Seibiant Gyrfa

Diweddarwyd y dudalen: 23/04/2024

Mae seibiannau gyrfa yn cynnig cyfnod estynedig o amser o'r gwaith heb dâl, heb orfod terfynu cyflogaeth.

Gellir dewis cymryd seibiant gyrfa am nifer o resymau: gwirfoddoli, astudio, teithio, ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill. Caiff pob cais am seibiant gyrfa ei ystyried yn ôl ei haeddiant. 

Cynllun dewisol yw’r cynllun seibiant gyrfa. Gwneir pob ymdrech i ganiatáu cais ond gallai fod adegau pan na fydd modd caniatáu seibiant gyrfa, er bod y meini prawf wedi cael eu bodloni. Dan amgylchiadau lle na ellir caniatáu seibiant gyrfa, bydd eich rheolwr llinell yn trafod y trefniadau eraill sydd ar gael i helpu i ymateb i gyfrifoldebau domestig neu i gyrraedd y nod o ran datblygiad personol er enghraifft gweithio hyblyg.

Mae rhai cyfyngiadau'n berthnasol:

  • Mae’n ofynnol eich bod wedi cwblhau blwyddyn o wasanaeth boddhaol di-dor.
  • Mae caniatáu'r cais yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
  • Os ydych ar absenoldeb salwch nid ydych yn gymwys i gael seibiant gyrfa hyd nes eich bod yn dychwelyd i'r gwaith, ac os ydych yn dychwelyd ar ôl cyfnod o absenoldeb salwch tymor hir gellir ystyried cais ar ôl i chi gwblhau yn foddhaol cyfnod o ddychwelyd i'r gwaith yn raddol.
  • Os ydych ar absenoldeb mamolaeth nid ydych yn gymwys i wneud cais am seibiant gyrfa hyd nes i chi ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'ch bwriad i ddychwelyd i'r gwaith yn unol â'n Polisi Mamolaeth.
  • Ni ellir cymryd mwy nag un seibiant gyrfa mewn cyfnod o bum mlynedd.
  • Os ydych yn dychwelyd o seibiant gyrfa mae'n rhaid i chi gwblhau o leiaf flwyddyn o wasanaeth cyn gwneud cais am seibiant gyrfa arall.
  • Ni chytunir fel arfer i seibiant gyrfa er mwyn i chi ymgymryd â gwaith cyflog gyda chyflogwr arall. Os byddwch yn cyflwyno cais i wneud hyn, dylai gael ei ystyried drwy ein Polisi Secondiad.
  • Mae rhai amgylchiadau, megis gwaith elusennol, a allai fod yn dderbyniol dan delerau’r seibiant gyrfa. Dylai unrhyw fwriad i gymryd rhan mewn gwaith o’r fath gael ei drafod cyn y seibiant gyrfa â'ch rheolwr llinell. Os oes angen, dylai eich rheolwr llinell gysylltu ag AD i gael cyfarwyddyd.

Bydd eich cais yn cael ei ystyried, beth bynnag yw hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol a statws fel rhiant neu statws priodasol.

Bydd hyd seibiant gyrfa yn cael ei gytuno ymlaen llaw rhyngoch chi â'ch rheolwr llinell:

  • Bydd am isafswm o 12 mis a hyd at uchafswm o 3 blynedd. Mae’r isafsymiau a’r uchafsymiau wedi’u pennu i adlewyrchu’r posibilrwydd y gallai rôl swyddi newid ac y byddai hynny'n golygu bod dychwelyd i’r gwaith yn anodd i chi a'ch Adran;
  • Ni chaiff unrhyw seibiant fod yn hwy nag unrhyw gontract cyflogaeth sy’n bodoli ar y pryd;
  • Os gofynnir am seibiant o lai na blwyddyn, dylid cyfeirio at y rhan Absenoldeb Tosturiol;
  • Dylai rheolwyr sicrhau eu bod yn cytuno ar ddyddiad dychwelyd i’r gwaith gyda chi cyn i chi ddechrau ar eich seibiant gyrfa.

Lle bo hynny’n bosib, byddwn yn ceisio eich galluogi i ddychwelyd i’ch swydd wreiddiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod nad oes modd gwarantu hyn bob amser oherwydd newidiadau a all ddigwydd yn y ddarpariaeth gwasanaethau yn ystod y seibiant gyrfa. Argymhellir y cyfarwyddyd canlynol:

  • Os yw’r seibiant gyrfa am gyfnod o 12 mis, dylech ddychwelyd i’ch swydd barhaol
  • Os yw’r seibiant gyrfa am fwy na 12 mis a hyd at 3 blynedd, mae'n ofynnol i’ch Rheolwr Llinell a’r Adran gynllunio ymlaen ar gyfer yr adeg y byddwch yn dychwelyd a nodi cyflogaeth amgen addas i chi sy’n gymesur â’ch graddfa barhaol, eich cymwysterau, sgiliau a phrofiad os na ellir dal y swydd barhaol ar agor.
  • Mae’n ofynnol i reolwyr llinell gynllunio ymlaen ar gyfer yr adeg y bydd y gweithiwr maes o law yn dychwelyd i’r Adran.
  • Os na fyddwch, o dan amgylchiadau eithriadol, yn gallu dychwelyd i’ch swydd barhaol ac nad oes modd chwaith cynnig swydd amgen addas i chi yn yr Adran, byddwch yn cael cynnig y cyfle i ymuno â’r Gofrestr Adleoli heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn y dyddiad dychwelyd disgwyliedig o’ch Seibiant Gyrfa.
  • Os byddwch yn dymuno dychwelyd i’r gwaith yn gynharach na’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol, mae'n ofynnol i chi roi o leiaf 3 mis o rybudd am y cais. Er y gwneir pob ymdrech i ganiatáu’r cais hwn, dylid cydnabod nad oes modd gwarantu hyn. Gellir edrych ar ddewisiadau amgen, er enghraifft, cynnig lle mewn swydd dros dro tan ddyddiad gorffen gwreiddiol y seibiant gyrfa.
  •  

Gallwch wneud cais am gael dechrau eich seibiant gyrfa yn dilyn Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Maethu neu Fabwysiadu:

  • Megis ym mhob amgylchiad, dylid gwneud cais am seibiant gyrfa o leiaf 3 mis cyn dyddiad dechrau arfaethedig y seibiant gyrfa fel bod modd archwilio’r cais yn rhesymol.
  • Os caiff y cais ei dderbyn, mae’r seibiant gyrfa yn dechrau'r diwrnod ar ôl i’r absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, meithrin neu fabwysiadu ddod i ben.
  • Os bydd seibiant gyrfa yn dilyn absenoldeb mamolaeth, ni fydd disgwyl i chi ad-dalu’r taliadau mamolaeth cyhyd â’ch bod yn dychwelyd i’r gwaith am gyfnod o 13 wythnos o leiaf ar ôl y seibiant gyrfa.

Lle bo hynny’n bosib, dylech gyflwyno ffurflen gais am seibiant gyrfa i’ch rheolwr llinell o leiaf 3 mis cyn y dyddiad dechrau arfaethedig.

O fewn 28 diwrnod i gais am seibiant gyrfa ddod i law, cynghorir rheolwyr llinell i gwrdd â’r gweithiwr i drafod y cais.

Os ydych yn rheolwr llinell, fe'ch cynghorir hefyd i ymgynghori â Chynrychiolydd Adnoddau Dynol Adrannol cyn ystyried cais am seibiant gyrfa.

Mae angen i chi a'ch rheolwr llinell ystyried y ffactorau canlynol wrth ystyried cais am seibiant gyrfa:

  • Anghenion yr adran
  • Y nifer o staff a allai fod yn absennol yn ystod cyfnod y seibiant gyrfa, e.e. absenoldeb mamolaeth, salwch tymor hir, ac ati
  • Natur y gwaith y mae’r gweithiwr yn ei wneud
  • Cost llenwi’r bwlch tra bydd y gweithiwr yn absennol
  • Dulliau eraill o gyflawni gwaith y swydd
  • Yr effaith ar reoli llwyth gwaith – ystyriwch y llwyth gwaith cyfredol a’r llwyth gwaith sy’n cael ei ragweld
  • Faint o rybudd a roddwyd
  • A fydd angen ailhyfforddi’r gweithiwr wrth iddo ddychwelyd?
  • A oes gwarant y caiff y gweithiwr ddychwelyd i’r un swydd?
  • Natur y berthynas gytundebol yn ystod yr absenoldeb

Yn y cyfarfod, byddwch chi a'ch rheolwr llinell yn trafod agweddau ymarferol o'r seibiant gyrfa arfaethedig ac yn sefydlu hyd y seibiant gyrfa.

Os na roddir cymeradwyaeth, dylai eich rheolwr llinell roi gwybod i chi o fewn 14 diwrnod gwaith. Dylai hyn gael ei nodi’n ysgrifenedig, a dylai egluro’r rhesymau dros beidio â chaniatáu’r seibiant gyrfa. Er enghraifft, efallai na fydd yn briodol caniatáu ceisiadau am seibiant gyrfa am y rhesymau canlynol:

  • Baich costau ychwanegol
  • Effaith niweidiol ar y gallu i gwrdd â'r galw gan gwsmeriaid
  • Anallu i ad-drefnu gwaith ymysg y staff presennol
  • Anallu i recriwtio staff ychwanegol
  • Effaith niweidiol ar ansawdd
  • Effaith niweidiol ar berfformiad
  • Newidiadau sydd yn yr arfaeth o ran y strwythur

Os caiff y seibiant gyrfa ei gymeradwyo bydd y rheolwr llinell yn cadarnhau’r cytundeb hwn gyda’r Cynrychiolydd Adnoddau Dynol Adrannol a fydd yn anfon llythyr yn manylu ar yr holl drefniadau. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi yn eich ffeil personol.

Bydd Rheoli Pobl a Pherfformiad yn hysbysu’r adran gyflogres a phensiynau am y seibiant gyrfa. Fe'ch cynghorir i geisio cyngor am effaith y seibiant gyrfa ar fudd-daliadau gwladol, pensiwn galwedigaethol a gwarchodaeth bywyd. I gael gwybodaeth am gyfraniadau pensiwn ewch i’r adran am delerau ac amodau.

Lle bo rheolwr llinell yn gwrthod cais, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Pennaeth Gwasanaeth priodol. Dylai’r gweithiwr nodi’r rhesymau am yr apêl cyn gynted â phosib ar ôl cael yr hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r penderfyniad. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn gwrando ar yr apêl o fewn 14 diwrnod i benderfyniad y rheolwr llinell. Bydd penderfyniad y Pennaeth Gwasanaeth yn derfynol, a byddwch yn cael gwybod o fewn 7 diwrnod gwaith i’r gwrandawiad.

Mae cynnal lefel o gysylltiad yn bwysig gan fod y rhai sydd ar seibiant gyrfa yn gallu teimlo eu bod wedi cael eu hynysu, ac efallai y byddant yn gwangalonni rhag dychwelyd i’r gwaith. Os caiff cysylltiad ei gynnal gydol y seibiant, efallai y bydd llai o angen am hyfforddiant a gall helpu i sicrhau bod aelod medrus o’r staff yn cael ei gadw.

Dylid cytuno ar y trefniadau i gadw cysylltiad cyn dechrau’r seibiant gyrfa. Awgrymir y canlynol fel ffyrdd posib o gadw cysylltiad:

  • sicrhau bod y gweithiwr yn gallu parhau i gael newyddlenni
  • newyddion diweddaraf/cyhoeddiadau adrannol
  • Y Gair

Mae dyletswydd arnoch chi hefyd i gadw cysylltiad ac i gynnal cofrestriad priodol gydag unrhyw gyrff a sefydliadau proffesiynol yr ydych yn aelod ohonynt. Dylech roi gwybod i’r rheolwr am unrhyw gylchlythyr, llenyddiaeth etc y mae eu hangen arnoch.  Dylech roi gwybod i’r rheolwr am unrhyw gylchlythyr, llenyddiaeth ac ati y mae arnoch eu hangen.

Mae’n ofynnol i weithwyr weithio isafswm o 10 diwrnod gwaith ym mhob blwyddyn galendr yn ystod y seibiant gyrfa. Rhaid i chi a'ch rheolwr llinell drefnu'r manylion ymlaen llaw cyn i’r seibiant gyrfa ddechrau.

Nid yw’n rhaid i’r cyfnod hwn o 10 diwrnod fod yn gyfnod di-dor. Mae'n bosibl y byddwch yn cael eich gwahodd i sesiynau hyfforddi/seminarau a sesiynau cyfarwyddo, a gall cyfanswm o 5 diwrnod felly gyfrif tuag at y 10 diwrnod o wasanaeth.

Byddwch yn cael eich talu cyflog pro rata am y diwrnodau hyn. Mae’r cyfnod ar gadw yn y polisi wedi’i fwriadu i helpu i gynnal eich sgiliau a'ch gwybodaeth, a bydd yn helpu i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf. Ni allwch yn bendant gymryd rhan mewn unrhyw waith y tu hwnt i’r cyfnod penodedig hwn o 10 diwrnod gyda’r Cyngor. Mae diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn cael eu hystyried yn gyflog pensiynadwy.

Er mwyn ymgeisio am ddiwrnod(au) Cadw mewn Cysylltiad, llenwch y ffurflen 'Cadw Mewn Cysylltiad'. Bydd eich Rheolwr Llinell yn awdurdodi ac yn anfon yr wybodaeth ymlaen at y Tîm Absenoldeb er mwyn ei phrosesu.

Bydd manylion y telerau a’r amodau a’r gweithdrefnau sy’n berthnasol yn ystod seibiant gyrfa yn cael eu nodi yn y llythyr cadarnhau. Ar ôl i chi ddarllen hwn yn llawn, mae angen i chi anfon copi wedi'i lofnodi at Gynrychiolydd priodol yr Adran Adnoddau Dynol, yn cadarnhau eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau.

Dylai unrhyw ymholiadau/cwestiynau gael eu trafod â’r rheolwr llinell neu Gynrychiolydd Adnoddau Dynol Adrannol.

Lle bo hynny’n bosib dylid cymryd pob hawl i wyliau blynyddol sy’n ddyledus cyn dechrau ar seibiant gyrfa. Os nad oes modd trefnu hyn mae gan eich rheolwr llinell ddisgresiwn i awdurdodi cario hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol drosodd i’r flwyddyn wyliau ar ôl dychwelyd o’r seibiant gyrfa.

Nid yw gwyliau blynyddol yn cronni yn ystod y seibiant gyrfa.

Bydd y seibiant gyrfa yn cyfrif fel gwasanaeth di-dor at ddibenion diogelu cyflogaeth a bydd yn cyfrif tuag at wasanaeth hir pan fyddwch yn dychwelyd. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod o seibiant gyrfa, ni fydd hawl ganddoch i dâl salwch galwedigaethol. Efallai y bydd Tâl Salwch Statudol yn daladwy, yn dibynnu ar yr amodau cymhwyso.

Yn ystod seibiant gyrfa, ni fyddwch yn cronni gwasanaeth di-dor at ddibenion symud i fyny'r cynyddrannau ar y golofn gyflogau, gan fod hynny'n cael ei atal yn ystod y seibiant gyrfa.

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy'n deillio o gyfnod o absenoldeb heb dâl, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol. Ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith, byddwch yn gallu dewis adfer y pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb heb dâl. Os byddwch yn penderfynu gwneud hynny cyn pen 30 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith, caiff cost yr ad-daliad ei rhannu rhyngoch chi a'r Awdurdod (1/3 gan yr aelod a 2/3 gan y cyflogwr). Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu gwneud hynny ar ôl y cyfnod hwn o 30 diwrnod, bydd yn rhaid i chi, yr Aelod, dalu'r gost o adfer eich pensiwn a gollwyd yn ei chyfanrwydd.

Gan fod seibiant gyrfa yn cael ei ystyried yn wasanaeth di-dor, os byddwch yn marw yn ystod eich gwasanaeth neu’n mynd yn analluog i weithio tra byddwch ar seibiant gyrfa, mae'ch hawliau o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn parhau. Chi neu'ch cynrychiolydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyfraniadau pensiwn ôl-weithredol yn cael eu talu.

Yn ystod y seibiant gyrfa mae’n ofynnol eich bod yn parhau i gadw at God Ymddygiad y Cyngor, ei Bolisi Disgyblu a phob polisi a gweithdrefn arall. Rydych yn parhau i fod o dan rwymedigaeth i gadw at y safonau sy’n ofynnol gan weithwyr llywodraeth leol.

Mae seibiant gyrfa yn cael ei ystyried fel parhad o gyflogaeth at ddibenion dileu swydd, o ran bwrw cyfrif o hyd y cyfnod o wasanaeth. Caiff tâl dileu swydd ei gyfrifo ar y pwynt cyflog ar ddechrau’r seibiant gyrfa yn cynnwys unrhyw ddyfarniadau cyflog cenedlaethol.

Yn dibynnu ar ba bryd y bydd yr wythnos gymhwyso o ran cyfrifo’r hawl i dâl mamolaeth yn disgyn, gallai effeithio ar dâl mamolaeth galwedigaethol a thâl mamolaeth statudol. Gallwch ofyn i'r Swyddogion Adnoddau Dynol Adrannol am gyngor pellach.

Mae’n ddyletswydd arnoch i roi gwybod i’ch rheolwyr llinell cyn gynted â phosib am unrhyw newidiadau, problemau neu faterion a allai godi mewn perthynas â’r seibiant gyrfa. Os byddwch yn dymuno newid telerau eich seibiant gyrfa, rhaid gwneud hynny gyda chytundeb eich rheolwr llinell. Er enghraifft, gofyn am estyniad i’r seibiant gyrfa neu ddefnyddio’r seibiant i reswm gwahanol i’r rheswm a nodwyd yn wreiddiol.

Os byddwch yn dymuno ymddiswyddo yn ystod eich seibiant gyrfa, yna mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i derfynu eich cyflogaeth fel yr amlinellir yn amodau a thelerau eich cyflogaeth.

Rydym yn cadw’r hawl i derfynu seibiant gyrfa os caiff telerau’r seibiant gyrfa eu newid neu eu torri heb gytundeb. Er enghraifft, lle mae gweithiwr yn dweud yn y cais y bydd yn defnyddio’r amser i deithio ac y daw i’r amlwg ei fod yn gweithio i gyflogwr arall. Gallwn ystyried defnyddio’r Polisi Disgyblu o dan amgylchiadau felly.

Os byddwch yn ymgymryd â chwrs astudio oedd yn cael ei gyllido gennym ni cyn y seibiant gyrfa, mae'n bosibl y gofynnir i chi dalu am y costau hyfforddi.

Cydnabyddir y bydd yr amgylchiadau lle gallai hyn ddigwydd amrywio, felly rhaid i’ch rheolwr llinell arfer disgresiwn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, os ydym eisoes wedi ymrwymo i gyllido cwrs, y mae’n rhaid rhoi terfyn arno oherwydd y seibiant gyrfa, mae'n ofynnol i chi ad-dalu cost y cwrs cyn dechrau ar y seibiant gyrfa neu ymchwilio i weld a oes modd gohirio’r cwrs nes i chi ddychwelyd. Os mai diben y seibiant gyrfa yw neilltuo rhagor o amser i astudio a chwblhau cwrs astudio, efallai y bydd yn rhesymol parhau i’w gyllido.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol