddyddiad penodol a all fod hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig.
Mae’r cynllun Tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Statudol (TMS) yn caniatáu i’r rhan fwyaf o staff gael tâl sylfaenol Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg gan eu cyflogwyr ac fe’i telir am hyd at 39 wythnos. Fe’i telir i chi ynghyd â’r Tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Galwedigaethol os ydych yn gymwys i dderbyn hwnnw.
Rydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mabwysiadu Statudol:
- Os ydych wedi cael eich cyflogi yn barhaus gan Gyngor Sir Caerfyrddin am o leiaf 26 wythnos gan ddiweddu â’r wythnos gymhwyso. Yr wythnos gymhwyso yw’r wythnos sy’n cychwyn ar y dydd Sul pan gewch chi (y prif fabwysiadwr) eich hysbysu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn ac sy’n dod i ben ar y dydd Sadwrn canlynol.
- Os oes gennych enillion wythnosol cyfartalog yn yr 8 wythnos ar ddiwedd yr wythnos gymhwyso sy’n cyfateb i’r terfyn enillion isaf ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mabwysiadu Statudol byddwch yn cael:
- Am y 6 wythnos gyntaf – 9/10 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
- Am y 33 wythnos ganlynol – pa bynnag un sydd isaf, cyfradd safonol TMS neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
Mae Tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Galwedigaethol (TMG) yn daliad a roddir os oes gennych o leiaf flwyddyn o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol yn arwain at yr wythnos pan gawsoch eich hysbysu eich bod wedi eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, wedi gwneud cais am orchymyn rhiant.
Os ydych yn gymwys (ac eithrio athrawon) byddwch yn cael:
- Am 6 wythnos gyntaf yr absenoldeb – 9/10 neu 90% o dâl wythnos wedi’i osod yn erbyn TMS.
- Am y 12 wythnos ganlynol – Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn hanner eich tâl. Nid yw hyn wedi’i osod yn erbyn TMS oni bai lle mae’r tâl a’r budd-dâl (e.e. TMS) ynghyd yn fwy na thâl llawn. Os digwydd hynny, bydd tâl llawn wythnos yn cael ei osod yn erbyn y taliad TMS. Mae gennych yr opsiwn i ddosbarthu hyn dros uchafswm o 33 wythnos os hoffech gael taliadau mwy cyfartal.
- Am yr 21 wythnos ganlynol – pa bynnag un sydd isaf, cyfradd safonol TMS neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
Os ydynt yn gymwys bydd athrawon yn cael:
- Am 4 wythnos gyntaf yr absenoldeb – tâl llawn wedi’i osod yn erbyn TMS.
- Am 2 wythnos nesaf yr absenoldeb – 9/10 neu 90% o dâl wythnos wedi’i osod yn erbyn TMS.
- Am y 12 wythnos ganlynol – Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn hanner eich tâl. Nid yw hyn wedi’i osod yn erbyn TMS oni bai lle mae’r tâl a’r budd-dâl (e.e. TMS) ynghyd yn fwy na thâl llawn. Os digwydd hynny, bydd tâl llawn wythnos yn cael ei osod yn erbyn y taliad TMS. Mae gennych yr opsiwn i ddosbarthu hyn dros uchafswm o 33 wythnos os hoffech gael taliadau mwy cyfartal.
- Am yr 21 wythnos ganlynol – pa bynnag un sydd isaf, cyfradd safonol TMS neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
Gwneir y didyniadau arferol o’r TMS a’r TMG, h.y. treth, yswiriant gwladol a phensiwn.
Wedi i chi ddychwelyd i’r gwaith rhaid i chi weithio am gyfnod o o leiaf 13 wythnos. Os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith am y cyfnod a nodwyd bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau Tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Galwedigaethol.
Os oes gennych lai na blwyddyn o wasanaeth yn arwain at yr wythnos pan gewch eich hysbysu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, wedi gwneud cais am orchymyn rhiant, bydd gennych hawl i 39 wythnos (Absenoldeb Mabwysiadu Arferol) a 13 wythnos (Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol). Gweler y manylion isod:
Opsiwn 1 a – Os ydych yn gymwys am TMS, byddwch yn cael:
- 6 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 33 wythnos ar £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n is) a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Ychwanegol (di-dâl)
Opsiwn 1 b – Os nad ydych yn gymwys am TMS byddwch yn cael:
- 39 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu Arferol (AMA) (di-dâl) a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol (AMY) di-dâl
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi Ffurflen SAP1 ichi fel y gellir gwneud hawliad am gymorth ariannol/budd-daliadau i Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Opsiwn 2 (a a b) – mae hyn yn berthnasol i chi os ydych yn ansicr a ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith wedi eich absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg (nid yw hyn yn berthnasol os oes ymddiswyddiad yn/wedi cael ei gyflwyno).
Os oes gennych dros flwyddyn o wasanaeth yn arwain at yr wythnos pan gewch eich hysbysu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, wedi gwneud cais am orchymyn rhiant, bydd gennych hawl i barhau i fod yn absennol am hyd at 39 wythnos (AMA) a 13 wythnos (AMY) fel y manylir isod:
Opsiwn 2 a – Os ydych yn gymwys (ac eithrio athrawon) am TMS byddwch yn cael:
- 6 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 33 wythnos ar £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n is) a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Ychwanegol di-dâl.
Bydd athrawon sy’n gymwys am TMS yn cael:
- 4 wythnos ar dâl llawn yn ogystal â 2 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 33 wythnos ar £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n is) a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Ychwanegol di-dâl.
Opsiwn 2 b – Os nad ydych yn gymwys (ac eithrio athrawon) am TMS byddwch yn cael:
- 6 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 33 wythnos absenoldeb di-dâl (AMA)
- 13 wythnos absenoldeb di-dâl (AMY).
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi Ffurflen SAP1 ichi fel y gellir gwneud hawliad am gymorth ariannol/budd-daliadau i Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Bydd athrawon nad ydynt yn gymwys am TMS yn cael:
- 4 wythnos ar dâl llawn yn ogystal â 2 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 33 wythnos absenoldeb di-dâl (AMA) a
- 13 wythnos absenoldeb di-dâl (AMY)
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi Ffurflen SAP1 ichi fel y gellir gwneud hawliad am gymorth ariannol/budd-daliadau i Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os byddwch, wedi cyfnod o absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, yn datgan eich bwriad i ailymgymryd â’ch dyletswyddau, yna gwneir trefniant i dalu 12 wythnos i chi ar hanner tâl yn y cyfnod tâl nesaf sydd ar gael.
Opsiwn 3 (a a b) – mae hyn yn berthnasol i chi os ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith wedi eich absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg.
Os oes gennych dros flwyddyn o wasanaeth yn arwain at yr wythnos pan gewch eich hysbysu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, wedi gwneud cais am orchymyn rhiant, bydd gennych hawl i barhau i fod yn absennol am hyd at 39 wythnos (AMA) a 13 wythnos (AMY) fel y manylir isod:
Opsiwn 3 a – Os ydych yn gymwys (ac eithrio athrawon) am TMS byddwch yn cael:
- 6 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 12 wythnos ar hanner tâl yn ogystal â £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n llai), ac eithrio i’r graddau nad yw’r hanner tâl yn ogystal â TMS yn uwch na thâl llawn ac yna
- 21 wythnos ar £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n llai). Neu fel arall gellir talu’r hyn sy’n cyfateb i 12 wythnos o hanner tâl (h.y. tâl 6 wythnos) ar unrhyw ddosbarthiad arall y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arno o fewn y cyfnod talu h.y. hyd at uchafswm o 33 wythnos – gweler ‘dewis gan staff’ isod a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Ychwanegol (AMY) di-dâl
Bydd athrawon sy’n gymwys am TMS yn cael:
- 4 wythnos ar dâl llawn yn ogystal â 2 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 12 wythnos ar hanner tâl yn ogystal â £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n llai), ac eithrio i’r graddau nad yw’r hanner tâl yn ogystal â TMS yn uwch na thâl llawn ac yna
- 21 wythnos ar £184.03 TMS yr wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hynny’n llai). Neu fel arall gellir talu’r hyn sy’n cyfateb i 12 wythnos o hanner tâl (h.y. tâl 6 wythnos) ar unrhyw ddosbarthiad arall y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arno o fewn y cyfnod talu h.y. hyd at uchafswm o 33 wythnos – gweler ‘dewis gan staff’ isod a
- 13 wythnos Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg Ychwanegol (AMY) di-dâl
Opsiwn 3 b – Os nad ydych yn gymwys (ac eithrio athrawon) am TMS byddwch yn cael:
- 6 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 12 wythnos ar hanner tâl ac yna
- 21 wythnos absenoldeb di-dâl
- 13 wythnos absenoldeb di-dâl (AMY)
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi Ffurflen SAP1 ichi fel y gellir gwneud hawliad am gymorth ariannol/budd-daliadau i Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Bydd athrawon nad ydynt yn gymwys am TMS yn cael:
- 4 wythnos ar dâl llawn yn ogystal â 2 wythnos ar 9/10 o dâl wythnos ac yna
- 12 wythnos ar hanner tâl ac yna
- 21 wythnos absenoldeb di-dâl
- 13 wythnos absenoldeb di-dâl (AMY)
Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi Ffurflen SAP1 ichi fel y gellir gwneud hawliad am gymorth ariannol/budd-daliadau i Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dewis gan Staff – Trefniadau Talu Amgen yn ystod y cyfnod hanner tâl
TMae’r cynllun tâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg galwedigaethol yn darparu 12 wythnos ar hanner tâl yn ogystal â TMS os ydych yn dychwelyd i’r gwaith am o leiaf 13 wythnos, cyhyd ag nad yw’r ddau ynghyd yn fwy na thâl llawn. Felly, gellir dosbarthu 6 wythnos o dâl llawn dros unrhyw ddosbarthiad arall y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arno o fewn cyfnod yr absenoldeb â thâl h.y. hyd at uchafswm o 33 wythnos. Byddwch chi a’r Tîm Absenoldeb yn cytuno ar ddosbarthiad y taliad. Mae’r gofyn i enillion gan gynnwys y TMS yn ystod y cyfnod tâl ychwanegol gael eu cyfyngu i dâl llawn yn dal i fod yn weithredol.
Os nad ydych, wedi ichi gadarnhau eich bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, yn dychwelyd i gyflogaeth awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos gofynnir ichi ad-dalu’r hanner tâl neu ba ran bynnag ohono, os unrhyw ran, a benderfynwn. Ni fydd rhaid ad-dalu taliadau a wnaed i’r aelod o staff ar ffurf TMS.
Bydd absenoldeb mabwysiadu yn cychwyn ar ddyddiad lleoli’r plentyn (boed hyn yn gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl) neu ar ddyddiad penodol a all fod hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig.
Gallwch newid y dyddiad yr hoffech i’ch absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg gychwyn ar yr amod eich bod yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd.
Gallwch wneud 10 diwrnod (neu lai) o waith heb ddod â’ch absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg i ben. Gelwir y 10 diwrnod hyn yn ‘ddyddiau cadw mewn cysylltiad’. Bydd gweithio am ran o ddiwrnod yn cyfrif fel un diwrnod llawn o blith y 10 diwrnod CMC sydd ar gael.
Fe’ch telir yn unol â chyfradd dâl eich contract, wedi’i osod yn erbyn TMS.
Rhaid i’r ddwy ochr wneud y trefniadau ar gyfer dyddiau o’r fath, gan gynnwys yr amserau a’r math o waith a wneir. Bwriad y dyddiau hyn yw annog y rhai sydd ar absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o fewn yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â’ch adran eich hun. Gall y dyletswyddau hyn gynnwys mynd i gyfarfodydd tîm, mynd i hyfforddiant neu wneud unrhyw waith y cewch ei wneud yn unol â’ch contract cyflogaeth. Fodd bynnag, maent yn fwy nag ymweliadau cymdeithasol neu ymweliadau i drafod dychwelyd i’r gwaith.
Ni all rheolwyr fynnu eich bod yn bresennol ar gyfer unrhyw ddyddiau ‘cadw mewn cysylltiad’. Yn yr un modd, ni allwch chi fynnu cael gwaith i’w wneud. Fodd bynnag, anogir rheolwyr i drefnu dyddiau o’r fath os mynnwch tra byddwch ar absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg.
Nid oes gennych hawl i ymestyn uchafswm eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg oherwydd eich bod wedi mynychu dyddiau ‘cadw mewn cysylltiad’.
I wneud cais am ddiwrnod (au) CMC llenwch y ffurflen 'CMC'. Y Bydd eich Rheolwr Llinell yn awdurdodi a'i anfon ymlaen at y Tîm Absenoldeb ar gyfer prosesu.
Eich lle chi yw penderfynu ar y dyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith, ar yr amod ei fod cyn diwedd y cyfnod o 52 wythnos sy’n cychwyn â’r wythnos pan fydd yr absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yn cychwyn.
Awgrymir eich bod chi a’ch rheolwr yn trafod dyddiad dychwelyd i’r gwaith cyn i chi gychwyn eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg.
Bydd angen i chi roi o leiaf 8 wythnos (28 diwrnod i athrawon) o rybudd o’ch bwriad i ddychwelyd i’r gwaith wedi absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, a hynny drwy lenwi’r ‘Ffurflen Hysbysu Dychwelyd o Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg’.
Os newidiwch eich meddwl am y dyddiad pryd yr hoffech ddychwelyd i’r gwaith, dylech roi o leiaf 8 wythnos (28 diwrnod i athrawon) o rybudd ysgrifenedig cyn y dyddiad newydd.
Mae gennych hawl i wneud cais i ddychwelyd ar oriau gwaith gwahanol neu i rannu swydd. Ceir rhagor o wybodaeth am geisiadau o’r fath yn y Polisi a’r Drefn Gweithio’n Hyblyg a/neu’r Polisi a’r Drefn Rhannu Swydd.
Os hoffech oedi cyn dychwelyd i’r gwaith hyd at ddyddiad sydd ar ôl diwedd eich Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg llawn (52 wythnos) bydd angen i chi wneud cais am absenoldeb di-dâl, absenoldeb rhiant neu seibiant gyrfa yn unol â’n polisïau a’n gweithdrefnau. Dylid gwneud pob cais o leiaf 8 wythnos cyn y dyddiad dychwelyd disgwyliedig ac mae pob cais yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd o fewn y polisïau a’r gweithdrefnau.
Os penderfynwch nad ydych eisiau dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg, rhaid i chi roi’r rhybudd terfynu sy’n ofynnol yn eich contract cyflogaeth i’ch rheolwr a’r Tîm Absenoldeb. Fodd bynnag, bydd fel arfer o gymorth inni os gallwch roi cymaint o rybudd â phosibl. Cyhyd â’ch bod yn nodi’r dyddiad pan ydych eisiau terfynu eich contract (gallai hwn fod y diwrnod cyntaf pan ddylech fod yn ôl yn y gwaith ar ôl absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg) ni fydd hyn, ynddo’i hun, yn golygu na fydd gennych hawl mwyach i absenoldeb neu dâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg am weddill cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg.
Os nad ydych, am unrhyw reswm yn ymwneud â’ch iechyd, mewn cyflwr i ddychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd cyfnod eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg (neu ar ddyddiad cynharach y rhoddwyd gwybod amdano), bernir eich bod wedi dychwelyd i’r gwaith a bydd y gweithdrefnau a’r polisïau arferol i roi gwybod am salwch yn gymwys.
Os na fyddwch yn bresennol yn y gwaith pan ddisgwylir i chi fod ar ddiwedd cyfnod eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, a hynny heb esboniad, ystyrir yr absenoldeb hwn yn absenoldeb anawdurdodedig. Dylech gysylltu â’ch Swyddog AD am ragor o gyngor a chanllawiau.
Byddwch yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ystod cyfnod llawn eich absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg (â thâl ac yn ddi-dâl). Anogir chi i ddefnyddio unrhyw wyliau blynyddol sy’n weddill gennych cyn cychwyn y cyfnod absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg arferol lle bynnag y bo modd. Cewch eich atgoffa y dylid, lle bynnag y bo modd, ddefnyddio gwyliau blynyddol yn ystod y flwyddyn y cânt eu rhoi ac felly, os bydd y flwyddyn gwyliau blynyddol yn dod i ben yn ystod yr absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg, dylech geisio defnyddio mwyafrif eich blwyddyn lawn o wyliau cyn cychwyn ar eich absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw wyliau banc a geir yn ystod yr absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg. Byddwch yn cael diwrnod i wneud iawn am bob gŵyl banc a geir (neu, i staff rhan-amser, nifer y gwyliau banc y byddech wedi eu cael pe na byddech ar absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg). Dim ond ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith y gallwch ddefnyddio’r dyddiau hyn.
Dylai staff sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig ddefnyddio eu gwyliau naill ai cyn neu ar ôl cyfnod yr absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg ar adegau pan fydd yr ysgolion ar gau. Wedi i chi ddychwelyd o absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg dylech gael defnyddio unrhyw wyliau sy’n weddill gennych yn ystod y tymor ysgol yn y flwyddyn wyliau honno os nad oes digon o adegau pan fydd yr ysgolion ar gau i allu defnyddio’r gwyliau yn y flwyddyn honno.
Pan fydd y dyddiad dychwelyd o’r absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg mor agos at ddiwedd y flwyddyn wyliau fel nad oes digon o amser i chi ddefnyddio eich holl wyliau blynyddol, rhaid i chi gael cario unrhyw ddyddiau sy’n weddill gennych ymlaen i’r flwyddyn wyliau ganlynol.
Bydd aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cymryd absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yn talu cyfraniadau pensiwn am gyfnod llawn yr absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg â thâl. Bydd y cyfraniadau’n cael eu talu ar sail y tâl a dderbynnir a byddant yn cyfrif fel gwasanaeth cyfrifadwy a chymwys.
Gall aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ yn sgil cyfnod o absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg di-dâl drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (APC) wedi iddynt ddychwelyd i’r gwaith. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer eich pensiwn a gollwyd o fewn 30 diwrnod i ddychwelyd i’r gwaith. Ar yr amod eich bod yn dewis gwneud o fewn y cyfnod hwnnw, ac mai absenoldeb di-dâl awdurdodedig yw’r rheswm am y cyfnod o absenoldeb, bydd y gost yn cael ei rhannu â’r Awdurdod (1/3 i’r aelod a 2/3 i’r Awdurdod).
Fodd bynnag, os dewiswch wneud hynny yn hwyrach na 30 diwrnod wedi’r dyddiad ar y slip talu lle tynnir yr absenoldeb di-dâl, chi fel aelod fydd yn talu’r gost lawn.
Os ydych eisiau adfer pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg di-dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen ar-lein o wefan cronfa bensiwn Dyfed. Cyn defnyddio’r modelydd ar-lein, bydd arnoch angen manylion y tâl pensiynadwy a gollwyd ar gyfer y cyfnod o absenoldeb di-dâl (gallwch wneud cais am y wybodaeth hon gan y Tîm Absenoldeb) a’r dyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith.
Os gordelir cyflog neu Dâl Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg am unrhyw reswm, yr ydym yn cadw’r hawl i gymryd y camau angenrheidiol i gael y gordaliad yn ôl gennych. Yn yr un modd, byddwn yn cymryd camau i gywiro unrhyw dandaliad cyflog neu unrhyw daliad arall y mae gennych hawl iddo cyn gynted ag y tynnir sylw’r Tîm Absenoldeb ato.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol