Rhannu absenoldeb rhiant
Diweddarwyd y dudalen: 13/11/2024
Hawl newydd yw Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL) ar gyfer rhieni cymwys lle bydd eu plant yn cael eu geni neu eu lleoli i’w mabwysiadu ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015. Pwrpas SPL yw rhoi mwy o hyblygrwydd a dewis i rieni gyda sut y maen nhw’n gofalu am eu plentyn yn y flwyddyn gyntaf.
Yn y bôn, gall rhieni plentyn a rhieni mabwysiadol benderfynu sut i rannu cyfanswm o 52 o wythnosau o absenoldeb rhyngddynt ar yr amod eu bod yn gymwys i dderbyn SPL. Rhaid i’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr gymryd pythefnos i ffwrdd ond mae modd i weddill y 50 wythnos o absenoldeb, gan gynnwys 37 wythnos o dâl rhiant statudol, gael ei rannu a gellir naill ai ei gymryd ar yr un pryd, ar wahân neu mewn cyfres o gyfnodau, ar ôl cytuno â ni ar hyn.
Bydd yr opsiwn o gymryd SPL a thâl yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolion a gallai fod yn gyfleus i rai teuluoedd.
Dyma rai o’r ffactorau i’w hystyried:
- Ydy’r ddau riant yn gymwys am SPL / Tâl Rhiant a Rennir (ShPP)
- Ydy’r rhieni eisiau cymryd yr absenoldeb gyda’i gilydd neu ar wahân
- Ydy’r fam / prif fabwysiadwr eisiau lleihau cyfnod eu tâl ac absenoldeb mamolaeth / tadolaeth
- Unrhyw opsiynau eraill fel cymryd absenoldeb blynyddol, diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad (KIT) neu ofyn i gael gweithio'n hyblyg.
Dylid hefyd nodi’r pwyntiau canlynol:
- Gellir ond cymryd absenoldeb Mamolaeth / Tadolaeth mewn un bloc ond gall SPL gynnig blociau pellach o absenoldeb (rhwng dyddiad geni / lleoli’r plentyn a’i ben-blwydd cyntaf).
- Unwaith y bydd y fam / prif fabwysiadwr wedi cwtogi eu habsenoldeb / tâl mamolaeth neu fabwysiadu, gellir ond ei adfer mewn rhai amgylchiadau’n unig.
- Telir Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) / Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) ar y gyfradd uchaf sef 90% o enillion cyfartalog y fam / prif fabwysiadwr am y chwe wythnos gyntaf. Ar ôl y chwe wythnos gyntaf telir SMP/SAP ar y gyfradd statudol. Telir ShPP ar y gyfradd statudol yn unig.
- Mae mamau wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth. Daw’r cyfnod hwn o warchodaeth i ben ar ddiwedd y cyfnod mamolaeth.
Eich Cyfrifoldebau Chi
- Rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell cyn gynted â phosib eich bod am gymryd SPL.
- Darparu’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi eich cais i gymryd SPL.
- Cyfrannu’n gadarnhaol at drafodaethau ynghylch dyddiadau a rhoi gwybodaeth a thystiolaeth i gefnogi eich cais lle gofynnir am hynny ac o fewn yr amserlen ofynnol.
- Sicrhau bod y rhiant arall hefyd yn gymwys am SPL ac anfon y rhybuddion / gwaith papur cywir a thystiolaeth o fod yn gymwys am SPL i’w cyflogwr er mwyn bodloni gofynion eu cyflogwr ar gyfer ceisiadau SPL.
Cyfrifoldebau’r Rheolwr Llinell
- Sicrhau y cynhelir trafodaeth fuan gyda gweithwyr er mwyn gallu ystyried pob cais yn brydlon ynghyd â gofynion y gwasanaeth.
- Sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen yn cael ei darparu a'i hanfon ymlaen i'r tîm absenoldeb o fewn yr amser sy'n ofynnol, er mwyn gallu diwygio cofnodion tâl.
- Sicrhau bod y trefniadau dirprwyo staff priodol yn cael eu rhoi yn eu lle.
Bydd gan rieni hawl o hyd i gymryd Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Tadolaeth / Rhiant. Fodd bynnag, gall mam / prif fabwysiadwr cymwys yn awr ddewis cwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’n gynnar a dewis cymryd SPL.
Mae SPL yn gorgyffwrdd â hawl y fam / prif fabwysiadwr i gymryd absenoldeb mamolaeth/ mabwysiadu gan fodoli ochr yn ochr â hawl ei phartner i gymryd wythnos neu bythefnos o absenoldeb tadolaeth. Mae’n disodli’r hawl i absenoldeb tadolaeth ychwanegol.
Ni ddylid drysu rhwng SPL ac Absenoldeb Rhiant sy’n rhoi hyd at 18 wythnos o amser i ffwrdd yn ddi-dâl cyn pen-blwydd plentyn yn 18 oed.
Bydd rhieni cymwys yn gallu rhannu uchafswm o 50 wythnos o absenoldeb sy’n cynnwys 39 wythnos o dâl statudol, er mwyn gofalu am blentyn ym mlwyddyn gyntaf ei fywyd.
Ni ellir cymryd SPL tan ar ôl i’r plentyn gael ei eni / lleoli i’w fabwysiadu a dim ond i blant sy’n cael eu geni neu leoli i’w mabwysiadu ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015 y mae’n berthnasol. Nid oes raid i bartneriaid fod yn gweithio i ni ond rhaid iddynt fodloni’r meini prawf cyflogaeth ac enillion sylfaenol.
Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf cymhwyso isod i fod yn gymwys am SPL.
Meini Prawf Cymhwyso
Os chi yw’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr, i fod yn gymwys bydd angen i chi:
- Fod wedi gweithio i ni am 26 wythnos yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig (neu erbyn y dyddiad y bydd wedi’u baru â phlentyn i'w fabwysiadu).
- Dal i fod yn gweithio i ni tan y bydd ef / hi’n cymryd SPL.
- Bod â hawl i absenoldeb mamolaeth / tadolaeth statudol yng nghyswllt y plentyn.
- Cydymffurfio â’r gofynion cwtogi absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu perthnasol (neu fod wedi dychwelyd i weithio cyn i’r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu statudol ddod i ben).
- Bod â phartner sy’n bodloni’r ‘prawf cyflogaeth ac enillion’ (sy’n golygu gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y plentyn, ac ennill o leiaf £30 mewn 13 o'r wythnosau hynny) a darparu datganiad ynghylch hyn. Rhoi’r rhybudd a’r datganiadau gofynnol gan gynnwys datganiad gan y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr eu bod yn gymwys am SPL ac yn cytuno i gais eu partner am SPL (ac fel arall).
Os chi yw’r gofalwr eilaidd, rhaid i chi:
- Fod wedi gweithio am gyfnod di-dor o 26 wythnos yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig (neu erbyn y dyddiad y bydd wedi’u baru â phlentyn i'w fabwysiadu).
- Dal i fod yn gweithio i ni tan y bydd nhw'n cymryd SPL.
- Rhannu’r prif gyfrifoldeb am ofalu am y plentyn.
- Rhaid i rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr y plentyn fod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos o'r 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y plentyn, ac ennill o leiaf £30 yr wythnos, a rhaid bod ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth / tadolaeth, SMP/SAP neu Lwfans Mamolaeth. Os hawl i absenoldeb mamolaeth / tadolaeth, rhaid i nhw fod wedi cwtogi'r cyfnod hwnnw neu fod wedi dychwelyd i weithio. Os nad oes ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu, rhaid iddynt fod wedi terfynu eu hawl i dâl SMP/SAP neu Lwfans Mamolaeth.
- Rhoi’r rhybudd a’r datganiadau sy’n ofynnol. Bydd hyn yn cynnwys:
- Datganiad wedi’i arwyddo gan y gofalwr eilaidd a’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr yn nodi eu bod yn gymwys am SPL a faint o wythnosau y mae nhw'n bwriadu eu cymryd.
- Rhybudd archebu’n gosod allan y dyddiadau a’r patrymau absenoldeb sydd ganddynt mewn golwg.
Bydd eich datganiad cymhwyso, wedi’i arwyddo, yn ddigon o dystiolaeth – nid oes angen i ni gadarnhau hyn gyda chyflogwr y rhiant arall.
Weithiau dim ond un rhiant fydd yn gymwys.
Er enghraifft os yw rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr yn bodloni’r amodau cymhwyso, ond nid yw’r partner wedi gweithio i’w cyflogwr yn ddigon hir i gymhwyso am SPL, ni fyddant yn gallu cymryd eu cyfran nhw o SPL ond gall y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr ddewis rhannu eu hamser rhwng yr absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu a’r SPL i roi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran sut i gymryd yr absenoldeb, er enghraifft drwy gymryd blociau ysbeidiol o absenoldeb. Os yw’r ddau riant yn bodloni’r meini prawf sy’n ofynnol gellir rhannu’r absenoldeb rhyngddynt. Mater i’r ddau neu’r ddwy ohonynt wedyn fydd sut i rannu’r absenoldeb.
Dim ond dau berson fydd yn gymwys am SPL ar gyfer pob genedigaeth / lleoliad plentyn, e.e. y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr a’u partner. Os nad oes gan y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr hawl i absenoldeb mamolaeth / tadolaeth, rhaid iddynt fod wedi terfynu neu roi rhybudd i gwtogi cyfnod eu tâl mamolaeth / mabwysiadu neu gyfnod eu lwfans mamolaeth, i'w partner fod yn gymwys am SPL.
Example:
- Cyfanswm o 52 wythnos ar gyfer absenoldeb mamolaeth / tadolaeth
- Llai: Nifer yr wythnosau a gymerwyd cyn geni’r plentyn: 4 wythnos
- Llai: Nifer yr wythnosau gorfodol: 2 wythnos
- Llai: Nifer yr wythnosau a gymerwyd ers geni'r plentyn, os rhoddir rhybudd ar ôl y dyddiad hwnnw: 0
- Cyfanswm ar gael i’w cymryd fel SPL = 46 wythnos
Bydd gan y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr, lle bodlonir meini prawf penodol, hawl i Dâl Mamolaeth Statudol (SMP) / Tâl Mabwysiadu Statudol neu Lwfans Mamolaeth (MA) am hyd at 39 wythnos.
Os yw’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr yn cwtogi eu hawl i dâl mamolaeth / mabwysiadu neu lwfans mamolaeth cyn iddynt fod wedi’i dderbyn am 39 wythnos, yna gallai unrhyw wythnosau ar ôl fod ar gael fel ShPP.
Gall y gweithiwr ond cwtogi’r hawl i SMP/SAP neu MA os ydynt wedi rhoi ‘rhybudd o hawl a bwriad’.
Telir Tâl Rhiant Statudol a Rennir (ShPP) o £184.03 yr wythnos neu ar gyfradd o 90% o enillion wythnosol cyfartalog gweithiwr (pa un bynnag sydd isaf).
Os yw’r ddau riant yn gymwys am ShPP rhaid iddynt benderfynu pwy fydd yn ei dderbyn, neu sut i’w rannu, a rhoi gwybod i’w cyflogwr am eu hawl iddo.
I gymhwyso am ShPP rhaid i riant:
- Basio’r prawf cyflogaeth ddi-dor (bod wedi gweithio i’r un cyflogwr am 26 wythnos o leiaf yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y plentyn / dyddiad paru) a
- Bod wedi ennill cyflog cyfartalog ar y trothwy enillion isaf (sef yr enillion wythnosol gros sy’n caniatáu i weithiwr gymhwyso am fudd-daliadau penodol gan y wladwriaeth) o £123 am yr wyth wythnos cyn y 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig neu’r dyddiad paru.
Rhaid i’r rhiant arall yn y teulu:
- Fodloni'r prawf cyflogaeth ac enillion (yn y 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y plentyn / dyddiad paru, rhaid i'r person fod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos ac ennill o leiaf £30 yr wythnos ar gyfartaledd mewn unrhyw 13 wythnos).
Os yw gweithiwr yn bwriadu hawlio ShPP, rhaid iddynt roi rhybudd a llenwi pob rhan o’r ffurflen 'Rhybudd o Hawl a Bwriad':
- Ffurflen: Rhybudd o Hawl a Bwriad (y rhiant biolegol / mabwysiadwr / rhiant benthyg croth)
- Ffurflen: Rhybudd o Hawl a Bwriad (partner)
Mae angen y wybodaeth ganlynol:
- Faint o ShPP y mae gan y ddau riant hawl ei gymryd
- Faint o ShPP y mae pob rhiant yn bwriadu ei gymryd
- Pryd y maen nhw’n disgwyl cymryd ShPP
- Datganiad gan bartner y gweithiwr yn cadarnhau eu bod yn cytuno i’r gweithiwr gymryd eu cyfran nhw o ShPP.
Bydd y rhiant sy’n cymhwyso’n derbyn tâl rhiant statudol a rennir.
Mae’n bwysig i chi roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell cyn gynted ag y bo modd beth yw eich cynlluniau i gymryd SPL, fel y gall eich Rheolwr Llinell ddechrau cynllunio ar gyfer yr absenoldeb disgwyliedig.
Mae’r rhybuddion y mae’n rhaid i rieni roi i’r cyflogwr perthnasol i allu cymryd absenoldeb rhiant a rennir mewn tair rhan. Y rhain yw:
- ‘Rhybudd cwtogi absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’ gan y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr yn nodi pryd y maent yn bwriadu terfynu eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu (oni bai fod y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr eisoes wedi dychwelyd i weithio o’r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu);
- ‘Rhybudd o hawl a bwriad’ gan y gweithiwr yn rhoi syniad cychwynnol, heb fod yn derfynol, o bob cyfnod o absenoldeb rhiant a rennir y mae’n gofyn amdano; a
- ‘Rhybudd o gyfnod absenoldeb’ gan y gweithiwr yn nodi dyddiad dechrau a gorffen pob cyfnod o absenoldeb rhiant a rennir y mae’n gofyn amdano.
Er mwyn i gyfnod o SPL ddechrau, bydd angen i’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr cymwys gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu mewn un o ddwy ffordd:
- Gall ddychwelyd i weithio cyn diwedd yr absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu gan felly ddod â’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu i ben. Fel ar hyn o bryd, bydd y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr yn gallu terfynu eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu cyn diwedd y 52 wythnos drwy roi rhybudd o wyth wythnos o bryd y bwriedir dychwelyd i weithio. Unwaith y bydd wedi dychwelyd i weithio, daw cyfnod mamolaeth y rhiant biolegol / prif fabwysiadwr i ben ac ni ellir ei ailgychwyn, neu:
- Gall roi rhybudd i ni o fwriad i derfynu’r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu ar ddyddiad yn y dyfodol a nodir gan y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr drwy gyflwyno 'rhybudd o hawl a bwriad'.
Dylai’r rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr roi rhybudd i gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu. Rhaid i’r rhybudd i gwtogi absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu fod yn ysgrifenedig gan nodi pryd y daw’r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu i ben. Rhaid i’r dyddiad fod:
- Ar ôl y pythefnos gorfodol o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu
- O leiaf wyth wythnos ar ôl y dyddiad a roddodd y rhiant biolegol/ prif fabwysiadwr rybudd i gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu
- O leiaf wythnos cyn y dyddiad y byddai’r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu ychwanegol yn dod i ben.
Mae cwtogi yn caniatáu i weithiwr derfynu’r cyfnod Absenoldeb a Thâl rhywdro yn y dyfodol.
Lawrlwytho: Ffurflen - Rhybudd Byrhau Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu
Os yw’r fam / prif fabwysiadwr wedi rhoi rhybudd i derfynu eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu a’r naill riant neu’r llall wedi rhoi gwybod i’w cyflogwr o’u hawl i gymryd SPL, yna mae'r rhybudd i derfynu'r absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu'n derfynol a gellir ond ei dynnu'n ôl mewn rhai amgylchiadau. Rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig a gellir ond ei roi os nad yw’r fam / prif fabwysiadwr wedi dychwelyd i weithio.
Gall y fam / prif fabwysiadwr dynnu ei rhybudd cwtogi absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’n ôl os:
- O fewn wyth wythnos i’r fam / prif fabwysiadwr yn rhoi rhybudd i derfynu eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu, lle daw’n amlwg nad yw’r un o’r ddau riant yn gymwys am SPL.
- Pan roddwyd rhybudd cyn yr enedigaeth / lleoliad, gellir ei dynnu’n ôl heb roi rheswm hyd at chwe wythnos yn dilyn yr enedigaeth / lleoliad.
- Lle mae’r partner wedi marw.
Os yw’r fam / prif fabwysiadwr yn tynnu eu rhybudd i derfynu eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’n ôl, mae modd iddynt aros ar absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu. Bydd eu hawl i absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’n cael ei hadfer i gyfanswm o 52 wythnos.
Lawrlwytho: Ffurflen: Tynnu rhybudd terfynu absenoldeb yn ôl
Dim ond syniad o gynlluniau cwpwl ar gyfer y dyfodol yw ‘rhybudd o hawl a bwriad’ ac mae modd iddynt eu newid yn y dyfodol.
Rhaid i’r ddau riant roi rhybudd heb fod yn derfynol o hawl a bwriad i’w cyflogwyr. Rhaid i weithwyr roi’r rhybudd hwn i’w rheolwr, a rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad dechrau'r cyfnod cyntaf o absenoldeb rhiant a rennir.
Rhaid cyflwyno’r ‘rhybudd o hawl a bwriad’ ar yr un pryd â’r ‘rhybudd cwtogi’.
Rhaid i’r rhybudd o hawl a bwriad gynnwys y wybodaeth benodol sy'n ofynnol o dan y rheoliadau statudol. Dylai gweithwyr ddefnyddio’r ffurflen rhybudd o hawl a bwriad i sicrhau eu bod yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol.
Dylai’r tîm absenoldeb sicrhau bod y rhiant yn gymwys i ymgeisio am, a chymryd, yr absenoldeb a gallent ofyn am dystiolaeth o fewn 14 diwrnod i dderbyn y rhybudd o fwriad. Gallai’r tîm ofyn am y wybodaeth ganlynol:
- Enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner
- Copi i’r dystysgrif geni
- Yn achos plentyn mabwysiedig, tystiolaeth ddogfennol o enw a chyfeiriad yr asiantaeth fabwysiadu, y dyddiad y cawsoch eich hysbysu o fod wedi cael eich paru â'r plentyn a'r dyddiad y mae'r asiantaeth yn disgwyl lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu.
- Yn achos benthyg croth, tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am orchymyn rhiant
Er mwyn cael hawl i SPL, rhaid ichi gyflwyno’r wybodaeth yma o fewn 14 diwrnod i ni ofyn amdani.
Mae’r ffurflen yn gofyn am ddatganiad wedi'i lofnodi gennych chi a'ch partner yn dweud eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwyso. Mae angen i’ch partner ddatgan eu cyfeiriad a’u rhif Yswiriant Gwladol.
Gellir ystyried y ffurflen hon fel ffurflen optio mewn, h.y. dweud wrth gyflogwr y bwriedir cymryd SPL rhyw dro yn y dyfodol. Fodd bynnag, oherwydd nad yw’n derfynol, nid oes raid i chi optio mewn yn y dyfodol.
Lawrlwytho:
Ffurflen: Rhybudd o Hawl a Bwriad (y fam / prif fabwysiadwr)
Ffurflen: Rhybudd o Hawl a Bwriad (partner)
Mae’n rhaid llenwi’r ffurflen ‘rhybudd o hawl a bwriad’ oherwydd bydd yn sefydlu a ydych yn gymwys ac yn cadarnhau eich hawl. Nid yw cwpwl yn gymwys oni bai y llenwir y ffurflen hon.
Ar ôl cyflwyno ‘rhybudd o hawl a bwriad’ dylid cynnal trafodaethau anffurfiol rhyngoch chi a’ch rheolwr llinell ar y cyfnodau o SPL y bwriadwch eu cymryd.
Mae’n bwysig bod rheolwyr llinell yn gweld derbyn y ‘rhybudd o hawl a bwriad’ fel cychwyn y cyfnod a’r broses drafod.
Bydd y cyfnod rhybudd o wyth wythnos a roddir yn cynnwys cyfnod trafod o bythefnos i roi cyfle i rieni gael trafodaeth â'u rheolwyr llinell am eu cynlluniau cyn gwneud cais ffurfiol am absenoldeb.
Gallai trafodaeth ar y pwynt hwn fod yn gyfle da i dynnu eich sylw at y gwahanol opsiynau (mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, gweithio hyblyg etc), a allai gynnwys cynlluniau statudol a chontractiol uwch.
Dylai rheolwyr llinell fod yn gwbl ymwybodol o hawliau gweithwyr sy’n gofyn am gymryd SPL a bydd angen iddynt chwarae rôl ragweithiol a chefnogol.
Er nad yw’n derfynol, os byddwch eisiau amrywio neu ganslo dyddiadau absenoldeb posib a roesoch yn eich rhybudd gwreiddiol, dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell yn ysgrifenedig cyn gynted ag y gallwch o’r newidiadau arfaethedig, ynghyd â datganiad wedi’i arwyddo gan y rhiant arall eu bod yn cytuno i’r amrywiad.
Ni chyfyngir ar faint o amrywiadau o ‘rybudd o hawl a bwriad’ y gallwch eu gwneud.
Lawrlwytho: Ffurflen: Amrywio rhybudd o hawl a bwriad
Byddwch yn gofyn am eich absenoldeb drwy lenwi ffurflen ‘rhybudd o gyfnod absenoldeb’ sy’n rhaid ei chyflwyno drwy roi rhybudd o wyth wythnos cyn dechrau’r absenoldeb.
Nid oes raid i’r rhybudd ‘archebu' fod yn derfynol ychwaith. Dim ond ar y pwynt cwtogi y daw’r rhybuddion yn rhai terfynol.
Gallwch roi’r rhybudd o gyfnod absenoldeb ar yr un pryd â ‘rhybudd o hawl a bwriad’ a gallwch ofyn am gyfnod di-dor o absenoldeb neu gyfnodau ysbeidiol o absenoldeb.
Lawrlwytho: Ffurflen: Ffurflen rhybudd o gyfnod absenoldeb
Absenoldeb Di-dor
Cyfnod parhaus o absenoldeb yw hwn. Mae gennych hawl statudol i gymryd bloc di-dor o absenoldeb rhiant a rennir. Er enghraifft, gallai fod yn rhybudd o gyfnod chwe wythnos o absenoldeb. Mae gan weithwyr cymwys hawl statudol i gymryd SPL fel hyn.
Rhaid i chi dderbyn rhybudd o absenoldeb di-dor.
Absenoldeb Ysbeidiol
Cyfnod o absenoldeb dros amser gyda thoriadau rhwng wythnosau o absenoldeb lle mae'r gweithiwr yn dychwelyd i weithio yw hyn. Gallwch wneud hyd at dri chais am absenoldeb ysbeidiol, er y gallwch hefyd rannu pob bloc o amser y gofynnwch amdano’n gyfnodau llai o amser. Er enghraifft gallwch ofyn am 1-28 Mai, 20-30 Mehefin a 1-30 Awst. Byddai hyn yn cyfrif fel un cais felly byddai gennych ddau gais ar ôl.
Y cyfnod lleiaf o SPL yw wythnos.
Rhaid i gais am absenoldeb ysbeidiol fod yn rhywbeth i’w gytuno, a gellir ei ganiatáu, ei wrthod neu awgrymu dyddiadau gwahanol.
Mae gennych hawl i wneud tri rhybudd o absenoldeb ar y mwyaf, gan gynnwys y mathau canlynol:
- Rhybudd i archebu cyfnodau di-dor neu ysbeidiol o absenoldeb nad yw’n cael ei dynnu’n ôl ar neu cyn y 15fed diwrnod calendr ar ôl ei gyflwyno.
- Unrhyw rybudd gennych i amrywio cyfnodau o absenoldeb a drefnwyd ac a gytunwyd yn flaenorol.
Dylai’r ddau neu’r ddwy riant sicrhau bod rhybuddion absenoldeb yn cynnwys yr hawl lawn i absenoldeb a rennir y penderfynwyd ei gymryd.
Achosion lle gallwn ddiystyru eich ceisiadau
- Lle mae’r rheolwr llinell yn cynnig amrywiad i’r absenoldeb, a chithau’n cytuno, ni fyddai hyn yn cyfrif fel rhybudd pellach a bydd yn cael ei gadarnhau’n ysgrifenedig.
- Bydd rhybuddion a dynnir yn ôl neu sy’n cael eu hamrywio oherwydd bod y plentyn wedi cael ei eni neu ei leoli’n gynt neu’n hwyrach na’r disgwyl, yn cael eu diystyru.
Bydd pob rhybudd o absenoldeb di-dor yn cael eu cadarnhau’n ysgrifenedig. Bydd pob cais am absenoldeb ysbeidiol yn cael ei ystyried yn ofalus.
Unwaith y gwneir cais am absenoldeb ysbeidiol, byddwch chi a’ch rheolwr llinell yn cael cyfnod trafod o 14 diwrnod calendr (o’r dyddiad y derbynnir y cais) i siarad am y cais.
Unwaith y bydd eich rheolwr llinell wedi derbyn, ystyried a thrafod rhybudd i archebu SPL, mae tri chanlyniad posib:
- Caniatáu
- Gwrthod
- Awgrymu dyddiadau eraill
Os na chyrhaeddir cytundeb o fewn 14 diwrnod calendr, neu os yw eich rheolwr llinell yn gwrthod y rhybudd o absenoldeb ysbeidiol, neu nid oes ymateb i’r rhybudd o absenoldeb ysbeidiol, daw’r darpariaethau diofyn canlynol i rym.
O fewn 14 diwrnod i’r rhybudd gwreiddiol:
- Rhaid cymryd yr holl absenoldeb yn y cais ysbeidiol fel un bloc di-dor o absenoldeb. Bydd yn rhaid i chi wedyn benderfynu a ydych am gymryd yr absenoldeb fel bloc di-dor neu dynnu’r cais yn ôl.
O fewn 15 diwrnod calendr i’r rhybudd gwreiddiol:
- Os na chyrhaeddir cytundeb, gallwch dynnu’r rhybudd o absenoldeb ysbeidiol yn ôl. Rhaid i chi gyflwyno hyn yn ysgrifenedig i’ch rheolwr llinell o fewn 15 diwrnod i'r rhybudd gwreiddiol.
- Os tynnwch y cais yn ôl, ni fydd yn cyfrif fel un o’r tri rhybudd i archebu absenoldeb.
- Os na thynnwch y cais yn ôl, bydd y rhybudd o absenoldeb ysbeidiol yn troi’n ôl yn awtomatig yn gyfnod o absenoldeb di-dor.
O fewn 19 diwrnod calendr i’r rhybudd gwreiddiol:
- Gallwch ddewis pryd y bydd yr absenoldeb di-dor yn dechrau ond ni all ddechrau’n gynt nag wyth wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd y rhybudd gwreiddiol. Rhaid i chi gyflwyno hyn yn ysgrifenedig i’ch rheolwr llinell o fewn 19 diwrnod i'r cais gwreiddiol.
- Os na ddewiswch ddyddiad, bydd y dyddiad dechrau’n troi’n ôl yn awtomatig i'r dyddiad y byddai'r absenoldeb ysbeidiol y gwnaethoch ofyn amdano wedi dechrau gyntaf.
Bydd pob cais am absenoldeb ysbeidiol yn cael ei ystyried fesul achos. Dylech ddeall y darpariaethau diofyn / troi’n ôl sydd yn eu lle fel nad ydych yn colli terfyn amser pwynt gweithredu.
Gall gweithiwr amrywio neu ganslo’r dyddiadau absenoldeb rhiant a rennir arfaethedig ar ôl cyflwyno rhybudd cyfnod o absenoldeb, ar yr amod eu bod yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i'w cyflogwr nid llai nag wyth wythnos cyn y byddai unrhyw gyfnod o absenoldeb sy'n cael ei amrywio neu ei ganslo gan y rhybudd wedi dechrau. Gall y rhybudd ysgrifenedig:
- Amrywio dyddiad dechrau neu ddyddiad gorffen unrhyw gyfnod o absenoldeb rhiant a rennir, neu ganslo cais am absenoldeb;
- Gofyn i gyfnod o absenoldeb di-dor ddod yn gyfnod o absenoldeb ysbeidiol; neu
- Gofyn i gyfnod o absenoldeb ysbeidiol ddod yn gyfnod o absenoldeb di-dor.
Trafod cais i amrywio
Bydd angen i’ch rheolwr llinell ystyried eich cais i amrywio’r absenoldeb.
Rheolwr Llinell yn cynnig amrywiad i’r absenoldeb
Gallai fod achosion, a chymryd eich bod yn cytuno, lle mae’r rheolwr llinell yn cynnig amrywiad i’r absenoldeb. Ni fyddai hyn yn cyfrif fel rhybudd pellach a bydd yn cael ei gadarnhau’n ysgrifenedig.
Gallai fod achosion lle nad ydych chi a'ch rheolwr llinell yn gallu cytuno ar batrwm yr absenoldeb ysbeidiol. Os na chyrhaeddir cytundeb erbyn y daw’r pythefnos o gyfnod trafod i ben, mae gennych hawl i dynnu’r rhybudd yn ôl. Cyn belled ag y gwnewch hyn erbyn y 15fed diwrnod ar ôl ei gyflwyno, gallwch ailgyflwyno ac ni fydd y rhybudd cyntaf yn cyfrif tuag at y cwota o dri.
Lawrlwytho:
Llythyr: Rhybudd i Amrywio Absenoldeb
Nid oes raid i ni wirio’r wybodaeth a roddir mewn unrhyw rybudd i gwtogi absenoldeb neu dâl. Fodd bynnag, fel y rhybudd o hawl a bwriad, byddwn eisiau gwirio ei fod wedi cael ei dderbyn wyth wythnos cyn diwedd y cyfnod tâl.
Mae’n bwysig iawn bod y rheolwr llinell a'r gweithiwr yn cyfathrebu'n fuan er mwyn cytuno ar absenoldeb sy'n gweithio'n dda i'r ddwy ochr.
Rydyn yn cadw’r hawl i gadw mewn cysylltiad rhesymol â chi i’ch diweddaru ar newidiadau yn y gweithle a allai helpu i esmwytho’r broses o ddychwelyd i weithio.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol tuag atoch tra byddwch i ffwrdd o’r gwaith a byddwn yn rhoi gwybod i chi am faterion fel cyfleoedd swydd.
Gallwch weithio yn ystod eich SPL ar ddiwrnod ‘cadw-mewn-cysylltiad absenoldeb rhiant a rennir (SPLIT) heb ddod â’r SPL i ben na cholli ShPP.
Mae’n bosib gweithio hyd at 20 o ddiwrnodau SPLIT yn ystod absenoldeb SPL.
Mae diwrnodau SPLIT:
- Ar gael i bob rhiant o dan y trefniant Absenoldeb Rhiant a Rennir
- Ar ben y 10 diwrnod Cadw-mewn-Cysylltiad yn ystod Absenoldeb Mamolaeth a Mabwysiadu.
Er enghraifft, gallai’r fam / prif fabwysiadwr ddefnyddio 10 diwrnod KIT yn ystod eu habsenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu ac yna 20 diwrnod SPLIT arall os yw hi neu ef a'i phartner yna'n penderfynu cael trefniant gweithio Absenoldeb Rhiant a Rennir. (Bydd cael trefniant Absenoldeb Rhiant a Rennir yn dibynnu ar fod yn gymwys, y weithdrefn rybudd gywir, dod i gytundeb â’r rheolwr llinell, a chwtogi).
Rhaid i ddiwrnodau SPLIT gael eu cytuno rhyngoch chi a’ch rheolwr llinell ac maen nhw’n drefniant dewisol ar y ddwy ochr. Nid oes raid i Reolwyr Llinell gytuno i ddiwrnodau SPLIT ac nad oes raid i chi weithio diwrnod o’r fath os nad ydych yn dymuno. Cyn gweithio diwrnod SPLIT rhaid i chi drafod, â’ch rheolwr, yr union drefniadau ac ar ba sail y byddech yn gweithio’r diwrnod SPLIT.
Os oes gennych hawl i dderbyn ShPP statudol am unrhyw wythnos pryd y byddwch yn dod i’r gwaith ar gyfer diwrnodau SPLIT, byddwch yn dal i dderbyn hyn yn y ffordd arferol. Byddwn hefyd yn talu’r gyfradd dâl gontractiol arferol am bob awr a weithiwch yn ystod diwrnod SPLIT, wedi ei gwrthbwyso yn erbyn y ShPP statudol.
I wneud cais am ddiwrnod (au) SPLIT cwblhewch y ffurflen SPLIT. Bydd angen i’ch Rheolwr Llinell e-bostio’r Tîm Absenoldeb os byddwch yn gweithio diwrnod(au) SPLIT.
Yn dilyn cyfnod o absenoldeb rhiant a rennir o gyfanswm o 26 wythnos neu lai, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ar delerau ac amodau gwaith dim llai ffafriol. Gall y cyfnod o absenoldeb gynnwys cyfnodau o absenoldeb mamolaeth / tadolaeth / mabwysiadu.
Lle cymrwch gyfnod o absenoldeb sy'n dod i gyfanswm o fwy na 26 wythnos mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol. Yn yr amgylchiadau hyn rhaid i ni gynnig rôl arall addas ar delerau ac amodau dim llai ffafriol i chi.
Cymerwn y byddwch yn dychwelyd i weithio ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y dyddiad y cytunwyd y byddai’r SPL yn dod i ben (y dyddiad y cawsoch eich hysbysu’n ffurfiol yn ysgrifenedig ohono yw hwn).
Os dymunwch ddychwelyd i weithio’n gynt na hyn, rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i amrywio’r absenoldeb a rhoi rhybudd o wyth wythnos o’r dyddiad dychwelyd cynnar (bydd hyn yn cyfrif fel un o’r tri rhybudd). Os ydych eisoes wedi defnyddio eich tri rhybudd i archebu a / neu amrywio absenoldeb, yna nid oes raid i’ch rheolwr llinell dderbyn y rhybudd ond gall wneud hynny os ystyrir y byddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Os na allwch ddychwelyd i weithio ar ddiwedd eich SPL oherwydd salwch, bydd gennych hawl i dâl salwch yn unol â’r polisi absenoldeb salwch, ar yr amod y dilynir y weithdrefn ar adrodd salwch.
Os ydych eisiau cymryd, neu greu SPL (a thâl) er mwyn i’ch partner ei gymryd, ac mae gennych ddwy swydd (neu fwy), rhaid i chi fod wedi dod â’r dyddiad y daw’r Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu i ben ymlaen ym mhob swydd, naill ai drwy ddychwelyd i weithio neu roi rhybudd i ddod â’r cyfnod Absenoldeb i ben (rhaid rhoi rhybudd i bob un o’ch cyflogwyr ar yr un pryd).
Os yw’r plentyn yn cael ei eni / ei leoli cyn y dyddiad disgwyliedig a chithau wedi archebu i gymryd SPL o fewn yr wyth wythnos gyntaf i'r dyddiad disgwyliedig, gallwch gymryd yr un faint o amser i ffwrdd ar ôl yr enedigaeth heb orfod rhoi rhybudd o wyth wythnos, drwy gyflwyno rhybudd i amrywio eich absenoldeb cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol i chi wneud. Yn wahanol i rybuddion amrywio eraill, ni fyddai hwn yn cyfrif fel un o’r tri rhybudd.
Mae unrhyw absenoldeb a drefnir ar ôl wyth wythnos gyntaf y dyddiad disgwyliedig yn dal i fod yn ddarostyngedig i’r rhybudd o wyth wythnos i amrywio’r absenoldeb.
Os caiff y plentyn ei eni / ei leoli mwy nag wyth wythnos cyn y dyddiad disgwyliedig ac nid yw’r rhybudd o hawl i SPL a / neu rybudd i archebu SPL wedi eu cyflwyno eto, yna nid yw’n ofynnol rhoi rhybudd o wyth wythnos cyn i’r cyfnod o absenoldeb ddechrau. Dylid rhoi’r rhybudd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl lleoli neu eni’r plentyn mewn gwirionedd.
Os bydd y plentyn yn marw cyn i’r rhieni gyflwyno rhybudd o hawl i gymryd SPL, ni fyddant yn gallu optio mewn i SPL oherwydd un o’r amodau cymhwyso yw gofalu am blentyn. Efallai y bydd gan y fam / prif fabwysiadwr hawl o hyd i absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu a gallai'r partner yn dal i fod yn gymwys am absenoldeb tadolaeth statudol.
Os yw’r rhieni wedi optio mewn i SPL ac wedi archebu absenoldeb, bydd ganddynt yndal hawl i gymryd yr absenoldeb a archebwyd. Ni ellir cyflwyno rhybudd pellach i archebu absenoldeb a dim ond un rhybudd i amrywio y gellir ei roi i leihau cyfnod o absenoldeb neu ail-drefnu trefniant absenoldeb ysbeidiol yn un bloc o absenoldeb.
Gall gweithwyr sy’n absennol ar SPL ganslo’r SPL a gytunwyd a dychwelyd i weithio drwy roi rhybudd o wyth wythnos i ni o bryd y maent yn bwriadu dychwelyd i weithio.
Os yw’r naill riant neu’r llall yn marw, ac mae’r rhiant arall yn cymryd neu mae ganddynt hawl i gymryd SPL, yna byddant yn parhau i fod yn gymwys. Gellir trosglwyddo unrhyw SPL oedd i gael ei gymryd gan y rhiant a fu farw i’r rhiant arall os yw’r rhiant arall yn gymwys am SPL.
Os bydd angen i’r rhiant arall gymryd cyfnod pellach o SPL neu amrywio absenoldeb a gytunwyd yn barod, yna gall roi rhybudd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol os na all roi wyth wythnos o rybudd. Os ydynt eisoes wedi cyflwyno tri rhybudd i gymryd absenoldeb, rhaid caniatáu iddynt gyflwyno un rhybudd arall i archebu / diwygio SPL.
Ni fydd gennych hawl i fwy o SPL neu ShPP os ydych yn disgwyl mwy nag un plentyn. Mae’r hawliau, fel gydag absenoldeb mamolaeth, yr un fath â phe baech yn disgwyl un plentyn.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i fabwysiadu mwy nag un plentyn fel rhan o un lleoliad.
Yn ystod SPL bydd holl delerau ac amodau eich contract, ac eithrio’ch tâl arferol, yn parhau. Byddwn hefyd yn parhau’r buddion fel yr amlinellir yn y Polisi Absenoldeb Rhiant a rennir a'r Polisi Cyflog.
Byddwch yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ystod eich Absenoldeb Rhiant a Rennir. Anogir unigolion i gytuno â’u rheolwr llinell ar bryd y maent yn bwriadu cymryd gwyliau blynyddol cyn dechrau'r Absenoldeb Rhiant a Rennir. Gellir yna cymryd y gwyliau cyn, ar ôl neu rhwng cyfnodau o Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Yn ystod SPL, bydd staff hefyd yn cronni gwyliau banc ar gyfer unrhyw ŵyl banc sy’n disgyn o fewn y cyfnod o SPL. Os yw bloc o SPL yn croesi dwy flwyddyn wyliau, gallwch gario gwyliau blynyddol a gronnwyd yn y flwyddyn wyliau gyntaf drosodd ond rhaid cymryd y diwrnodau hyn o fewn tri mis i’r dyddiad y daw’r SPL i ben.
Os oes gennych gontract gweithio yn ystod y tymor yn unig, bydd angen i chi gymryd eich gwyliau blynyddol pan fydd yr ysgol wedi cau.
Dylech chi a’ch Rheolwr Llinell gyfrifo faint o wyliau blynyddol y mae gennych hawl iddo, h.y. gwyliau ysgol (ysgol ar gau) yn y flwyddyn wyliau gyfredol, gwyliau a gymerir cyn i'r SPL ddechrau, ac asesu a oes arnynt wyliau blynyddol ychwanegol i chi (wrth i'r gwyliau gronni dros weddill y flwyddyn wyliau gyfredol yn ystod SPL).
Lle mae SPL yn croesi o un flwyddyn wyliau i’r llall, dylech chi a’ch Rheolwr Llinell unwaith eto sicrhau bod unrhyw wyliau blynyddol a gronnwyd yn ystod SPL yn y flwyddyn wyliau honno’n cael eu gwrthbwyso yn erbyn y cyfnodau pan oedd yr ysgol wedi cau pan fyddwch yn dychwelyd o SPL.
Os nad oes digon o gyfnodau pan fo'r ysgol ar gau i chi gymryd y gwyliau blynyddol sydd heb eu cymryd, dylid caniatáu i chi gymryd yr absenoldeb yn ystod y tymor yn syth ar ôl i chi ddychwelyd, neu gario'r gwyliau drosodd i'r flwyddyn wyliau nesaf.
Ni fydd cyfraniadau pensiwn yn ystod cyfnod o SPL di-dâl yn cael ei dalu oni bai eich bod yn dewis eu talu ar ffurf Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol (APC).
Os dymunwch dalu APC ac os dewiswch wneud hynny o fewn 30 diwrnod i ddychwelyd i weithio, chi fydd yn talu 1/3 o’r gost a byddwn ni’n talu’r 2/3 arall. Os na ddewiswch dalu APL o fewn 30 diwrnod i ddychwelyd i weithio, chi’n unig fydd yn gyfrifol am dalu cost y cyfraniadau pensiwn.
Am fwy o wybodaeth am gyfraniadau APC, ewch i wefan Cronfa Bensiwn Dyfed.
Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Athrawon (TPS), ac yn derbyn ShPP, bydd hyn yn cyfrif fel arian pensiynadwy a bydd cyfraniadau pensiwn yn parhau i gael eu tynnu allan o’r ShPP. Bydd y cyfraniadau’n seiliedig ar y tâl a gawsoch tra oeddech yn absennol. Ni fydd cyfraniadau’n cael eu talu, gennych chi na ni, yn ystod unrhyw gyfnod o SPL di-dâl ac ni fydd hyn yn cyfrif fel cyflogaeth bensiynadwy.
I gael mwy o wybodaeth am y cynllun pensiynau athrawon cysylltwch yn uniongyrchol â Teachers Pensions.
Os penderfynwch beidio â dychwelyd i weithio, dylech ymddiswyddo’n ysgrifenedig gan roi’r rhybudd priodol sy’n ofynnol o dan eich contract gwaith.
Gallai absenoldeb di-dâl ychwanegol fod ar gael i chi o dan ddarpariaethau polisi absenoldeb rhiant yr Awdurdod, seibiant gyrfa etc. Dylid darllen y polisi amser o'r gwaith am fwy o wybodaeth.
Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwyso, mae gennych hawl i wneud cais yn unol â’r polisi i gael gweithio'n hyblyg.
Ffurflenni
- Rhybudd i gwtogi Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Benthyg Croth (.doc)
- Diddymu rhybudd i gwtogi Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Benthyg Croth (.doc)
- Rhybudd o Hawl a Bwriad (y fam / mabwysiadwr / rhiant benthyg croth) (.doc)
- Rhybudd o Hawl a Bwriad (partner) (.doc)
- Amrywio’r Rhybudd o Hawl a Bwriad (.doc)
- Rhybudd Cyfnod o Absenoldeb (.doc)
- Rhybudd i amrywio’r cyfnod o absenoldeb (.doc)
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 20
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Amharu ar drefniadau gwaith
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
Gadael y Cyngor
Cwrdd â'r tîm
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol