Absenoldeb Mamolaeth

Diweddarwyd y dudalen: 13/11/2024

Mae gan bob menyw sy’n feichiog, beth bynnag y bo hyd ei gwasanaeth neu’r oriau y mae’n eu gweithio, hawl i 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth, sy’n cynnwys 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Arferol (AMA) a 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (AMY).

Rhaid i Reolwyr Llinell sicrhau bod pob cyflogai’n ymwybodol o’r weithdrefn ar gyfer hysbysu am absenoldeb mamolaeth a gwneud cais amdano yn eu hadrannau, a rhaid iddynt gynnal asesiad risg y gweithle.

Cyn ichi gychwyn eich absenoldeb mamolaeth, dylai eich rheolwr llinell drafod trefniadau addas â chi ar gyfer cadw mewn cysylltiad yn ystod eich absenoldeb. Argymhellir eich bod yn cael gwybod yn gyson am faterion sefydliadol ac adrannol yn ystod eich absenoldeb mamolaeth. Er enghraifft, dylid anfon copïau o ohebiaeth adrannol, cylchlythyrau, cofnodion cyfarfodydd staff, a phan fo’n bosibl wahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol.

Rydym yn cydnabod y bydd eich proses o ddychwelyd i’r gwaith yn llai trawmatig os byddwch yn parhau i deimlo’n rhan o’ch tîm, a’i bod yn fwy tebygol y bydd eich ymrwymiad yn cael ei gynnal. Mae’n bosibl y byddwch am ystyried trefnu ‘diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad’ yn ystod eich absenoldeb mamolaeth.

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn dilyn y broses ardystio gywir. Rhaid i bob absenoldeb mamolaeth fod wedi’i nodi ar dystysgrif MATB1, sy’n cael ei darparu gan y fydwraig/Meddyg tua 20 wythnos ar ôl cychwyn eich beichiogrwydd.

  • Absenoldeb mamolaeth hyd at uchafswm o 52 wythnos, na fydd yn cychwyn cyn 11 wythnos cyn dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth.
  • Mae dwy ran i’r tâl mamolaeth yn ystod yr absenoldeb – tâl mamolaeth statudol a thâl mamolaeth galwedigaethol.
  • Hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn ôl amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai a fyddai wedi’u gweithredu pe nai’r absenoldeb wedi’i gymryd.
  • Ni waeth beth fo hyd eich gwasanaeth, mae gennych hawl hefyd i’r amser angenrheidiol o’r gwaith â thâl ar gyfer pob apwyntiad yn yr ysbyty a chynenedigol.
  • Mae’r gwyliau blynyddol y mae gennych hawl iddynt yn cael eu cymryd yn unol â’ch amodau gwasanaeth
  • Sicrhau eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles tra byddwch yn y gwaith.
  • Cadw eich telerau ac amodau gwasanaeth
  • Cael swm o dâl mamolaeth statudol (os ydych yn gymwys i’w gael), a delir drwy’r gyflogres.
  • Diogelwch rhag cael eich diswyddo am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd o’r adeg yr ydych yn hysbysu ynghylch y beichiogrwydd tan ichi ddychwelyd i’r gwaith.

Mae hawl gennych i gael amser o’r gwaith â thâl i gael gofal cynenedigol, a rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’r apwyntiad cyntaf os yw eich Rheolwr Llinell yn gofyn ichi wneud hynny. Mae gofal cynenedigol yn gallu cynnwys archwiliadau meddygol ond hefyd ddosbarthiadau ymlacio a rhianta.

Os eich dewis personol chi yw mynd i’r apwyntiad ac nad ydych yn gwneud hynny yn dilyn cyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig, bydwraig gofrestredig neu nyrs cofrestredig, gallwch wneud cais am amser di-dâl o’r gwaith/gwyliau blynyddol neu oriau hyblyg (os ydynt yn berthnasol).

Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi aildrefnu apwyntiadau pan fo’n rhesymol gwneud hynny. Pan fo’n bosibl, dylech geisio trefnu i’r apwyntiadau hyn gael eu cynnal mor agos at gychwyn neu ddiwedd y diwrnod gwaith ag y bo modd.

O 1 Hydref 2014, mae gan gyflogeion a gweithwyr asiantaeth sydd â pherthynas gymwys â menyw feichiog neu blentyn a ddisgwylir hawl i gymryd amser di-dâl o’r gwaith i fynd gyda hwy i hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.

Bydd gennych yr hawl hwn o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth. Bydd gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar ôl 12 wythnos yn yr un aseiniad. Chwe awr a hanner o’r gwaith ar bob achlysur yw’r cyfnod mwyaf y mae hawl iddo, a gall gynnwys amser teithio, amser aros, a phresenoldeb.

Mae gennych berthynas gymwys â menyw feichiog neu ei phlentyn a ddisgwylir:

  • os chi yw gŵr neu bartner sifil y fenyw feichiog;
  • os ydych yn byw gyda’r fenyw feichiog mewn perthynas deuluol barhaus, ond nad ydych yn rhiant, yn nain neu’n daid, yn chwaer, yn frawd, yn fodryb neu’n ewythr iddi;
  • os chi yw tad y plentyn a ddisgwylir; neu
  • os ydych yn rhiant arfaethedig mewn sefyllfa o fenthyg croth ac yn bodloni amodau penodol.

Dylech roi gwybod i’ch rheolwr a’r Tîm Absenoldeb drwy lenwi’r ffurflen gais erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (WDBE), neu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Rhaid cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

Rhaid ichi gael tystysgrif gan eich ymarferydd cyffredinol neu fydwraig sy’n datgan yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (a elwir yn dystysgrif MATB1), ac anfon y dystysgrif wedi’i chwblhau. Bydd y Tîm Absenoldeb yn ysgrifennu atoch pan fydd wedi cael y cais a’r ffurflen MATB1 yn cadarnhau’r dyddiadau a’r taliadau absenoldeb mamolaeth.

Cewch newid y dyddiad yr hoffech i’r absenoldeb mamolaeth gychwyn ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd 28 diwrnod o flaen llaw.

Bydd unrhyw absenoldeb salwch cyn y 4ydd wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (WDBE) yn cael ei ystyried yn absenoldeb salwch arferol ac yn destun taliad yn unol â hynny, beth bynnag y bo’r rheswm am y salwch.

Bydd absenoldeb ar ôl y 4ydd wythnos cyn yr WDBE am resymau iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â’r beichiogrwydd hefyd yn cael ei drin ar ffurf absenoldeb salwch. Fodd bynnag, os byddwch yn absennol am reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar ôl dechrau’r 4ydd wythnos cyn yr enedigaeth ddisgwyliedig, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau’n awtomatig ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf absenoldeb o’r fath. Os byddwch yn absennol cyn y 4ydd wythnos cyn yr WDBE, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn cychwyn yn awtomatig ar ddiwrnod 1af y 4ydd wythnos cyn yr WDBE.

Rhaid ichi hysbysu eich rheolwr y buoch yn absennol am reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol. Mae hyn yn golygu y gall eich cyfnod absenoldeb mamolaeth gychwyn hyd yn oed os nad dyna oedd eich bwriad chi na’ch rheolwr llinell.

Bydd absenoldeb o’r gwaith oherwydd camesgoriad, terfynu beichiogrwydd neu farw-enedigaeth cyn 25ain wythnos y beichiogrwydd yn cael ei drin ar ffurf salwch arferol a bydd gennych hawl i dâl salwch statudol neu gontractiol.

Os bydd camesgoriad neu farw-enedigaeth yn digwydd o’r 25ain wythnos, neu os na fydd y babi’n goroesi ar ôl ei enedigaeth, mae gennych hawl i absenoldeb a thâl mamolaeth yn y ffordd arferol.

Cynllun yw Tâl Mamolaeth Statudol er mwyn i’r mwyafrif o gyflogeion benywaidd gael swm sylfaenol o dâl mamolaeth gan eu cyflogwyr, a chaiff ei dalu am hyd at 39 wythnos. Bydd yn cael ei dalu ichi ynghyd â Thâl Mamolaeth Galwedigaethol os oes gennych hawl iddo.

Gellir cael Tâl Mamolaeth Statudol (TMS) o ddechrau’r 11fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’ch babi gael ei eni a bydd yn cychwyn ar y diwrnod yr ydych wedi nodi y bydd eich absenoldeb mamolaeth yn cychwyn. Gellir ei gychwyn ar ddiwrnodau eraill o’r wythnos os caiff ei sbarduno gan enedigaeth y babi neu absenoldeb o’r gwaith am reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (WDBE).

Mae gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol:

  • os ydych wedi’ch cyflogi’n barhaus gan Gyngor Sir Caerfyrddin am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn yr WDBE, sef yr wythnos gymhwyso, ac
  • os yw eich enillion wythnosol cyfartalog yn yr 8 wythnos hyd at a chan gynnwys y 15fed wythnos yn uwch na’r terfyn isaf ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os oes gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol, byddwch yn cael yr hyn a ganlyn:

  • Am y 6 wythnos gyntaf - 9/10 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
  • Am y 33 wythnos ganlynol – y swm lleiaf o blith cyfradd safonol y Tâl Mamolaeth Statudol neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.

Tâl Mamolaeth Galwedigaethol (TMG): taliad yw hwn a wneir os ydych wedi gwasanaethu’n barhaus am o leiaf flwyddyn mewn llywodraeth leol erbyn yr 11fed wythnos cyn yr WDBE.

Os oes gennych hawl iddo, byddwch chi (ac eithrio Athrawon) yn cael yr hyn a ganlyn:

  • Am 6 wythnos gyntaf yr absenoldeb - 9/10 neu 90% o gyflog wythnos wedi’i wrthbwyso gan y Tâl Mamolaeth Statudol neu daliadau Lwfans Mamolaeth.
  • Am y 12 wythnos ganlynol – Os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith, byddwch hefyd â hawl i hanner eich cyflog. Nid yw hwn wedi’i wrthbwyso gan y Tâl Mamolaeth Statudol ac eithrio pan fo’r tâl a’r buddion (e.e. Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth), o’u cyfuno, yn fwy na’r cyflog llawn. Yn yr achos hwn, bydd cyflog llawn wythnos yn cael ei wrthbwyso gan daliadau’r Tâl Mamolaeth Statudol. Gallwch ddewis cael hwn dros gyfnod nad yw’n hwy na 33 wythnos os hoffech gael taliadau mwy cyfartal.
  • Am yr 21 wythnos ganlynol – y swm llai o blith cyfradd safonol y Tâl Mamolaeth Statudol neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.

Os oes ganddynt hawl iddo, bydd Athrawon yn cael:

  • Am 4 wythnos cyntaf yr absenoldeb – cyflog llawn wedi’i wrthbwyso gan daliadau’r Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.
  • Am 2 wythnos ganlynol yr absenoldeb - 9/10 neu 90% o gyflog wythnos wedi’i wrthbwyso gan daliadau’r Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.
  • Am y 12 wythnos ganlynol – Os ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith, byddwch hefyd â hawl i hanner eich cyflog. Nid yw hwn wedi’i wrthbwyso gan y Tâl Mamolaeth Statudol ac eithrio pan fo’ch tâl a’ch buddion (e.e. Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth), o’u cyfuno, yn fwy na’ch cyflog llawn. Yn yr achos hwn, bydd cyflog llawn wythnos wedi’i wrthbwyso gan daliadau’r Tâl Mamolaeth Statudol. Gallwch ddewis cael hwn dros gyfnod nad yw’n hwy na 33 wythnos os hoffech gael taliadau mwy cyfartal.
  • Am yr 21 wythnos ganlynol – y swm lleiaf o blith cyfradd safonol y Tâl Mamolaeth Statudol neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.

Bydd y Tâl Mamolaeth Statudol a’r Tâl Mamolaeth Galwedigaethol ill dau’n destun didyniadau arferol, sef treth, yswiriant gwladol a phensiwn.

Wedi ichi ddychwelyd i’r gwaith, rhaid ichi weithio am o leiaf 13 wythnos. Os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith am y cyfnod datganedig, bydd yn rhaid ichi ad-dalu unrhyw ordaliad o Dâl Mamolaeth Galwedigaethol.

Os ydych wedi gwasanaethu am lai na blwyddyn (ar ddechrau’r 11fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni), bydd hawl gennych i barhau’n absennol am hyd at 39 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol) a 13 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol) fel y manylir isod:

Dewis 1 a: os ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 6 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 33 wythnos yn cael £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai) a
  • 13 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (di-dâl)

Dewis 1 b: os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 39 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol (di-dâl) a
  • 13 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol di-dâl

Bydd y Tîm Absenoldeb yn darparu Ffurflen SMP1 ichi fel y gellir cyflwyno cais am lwfans mamolaeth a/neu fudd-daliadau eraill i’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Dewis 2 (a a b) – mae hwn yn gymwys os ydych yn ansicr a ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ôl eich mamolaeth (nid yw hwn yn gymwys pan fo ymddiswyddiad yn cael ei gyflwyno/wedi’i gyflwyno).

Os ydych wedi gwasanaethu am fwy na blwyddyn (ar ddechrau’r 11fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni ac eithrio’r WDBE), bydd gennych hawl i barhau’n absennol am hyd at 39 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol) a 13 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol) fel y manylir isod:

Dewis 2 a – os ydych chi (ac eithrio athrawon) yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 6 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 33 wythnos yn cael £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai) a
  • 13 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol (AMY) di-dâl.

Bydd athrawon sy’n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol â hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 4 wythnos yn cael cyflog llawn ynghyd â 2 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 33 wythnos yn cael £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai) a
  • 13 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol (AMY) di-dâl.

Dewis 2 b – os nad ydych chi (ac eithrio athrawon) yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 6 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 33 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol) a
  • 13 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol)

Bydd y Tîm Absenoldeb yn darparu Ffurflen SMP1 ichi fel y gellir cyflwyno cais am lwfans mamolaeth a/neu fudd-daliadau eraill i’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd athrawon nad ydynt yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol â hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 4 wythnos yn cael cyflog llawn ynghyd â 2 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos, ac yna
  • 33 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol) a
  • 13 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol)

Bydd y Tîm Absenoldeb yn darparu Ffurflen SMP1 ichi fel y gellir cyflwyno cais am lwfans mamolaeth a/neu fudd-daliadau eraill i’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Os byddwch yn datgan eich bwriad i ailymgymryd â’ch dyletswyddau, a hynny ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth, bydd trefniadau’n cael eu gwneud i dalu 12 wythnos o hanner cyflog ichi yn y cyfnod talu nesaf sydd ar gael.

Dewis 3 ('a' a 'b') – mae hwn yn gymwys os ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ôl eich mamolaeth.

Os ydych wedi gwasanaethu am fwy na blwyddyn (ar ddechrau’r 11fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni ac eithrio’r WDBE), bydd gennych hawl i barhau’n absennol am hyd at 39 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Galwedigaethol) a 13 wythnos (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol) fel y manylir isod:

Dewis 3 a – os ydych chi (ac eithrio athrawon) yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 6 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 12 wythnos yn cael hanner cyflog ynghyd â £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o’r enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai), ac eithrio i’r graddau nad yw’r hanner cyflog ynghyd â’r Tâl Mamolaeth Statudol yn fwy na’r cyflog llawn, ac yna
  • 21 wythnos yn cael £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o’r enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai). Fel arall, gall y swm sy’n cyfateb i 12 wythnos o hanner cyflog (hynny yw, 6 wythnos o gyflog) gael ei dalu yn ôl unrhyw ddosbarthiad arall y cytunir arno yn ystod y cyfnod talu, hynny yw, hyd at uchafswm o 33 wythnos – gweler y wybodaeth ynghylch dewis cyflogeion isod; a
  • 13 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol (AMY) di-dâl

Bydd athrawon sy’n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol â hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 4 wythnos yn cael cyflog llawn ynghyd â 2 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos, ac yna
  • 12 wythnos yn cael hanner cyflog ynghyd â £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o’r enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn llai), ac eithrio i’r graddau nad yw’r hanner cyflog ynghyd â’r Tâl Mamolaeth Statudol yn fwy na’r cyflog llawn, ac yna
  • 21 wythnos yn cael £184.03 o Dâl Mamolaeth Statudol fesul wythnos (neu 9/10 o’r enillion wythnosol cyfartalog os yw hyn yn llai). Fel arall, gall y swm sy’n cyfateb i 12 wythnos o hanner cyflog (hynny yw, 6 wythnos o gyflog) gael ei dalu yn ôl unrhyw ddosbarthiad arall y cytunir arno yn ystod y cyfnod talu, hynny yw, hyd at uchafswm o 33 wythnos – gweler y wybodaeth ynghylch dewis cyflogeion isod; a
  • 13 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol (AMY) di-dâl

Dewis 3 b – os nad ydych chi (ac eithrio athrawon) yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, bydd gennych hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 6 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos ac yna
  • 12 wythnos o hanner cyflog ac yna
  • 21 wythnos o absenoldeb di-dâl a
  • 13 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol)

Bydd y Tîm Absenoldeb yn darparu Ffurflen SMP1 ichi fel y gellir cyflwyno cais am lwfans mamolaeth a/neu fudd-daliadau eraill i’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Bydd athrawon nad ydynt yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol â hawl i’r hyn a ganlyn:

  • 4 wythnos yn cael cyflog llawn ynghyd â 2 wythnos yn cael 9/10 o gyflog wythnos, ac yna
  • 12 wythnos o hanner cyflog ac yna
  • 21 wythnos o absenoldeb di-dâl a
  • 13 wythnos o absenoldeb di-dâl (Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol)

Bydd y Tîm Absenoldeb yn darparu Ffurflen SMP1 ichi fel y gellir cyflwyno cais am lwfans mamolaeth a/neu fudd-daliadau eraill i’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Dewis gan Gyflogeion – Trefniadau Talu Amgen yn ystod y cyfnod hanner cyflog

Mae’r cynllun tâl mamolaeth galwedigaethol yn darparu 12 wythnos o hanner cyflog ar ben y Tâl Mamolaeth Statudol os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith am o leiaf 13 wythnos, ar yr amod nad yw’r ddau, o’u cyfuno, yn fwy na’r cyflog llawn. Felly, gall 6 wythnos o gyflog llawn gael ei rannu dros unrhyw ddosbarthiad arall y cytunir arno yn ystod cyfnod yr absenoldeb â thâl, hynny yw, hyd at uchafswm o 33 wythnos.

Byddwch chi a’r Tîm Absenoldeb yn cytuno ar ddosbarthiad y taliad. Mae’r gofyniad i enillion, gan gynnwys Tâl Mamolaeth Statudol, a geir yn ystod y cyfnod tâl ychwanegol fod wedi’u cyfyngu i’r cyflog llawn yn parhau mewn grym.

Os nad ydych yn dychwelyd i gyflogaeth awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos, a hynny ar ôl ichi gadarnhau eich bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, gofynnir ichi ad-dalu’r hanner cyflog neu unrhyw ran honno y byddwn yn penderfynu arno, os bydd rhan i’w thalu o gwbl. Nid yw taliadau a wneir ichi ar ffurf Tâl Mamolaeth Statudol yn rhai y gellir eu had-dalu.

Yr adeg gynharaf y gall absenoldeb mamolaeth gychwyn yw dechrau’r unfed wythnos ar ddeg cyn dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth neu o adeg yr enedigaeth, os yw’n gynharach.

Y tu hwnt i’r dyddiad hwn, rydych yn rhydd i weithio hyd at ddyddiad disgwyliedig yr enedigaeth heb angen ardystiad meddygol i ddatgan eich bod mewn cyflwr i wneud hynny. Fodd bynnag, rhaid ichi roi 28 diwrnod o rybudd (pan fo’n rhesymol ymarferol) am y dyddiad yr ydych yn bwriadu i’ch absenoldeb mamolaeth gychwyn.

Bydd absenoldeb mamolaeth yn cychwyn ar un o’r dyddiadau a ganlyn:

  • Y dyddiad yr ydych yn rhoi gwybod yr hoffech i’r absenoldeb gychwyn; neu
  • os ydych yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar ôl y 4ydd wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni, y diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf eich absenoldeb; neu
  • os ydych yn rhoi genedigaeth i’ch babi cyn i’r absenoldeb mamolaeth gychwyn, ar y diwrnod ar ôl dyddiad yr enedigaeth.

Rhaid ichi gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mamolaeth (gorfodol) o ddyddiad yr enedigaeth ac ni chaniateir ichi weithio yn ystod y cyfnod hwn.

Gallwch wneud 10 diwrnod (neu lai) o waith heb ddod â’ch absenoldeb mamolaeth i ben. Gelwir y 10 diwrnod hyn yn ‘ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad (CMC)’. Bydd gweithio am ran o ddiwrnod yn cael ei gyfrif yn un diwrnod llawn o blith y 10 diwrnod CMC sydd ar gael.

Telir eich cyfradd cyflog gontractiol ichi, a fydd wedi’i gwrthbwyso gan y Tâl Mamolaeth Statudol.

Bydd diwrnodau o’r fath yn destun trefniadau ar y cyd, gan gynnwys amseriad y gwaith a’r math o waith sydd i’w wneud. Bwriedir i’r diwrnodau hyn annog y rhai sy’n absennol oherwydd mamolaeth i barhau’n gyfarwydd â datblygiadau yn yr Awdurdod yn ei gyfanrwydd, yn ogystal ag yn eich adran eich hun. Gall y dyletswyddau hyn gynnwys mynd i gyfarfodydd tîm, mynd i hyfforddiant neu ymgymryd ag unrhyw waith y gallwch ei wneud fel y pennir yn eich contract cyflogaeth. Fodd bynnag, maent yn fwy nag ymweliadau cymdeithasol neu ymweliadau i drafod eich proses o ddychwelyd i’r gwaith.

Ni all Rheolwyr fynnu eich bod yn dod i ddiwrnodau ‘cadw mewn cysylltiad’. Yn yr un modd, ni allwch fynnu cael gwneud unrhyw waith. Fodd bynnag, anogir rheolwyr i drefnu diwrnodau o’r fath pe baech yn dymuno mynd iddynt yn ystod eich absenoldeb mamolaeth.

Nid oes gennych hawl i ymestyn eich absenoldeb mamolaeth hwyaf oherwydd ichi fod yn bresennol ar ddiwrnodau ‘cadw mewn cysylltiad’.

Ni allwch fod yn bresennol ar gyfer diwrnodau ‘cadw mewn cysylltiad’ yn ystod y pythefnos cyntaf yn dilyn genedigaeth eich plentyn.

I wneud cais am ddiwrnod(au) cadw mewn cysylltiad, llenwch y ffurflen gais. Bydd eich rheolwr llinell yn awdurdodi ac yn anfon at y Tîm Absenoldeb ar gyfer prosesu.

Awgrymir eich bod chi a’ch rheolwr yn trafod y dyddiad dychwelyd i’r gwaith cyn cychwyn eich absenoldeb mamolaeth.

Bydd angen ichi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd (28 diwrnod yn achos athrawon) ynglŷn â’ch bwriad i ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth, a hynny drwy lenwi’r ffurflen i hysbysu ynghylch dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth.

Os byddwch yn newid eich meddwl o ran y dyddiad yr hoffech ddychwelyd i’r gwaith, dylech roi o leiaf 8 wythnos (28 diwrnod yn achos athrawon) o rybudd ysgrifenedig cyn y dyddiad newydd.

Mae gennych hawl i wneud cais i ddychwelyd i’r gwaith gan weithio oriau gwahanol neu rannu swydd. Mae rhagor o wybodaeth am geisiadau o’r fath ar gael yn y Polisi a Gweithdrefn ynghylch Gweithio’n Hyblyg a/neu’r Polisi a Gweithdrefn ynghylch Rhannu Swydd.

Rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl eich bod yn ansicr ynghylch dychwelyd i’r gwaith neu beidio ar ôl genedigaeth eich babi oherwydd nad ydych yn dymuno gadael eich babi.

Os hoffech ohirio’r dyddiad y byddwch yn dychwelyd i’r gwaith hyd at ddyddiad ar ôl diwedd eich Absenoldeb Mamolaeth llawn (52 wythnos), bydd angen ichi wneud cais naill ai am absenoldeb di-dâl, absenoldeb rhiant neu seibiant gyrfa yn unol â’n polisïau a’n gweithdrefnau. Dylid cyflwyno pob cais o leiaf 8 wythnos cyn y dyddiad yr ydych yn disgwyl dychwelyd ac maent yn ddarostyngedig i’r meini prawf cymhwysedd a geir yn ein polisïau a gweithdrefnau.

 

Os nad ydych mewn cyflwr i ddychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd cyfnod eich absenoldeb mamolaeth (neu ddyddiad cynharach yr hysbysir amdano), a hynny am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’ch iechyd, bernir eich bod wedi dychwelyd i’r gwaith a bydd y polisïau a gweithdrefnau arferol ar gyfer hysbysu am salwch yn gymwys. 

Dylai staff ysgolion ddarllen polisi mabwysiedig yr ysgolion.

Os na fyddwch yn dod i’r gwaith ar yr adeg y disgwylir ar ddiwedd cyfnod eich absenoldeb mamolaeth, a hynny heb eglurhad, bydd yr absenoldeb hwn yn cael ei ystyried yn absenoldeb heb awdurdod. Cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau Dynol i gael cyngor a chanllawiau pellach.

Byddwch yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ystod cyfnod llawn eich absenoldeb mamolaeth (â thâl a di-dâl). Fe’ch anogir i gymryd unrhyw wyliau blynyddol sy’n ddyledus nas cymerwyd cyn cychwyn absenoldeb mamolaeth arferol, pan fo modd. Hoffem eich atgoffa bod rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn y flwyddyn y maent yn cael eu hennill, pan fo modd, ac felly os bydd y flwyddyn gwyliau blynyddol yn gorffen yn ystod yr absenoldeb mamolaeth, dylech ymdrechu i gymryd mwyafrif yr holl wyliau blynyddol y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn cyn cychwyn absenoldeb mamolaeth.

Mae hyn hefyd yn gymwys i unrhyw wyliau banc a geir yn ystod yr Absenoldeb Mamolaeth. Bydd diwrnod digolledu’n cael ei roi fesul pob gŵyl banc a geir (neu, yn achos cyflogeion rhan-amser, nifer y gwyliau banc y byddech wedi’u cael pe na baech wedi bod yn absennol oherwydd mamolaeth). Dim ond ar ôl dychwelyd i’r gwaith y gellir cymryd y rhain.

Dylai’r gwyliau y mae Cyflogeion Tymor yn Unig â hawl iddynt gael eu cymryd naill ai cyn neu ar ôl cyfnod yr absenoldeb mamolaeth yn ystod cyfnodau pan fo’r ysgolion ar gau. Pan fyddwch yn dychwelyd o’ch absenoldeb mamolaeth, dylid rhoi caniatâd ichi gymryd unrhyw wyliau nas cymerwyd yn ystod y tymor yn y flwyddyn wyliau honno os nad oes digon o adegau pan fo’r ysgolion ar gau i gwmpasu’r gwyliau yn y flwyddyn honno.

Os yw’r adeg y byddwch yn dychwelyd o’ch absenoldeb mamolaeth mor agos at ddiwedd y flwyddyn wyliau nad oes digon o amser ichi gymryd y gwyliau y mae gennych hawl iddynt, rhaid rhoi caniatâd ichi drosglwyddo unrhyw wyliau sy’n weddill i’r flwyddyn wyliau ganlynol.

Bydd aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cymryd absenoldeb mamolaeth yn talu cyfraniadau pensiwn ar gyfer cyfnod cyfan yr absenoldeb mamolaeth â thâl. Bydd y cyfraniadau’n cael eu talu ar y tâl a geir a byddant yn cael eu hystyried yn wasanaeth cyfrifadwy a chymwys.

Adfer pensiwn a gollwyd o ganlyniad i absenoldeb mamolaeth di-dâl

Mae aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gallu adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy’n deillio o gyfnod o absenoldeb mamolaeth di-dâl drwy dalu cyfraniadau ychwanegol o dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith. Er mwyn gwneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer y pensiwn a gollwyd cyn pen 30 diwrnod ar ôl ichi ddychwelyd i’r gwaith. Ar yr amod eich bod yn dewis cyn diwedd y cyfnod hwn, ac mai’r rheswm am y cyfnod o absenoldeb yw absenoldeb di-dâl awdurdodedig, bydd y gost yn cael ei rhannu â’r Awdurdod Lleol (1/3 i’r aelod a 2/3 i’r Awdurdod). Fodd bynnag, os dewisir ar ôl 30 diwrnod o’r dyddiad ar y slip talu y mae’r didyniad absenoldeb di-dâl yn cael ei wneud arno, chi, yr aelod, a fydd yn gyfrifol am y gost gyfan.

Os ydych yn dymuno adfer pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth di-dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen ar-lein drwy wefan cronfa bensiwn Dyfed.  Cyn defnyddio’r modelydd ar-lein, bydd arnoch angen y cyflog pensiynadwy a gollwyd am gyfnod yr absenoldeb di-dâl (gallwch ofyn i’r Tîm Absenoldeb am y wybodaeth hon) a’r dyddiad yr ydych yn dychwelyd i’r gwaith.

Os gwneir gordaliad o gyflog neu Dâl Mamolaeth am unrhyw reswm, rydym yn cadw’r hawl i gymryd y camau angenrheidiol i adennill y gordaliad gennych. Yn yr un modd, byddwn yn cymryd camau i gywiro unrhyw dandaliad o gyflog neu unrhyw daliad arall y mae gennych hawl iddo cyn gynted ag y tynnir sylw’r Tîm Absenoldeb ato.

Mae’r llyfryn hwn yn eich cynorthwyo i fagu plant yn ddwyieithog yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n egluro beth yw dwyieithrwydd a beth yw’r manteision o fod yn amlieithog. Mae’n rhoi gwybodaeth defnyddiol hefyd am sut i gyflwyno’r Gymraeg i’ch plant a pha lwybrau sydd ar gael iddynt ddilyn i ddod yn unigolion dwyieithog yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Beth bynnag yw eich iaith yn y cartref, gall magu eich plant yn ddwyieithog roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol iddynt.

Ewch i 'Bod yn Ddwyieithog' i gael gwybodaeth bellach.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol