Absenoldeb Tadolaeth

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Darpariaeth yw absenoldeb tadolaeth sy'n eich galluogi i gymryd absenoldeb yn ychwanegol at eich hawl i wyliau blynyddol, gan ganiatáu ichi gynorthwyo eich partner, helpu i rannu'r cyfrifoldebau gofal plant, a threulio amser buddiol gyda'ch plentyn newydd. Mae Absenoldeb Tadolaeth yn caniatáu i rieni newydd gymryd hyd at 2 wythnos o absenoldeb gyda thâl yn dilyn genedigaeth neu fabwysiadu plentyn.

Bydd gennych hawl i gymryd Absenoldeb Tadolaeth:

  • Os bydd eich gwraig, eich partner sifil, neu eich partner yn rhoi genedigaeth i blentyn neu os mai chi yw tad biolegol y plentyn a bod gennych 26 wythnos o wasanaeth di-dor erbyn y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth NEU
  • Os ydych yn rhiant mabwysiadol i blentyn sydd newydd ei baru neu ei leoli a bod gennych 26 wythnos o wasanaeth di-dor erbyn diwedd yr wythnos pryd y rhoddir gwybod ichi eich bod yn cael eich paru â'ch plentyn. Gall y rhiant mabwysiadol gymryd Absenoldeb Tadolaeth lle bo'r rhiant mabwysiadol arall wedi dewis cymryd absenoldeb mabwysiadu AC
  • Os byddwch yn cyfrannu'n llawn at fagwraeth y plentyn a'ch bod yn cymryd amser o'r gwaith i gynorthwyo mam/tad neu ofalwr y babi.

Rhaid i Reolwyr Llinell sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o'r weithdrefn ar gyfer rhoi gwybod am absenoldeb tadolaeth a gwneud cais amdano yn eu Hadrannau.

Sut mae gwneud cais am Absenoldeb Tadolaeth

Rydych yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn dilyn y broses gywir ar gyfer rhoi gwybod am absenoldeb tadolaeth. Yn achos pob absenoldeb dylid cael tystysgrif MATB1 a roddir i'r partner beichiog gan y Fydwraig/Meddyg tua 20fed wythnos y beichiogrwydd neu Dystysgrif Baru a ddarperir gan yr Asiantaeth Fabwysiadu.

Dylech roi gwybod i'ch rheolwr a'r Tîm Absenoldeb drwy gwblhau'r ffurflen gais fan hwyraf erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig genedigaeth y plentyn/lleoli'r plentyn neu cyn gynted ag sy'n ymarferol resymol. Sylweddolir y bydd yn anodd mewn llawer o achosion i ddarogan pryd yn union y bydd angen yr absenoldeb, ond dylai staff sy'n dymuno cymryd Absenoldeb Tadolaeth roi gwybod i'w Rheolwr Llinell cyn gynted â phosibl am ddyddiadau tebygol yr absenoldeb.

O fewn amodau gwasanaeth unigol, ac yn unol â'r holl amodau cymhwysol (gweler y siart llif tâl tadolaeth), mae'r darpariaethau sylfaenol sy'n berthnasol i absenoldeb ac i dâl fel a ganlyn:

  • Absenoldeb tadolaeth hyd at fwyafswm o 2 wythnos.
  • Rhaid cymryd yr absenoldeb tadolaeth o fewn 56 diwrnod ar ôl union ddyddiad geni'r plentyn/lleoli'r plentyn neu, pan gaiff y plentyn ei eni'n gynt na'r disgwyl, rhwng y dyddiad geni a 56 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.
  • Mae tâl tadolaeth yn cynnwys dwy ran – naill ai un i ddwy wythnos yn olynol (ond nid dwy wythnos ar wahân na diwrnodau unigol).
  • Hawl i ddychwelyd i'r gwaith heb fod yr amodau'n llai ffafriol na'r rheiny fyddai wedi bod ar waith pe na fyddid wedi cymryd yr absenoldeb.
  • Mae gan weithwyr sydd â pherthynas gymhwysol â menyw feichiog neu â phlentyn disgwyliedig hawl i gael amser o'r gwaith heb dâl er mwyn mynd gyda’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cyn geni.

I fod yn gymwys ar gyfer tâl tadolaeth statudol, mae'n rhaid:

Eich bod wedi eich cyflogi'n ddi-dor am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i'r babi gael ei eni, neu yn achos mabwysiadu, erbyn diwedd yr wythnos pryd y rhoddir gwybod i'r mabwysiadwr ei fod yn cael ei baru â phlentyn. Yr wythnos gymhwysol yw'r wythnos, gan ddechrau ar y dydd Sul, y rhoddwyd gwybod i'r mabwysiadwr ei fod wedi cael ei baru â'r plentyn, a chan ddod i ben y dydd Sadwrn canlynol.

  • Bod eich enillion wythnosol cyfartalog yn yr 8 wythnos ar ddiwedd yr wythnos gymhwysol yn cyfateb i'r terfyn enillion is h.y. y terfyn enillion is ar gyfer plentyn sy'n cael ei baru fydd £123 yr wythnos.
  • Rhoi 28 diwrnod o rybudd o'ch bwriad i hawlio tâl tadolaeth (lle bo'n ymarferol).

Opsiwn 1 - Os bydd gan weithwyr lai na 26 wythnos o wasanaeth ar ddechrau'r 15fed wythnos cyn y disgwylir i'r babi gael ei eni neu'n arwain i mewn i'r wythnos pryd y rhoddir gwybod i'r mabwysiadwr ei fod yn cael ei baru â phlentyn, ni fydd hawl ganddynt i gymryd absenoldeb tadolaeth ond bydd hawl ganddynt i gael tâl/absenoldeb cymorth mamolaeth/mabwysiadu fel a ganlyn:

  • 1 wythnos o Absenoldeb Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu (1 wythnos gyda thâl arferol)

Opsiwn 2 - Os bydd gan weithwyr o leiaf 26 wythnos o wasanaeth di-dor ac os byddant yn ennill o leiaf £123 (gros) ar y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth, neu'n arwain i mewn i'r wythnos pryd y rhoddir gwybod i'r mabwysiadwr ei fod yn cael ei baru â phlentyn, bydd ganddynt hawl i ddewis hyd at ddwy wythnos o dâl/absenoldeb tadolaeth fel a ganlyn:

  • 1 wythnos o dâl/absenoldeb tadolaeth sy'n cynnwys 1 wythnos o Absenoldeb Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu (1 wythnos gyda thâl arferol wedi ei osod yn erbyn Tâl Tadolaeth Statudol Arferol) ac 1 wythnos o Dâl Tadolaeth Statudol Arferol sef £184.03 o Dâl Tadolaeth Statudol yr wythnos (neu 9/10fed o'r enillion wythnosol cyfartalog os ydynt yn llai) NEU
  • 1 wythnos o Absenoldeb Cymorth Mamolaeth (1 wythnos gyda thâl arferol wedi ei osod yn erbyn Tâl Tadolaeth Statudol Arferol) (Bydd hyn yn berthnasol pan na fydd y gweithiwr yn dewis cymryd yr ail wythnos o'r Tâl/Absenoldeb Tadolaeth Statudol).

Os mai un wythnos yn unig a gymerir, caiff ei gosod yn erbyn eich tâl llawn a derbynnir tâl llawn.

Os cymerir dwy wythnos, caiff yr wythnos gyntaf ei thalu'n llawn a chaiff enillion wythnosol cyfartalog eu didynnu o'r ail wythnos a thelir Tâl Tadolaeth Statudol o £184.03 yn lle hynny.

Dim ond tra bydd gweithiwr ar absenoldeb tadolaeth y gellir talu tâl tadolaeth. Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Y cynharaf y gall yr absenoldeb tadolaeth gychwyn yw union ddyddiad geni'r plentyn neu yn dilyn lleoli'r plentyn, ond mae'n rhaid ei gwblhau o fewn 56 diwrnod ar ôl union ddyddiad geni neu leoli'r plentyn.

Gallwch newid y dyddiad cychwyn cyn belled â'ch bod yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o'r dyddiad cychwyn newydd (oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hyn). Rhowch wybod i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb yn ysgrifenedig.

Os caiff eich plentyn ei eni'n gynnar, gallech fod yn gymwys i gael tâl/absenoldeb tadolaeth o hyd cyn belled â'ch bod wedi gweithio'n ddi-dor am o leiaf 26 wythnos erbyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth.

Mae gan weithwyr a gweithwyr asiantaeth sydd â pherthynas gymhwysol â menyw feichiog neu â phlentyn disgwyliedig hawl i gael amser o'r gwaith heb dâl er mwyn mynd gyda’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cyn geni/mabwysiadu.

Bydd yr hawl hon gennych o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth.  Bydd gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar ôl 12 wythnos yn yr un aseiniad. O ran yr hawl i amser o'r gwaith, pennwyd mwyafswm o chwe awr a hanner ar bob achlysur, a all gynnwys amser teithio, amser aros a'r apwyntiad.

Mae gan weithiwr neu weithiwr asiantaeth berthynas gymhwysol â'r fenyw feichiog neu'r plentyn disgwyliedig os yw:

  • yn ŵr neu'n bartner sifil i'r fenyw feichiog;
  • yn achos mabwysiadu, yn briod â phrif fabwysiadwr y plentyn neu'n bartner sifil neu'n bartner i'r prif fabwysiadwr, ac wedi ei baru â'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu
  • yn byw gyda'r fenyw feichiog mewn perthynas deuluol barhaus, ond heb fod yn rhiant, mam-gu neu dad-cu, chwaer, brawd, modryb neu ewythr iddi;
  • yn dad y plentyn disgwyliedig; neu
  • yn rhiant bwriadedig mewn sefyllfa benthyg croth ac yn bodloni amodau penodol.

Os bydd camesgoriad neu enedigaeth farw yn digwydd o'r 25ain wythnos ymlaen neu os na fydd y babi yn goroesi yn dilyn ei enedigaeth, gallai fod hawl gennych i gael tâl ac absenoldeb tadolaeth yn y ffordd arferol.

Os ydych yn cyfrannu at Gynllun Pensiwn yr Awdurdod, tra byddwch ar Absenoldeb Tadolaeth gyda thâl byddwch yn talu cyfraniadau ar sail eich union enillion a bydd eich cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth gyda thâl yn cyfrif tuag at eich gwasanaeth pensiynadwy yn y ffordd arferol.

Yn ystod cyfnod o absenoldeb heb dâl, bydd eich pensiwn yn cael ei atal dros dro. Pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith gallwch adfer unrhyw 'bensiwn a gollwyd' yn sgil cyfnod o absenoldeb heb dâl drwy dalu cyfraniadau ychwanegol o dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol. I wneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer y pensiwn a gollwyd cyn pen 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith.  

Yn ystod y flwyddyn ar ôl i'ch plentyn gael ei eni neu ei fabwysiadu, byddwch yn gallu rhannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl. Cyn belled ag ein bod yn cytuno, gallwch hyd yn oed gymryd yr absenoldeb mewn hyd at dri chyfnod ar wahân, sy'n caniatáu ichi newid trefniadau os bydd angen. Edrychwch ar y Polisi Rhannu Absenoldeb Rhiant.

Mae’r llyfryn hwn yn eich cynorthwyo i fagu plant yn ddwyieithog yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n egluro beth yw dwyieithrwydd a beth yw’r manteision o fod yn amlieithog. Mae’n rhoi gwybodaeth defnyddiol hefyd am sut i gyflwyno’r Gymraeg i’ch plant a pha lwybrau sydd ar gael iddynt ddilyn i ddod yn unigolion dwyieithog yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Beth bynnag yw eich iaith yn y cartref, gall magu eich plant yn ddwyieithog roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol iddynt.

Ewch i 'Bod yn Ddwyieithog' i gael gwybodaeth bellach.

Adnoddau Dynol