Creu swydd wag
Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2026
FIDEOS “SUT I..."
Trosolwg o'r Broses Gymeradwyo
Sut i roi mynediad i gydweithwyr i'ch swydd wag
Creu postiadau swyddi diduedd drwy Oleeo - YouTube
CYNNWYS
- Camau allweddol i greu swydd wag
a. Canllawiau ynghylch cwblhau'r meysydd creu swydd wag
b. Creu swydd wag
- Deall y broses gymeradwyo
a. Ymateb i ymholiadau
b. Swyddi sydd wedi'u heithrio
- Gweithredu'ch swydd wag ar ôl iddi gael ei chymeradwyo
a. Hyrwyddo’ch swydd wag
- Rhoi mynediad i gydweithwyr i'ch swydd wag
- Creu templed
- Creu swydd wag gan ddefnyddio templed presennol
- Creu Templed Sgorio Cyfweliad
- Y cam nesaf
I greu swydd wag, bydd angen i chi gwblhau'r camau canlynol:
- Creu Swydd Wag Newydd - Nodwch yr holl wybodaeth am y swydd wag, gan gynnwys manylion y swydd wag, llif proses, ffurflenni, ac ati, sy'n gysylltiedig â'ch swydd wag.
- Cymeradwyaeth – Ar gyfer swyddi nad ydynt wedi'u heithrio, bydd angen i'ch swydd wag fynd drwy'r broses gymeradwyo briodol cyn gallu ei phostio i'r bwrdd swyddi. Bydd yn rhaid i swyddi sydd wedi'u heithrio fynd drwy broses wirio cyn gallu eu postio i'r bwrdd swyddi.
- Mynediad/Cyfranogwyr – Ystyriwch ddefnyddwyr eraill a allai fod angen cael mynediad i'ch swydd wag (gweler adran 4 isod).
- Gweithredu/Postio - Pennwch yr amser a'r dyddiad y bydd eich swydd wag yn cael ei phostio i bob bwrdd swyddi sydd ar gael a'r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr.
Canllawiau ynghylch cwblhau'r meysydd creu swydd wag
Mae'r meysydd sydd i'w cwblhau ar y dudalen creu swydd wag yn syml. Fodd bynnag, darperir canllawiau ychwanegol isod:
- Bydd gan rai meysydd eiconau 'cymorth' wrth eu hymyl i roi rhagor o ganllawiau.
- Bydd rhai meysydd yn gofyn i chi gynnwys y testun Cymraeg. Edrychwch am yr eicon
i weld pa adrannau i'w hystyried ar gyfer cyfieithu.
| Maes Creu Swydd Wag | Disgrifydd |
|---|---|
| Dewiswch Dempled | Os oes templed wedi'i greu, gallwch ei ddewis o'r rhestr templedi. |
|
Teitl y Swydd
|
Rhowch deitl y swydd yma – sicrhewch ei fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y proffil swydd. Bydd angen i chi hefyd gynnwys y fersiwn Gymraeg o deitl y swydd. Os ydych am i'ch swydd wag fod yn agored i ymgeiswyr mewnol yn unig, dylech gynnwys y geiriad (Ymgeiswyr Mewnol yn Unig) wrth ymyl teitl y swydd yn Gymraeg ac yn Saesneg (Internal Applicants Only). |
| Dyddiad cau | Wrth benderfynu ar y dyddiad cau sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i'r swydd wag fynd drwy'r broses gymeradwyo. Byddem yn argymell pennu dyddiad o leiaf 3 wythnos i ffwrdd. Fodd bynnag, os yw eich swydd wag yn cymryd mwy o amser i gael ei chymeradwyo, gall y tîm recriwtio, wrth gynnal y gwiriad terfynol, newid y dyddiad cau ar ôl trafod hynny gyda'r rheolwr recriwtio. |
|
Testun yr Hysbyseb
|
Dyma lle byddwch yn 'torri a gludo' eich hysbyseb o'r templed hysbyseb. Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o'ch hysbyseb drwy ddewis ‘Insert Welsh text here’ a bydd blwch testun newydd yn ymddangos. Cofiwch, os gwnewch unrhyw newidiadau i'r testun Saesneg, mae'n rhaid i chi newid y testun Cymraeg. Gallwch ddefnyddio offeryn rhagfarn ar sail rhywedd Oleeo i wirio eich hysbyseb.. |
|
Cwestiynau Hidlo Cyn Ymgeisio
|
Ychwanegwch eich cwestiynau yma. Cofiwch, bydd angen i chi gynnwys y testun Cymraeg. |
|
Cwestiynau Baner Goch
|
Ychwanegwch eich cwestiynau yma. Cofiwch, bydd angen i chi gynnwys y testun Cymraeg. |
Creu swydd wag
- Dewiswch y tab 'Create a Vacancy' ar eich dangosfwrdd a chliciwch ar Create Vacancy.
- Byddwch yn mynd i'r dudalen Create lle bydd angen i chi lenwi'r holl wybodaeth sylfaenol am eich swydd wag.
- Mae'n rhaid cwblhau'r meysydd sydd â seren wrth eu hymyl i symud ymlaen.
- Bydd meysydd glas golau yn cael eu dangos i ymgeiswyr gan y byddant yn ymddangos yn yr hysbyseb ar y bwrdd swyddi.
- Mae angen pob maes arall fel rhan o'r llif gwaith gwiriadau cyn cyflogi a/neu er mwyn llunio adroddiadau.
- Bydd y rhan fwyaf o feysydd yn gofyn i chi ddewis opsiwn o gwymplen.
- Bydd rhai o'r meysydd hyn yn flychau testun rhydd a bydd angen i chi glicio ar y blwch ‘Insert Welsh text here’ i ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o'r testun. Sylwer: Ni fydd y system yn cyfieithu'r cynnwys yn awtomatig i chi; mae'n rhaid i chi gael y cynnwys wedi'i gyfieithu cyn llenwi'r ffurflen creu swydd wag.
- I gyflymu'r broses, gallwch greu templedi (gweler adran 7 – Sut i greu templed) lle gallai'r meysydd fod wedi cael eu llenwi ymlaen llaw.
- Ar ôl i chi gwblhau pob maes pwyswch y botwm ‘Create Vacancy’. Bydd hyn wedyn yn eich galluogi i gyflwyno'r swydd wag i'w chymeradwyo.
- Os ydych wedi hepgor unrhyw feysydd gorfodol, byddwch yn cael neges 'Oh Oh! Something's wrong' a bydd unrhyw feysydd sydd heb eu llenwi yn cael eu nodi. Ar ôl i chi ychwanegu'r wybodaeth sydd ar goll, sgroliwch i waelod y dudalen, a dewiswch yr eicon 'create vacancy' eto.
- Bydd 'statws' eich swydd wag yn newid i 'Draft' ac mae hyn yn rhoi cyfle i chi wirio bod yr holl wybodaeth yn gywir.
- Byddwch yn gallu gwneud newidiadau hyd nes eich bod yn barod i anfon y swydd wag i'w chymeradwyo.
- Os ydych am wneud newidiadau i'ch hysbyseb, yn y tab 'Description', cliciwch ar y botwm 'view', a bydd yn newid i 'Edit’. Cliciwch ar 'Edit' a gallwch wneud newidiadau. Sylwer: Os oes angen i chi wneud newidiadau i Deitl y Swydd bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Recriwtio. Ar ôl cwblhau hyn, sgroliwch i waelod y dudalen, a phwyswch y botwm 'Submit'.
- Yna gofynnir i chi ‘Request Approval’.
- Ar ôl i chi ddewis 'request approval' bydd hyn yn dechrau'r broses gymeradwyo. Gallwch wirio statws eich cais ar y dangosfwrdd Vacancies Awaiting Approval.
Ar ôl i chi gyflwyno'ch swydd wag, bydd yn symud ymlaen drwy broses hysbysu awtomatig. Bydd nifer y camau yn y broses gymeradwyo yn amrywio yn dibynnu ar y sefydliad, ac amlygir y Cymeradwywr Terfynol yn y broses mewn print bras isod.
| Y Cam | Cyngor Sir Caerfyrddin | Ysgolion | Llesiant Delta |
|---|---|---|---|
| Creu swydd wag | Rheolwr Recriwtio | Swyddog Gweinyddol, Rheolwr Busnes neu Bennaeth Ysgol | Arweinydd Tîm |
| Cymeradwyaeth 1 | Ymgynghorydd Adnoddau Dynol | Gwerthuso Swyddi | Gwerthuso Swyddi |
| Cymeradwyaeth 2 | Gwerthuso Swyddi | Pennaeth Ysgol | Rheolwr Gweithrediadau neu Uwch-reolwr neu Reolwr Gyfarwyddwr |
| Cymeradwyaeth 3 | Cyllid | ||
| Cymeradwyaeth 4 | Pennaeth Gwasanaeth | ||
| Cymeradwyaeth 5 | Cyfarwyddwr | ||
| Gwiriad Terfynol cyn postio hysbyseb | Y Tîm Recriwtio | Y Tîm Recriwtio | Y Tîm Recriwtio |
Ymateb i ymholiadau
- Ar ôl i chi bwyso'r botwm 'Request Approval' bydd y broses gymeradwyo yn dechrau.
- Bydd y cymeradwywr yn cael hysbysiad drwy e-bost, gan gynnwys dolen uniongyrchol i'r swydd wag, yn gofyn iddo adolygu'r cais.
- Bydd y cymeradwywr yn adolygu'r swydd wag a bydd yn gallu ei chymeradwyo neu beidio â'i chymeradwyo.
- Os na fydd y cymeradwywr yn cymeradwyo'r swydd wag, bydd yn ychwanegu sylwadau neu ymholiadau i chi ymateb iddynt.
- Mae'n rhaid i chi edrych ar y dangosfwrdd Approval yn rheolaidd i fonitro cynnydd eich ceisiadau swydd wag. Bydd unrhyw gymeradwyaeth "a wrthodwyd" yn ymddangos yn y dangosfwrdd Approval Rejected. Fel arall, os agorwch y swydd wag, fe welwch fod y statws wedi newid i 'Update Vacancy and Resend.’
- Os ydych yn clicio ar y botwm 'Update Vacancy and Resend', bydd yn agor tudalen 'Review Vacancy'. O dan y tab 'Description', gallwch sgrolio i waelod y tudalennau i weld y rheswm dros wrthod y swydd wag.
- Drwy glicio ar y botwm 'Edit' ar frig y dudalen, gallwch wneud y newidiadau y gofynnir amdanynt i'r maes perthnasol a/neu ychwanegu unrhyw sylwadau yn y maes Comments on Approval Process ar waelod y dudalen.
- Ar ôl i chi ddiweddaru'r manylion, ychwanegwch sylwadau yn y blwch sylwadau i ddangos i'r cymeradwywr eich bod wedi ymateb i'w ymholiad. Sgroliwch i waelod y dudalen a phwyswch y botwm 'submit' a bydd hysbysiad yn gofyn am ailgymeradwyo'r cais yn cael ei anfon drwy e-bost at y cymeradwywr a wrthododd y swydd wag i ddechrau.
- Ni fyddwch yn mynd yn ôl i ddechrau'r broses. Er enghraifft, os bydd Adnoddau Dynol, Gwerthuso Swyddi a Chyllid i gyd yn cymeradwyo'r swydd wag ond bod y Pennaeth Gwasanaeth yn gwrthod/cwestiynu'r swydd wag, ar ôl i chi ddiweddaru'r wybodaeth, bydd yn mynd yn ôl i'r Pennaeth Gwasanaeth ac yn parhau drwy gamau nesaf y broses gymeradwyo.
- Bydd y swydd wag yn parhau drwy'r broses gymeradwyo hyd nes iddi gael ei chymeradwyo neu ei gwrthod gan yr uwch-swyddog terfynol.
Swyddi sydd wedi'u heithrio
Bydd y Tîm Rheoli Corfforaethol yn cytuno pa swyddi gwag fydd yn cael eu 'heithrio' o'r broses gymeradwyo. Lluniwyd y rhestr hon yn seiliedig ar yr egwyddor bod yr holl swyddi sydd ynddi yn alwedigaethau hanfodol y mae'n rhaid eu llenwi oherwydd gofynion staffio statudol neu debyg. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r swyddi / grwpiau galwedigaethol hynny lle mae angen recriwtio treigl gan eu bod yn codi'n aml neu gan fod trosiant uchel.
Bydd yr holl swyddi sydd wedi'u heithrio a grëwyd ar system recriwtio Oleeo yn dal i fod yn destun fetio gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol. Os ydych wedi ticio bod eich swydd wedi'i heithrio, ond nid yw ar y rhestr swyddi sydd wedi'u heithrio, ni fydd y blwch wedi'i dicio a bydd eich swydd wag yn symud ymlaen drwy'r broses gymeradwyo lawn, cyn i'r hysbyseb gael ei gosod ar y wefan gorfforaethol.
- Ar ôl cael cymeradwyaeth derfynol, anfonir hysbysiad at y Tîm Recriwtio i adolygu a gweithredu'r swydd wag. Bydd y tîm hwn yn gyfrifol am ‘Weithredu'r’ swydd wag a'i phostio i'r porth/pyrth perthnasol.
- Byddwch yn derbyn hysbysiad drwy e-bost cyn gynted ag y bydd eich swydd wag yn "fyw" ar y system. Bydd statws eich swydd wag hefyd yn ymddangos fel ‘Active – Open to Applications'.
- Gallwch hefyd wirio statws eich swydd wag drwy glicio ar y tab Active Vacancies – Live on website. Fel arall, ar y dudalen Opportunity, gallwch glicio ar y tab Publish to Candidate Search Engines, a bydd yn dangos i ba byrth y mae'r swydd wag wedi'i phostio.
Hyrwyddo’ch swydd wag
Fel y rheolwr recriwtio, gallwch ddefnyddio codau QR i hyrwyddo'ch swydd wag ochr yn ochr â'r tudalennau swyddi.
- Agorwch eich swydd wag a dewiswch y tab ‘Publish to Candidate Search Engines’.
- Byddwch yn gweld dolenni unigryw i gyfeiriadau URL ar gyfer y swydd wag, y gallwch eu cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo.
- Details: Bydd hyn yn dangos codau QR i chi a fydd yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r hysbyseb neu'r ffurflen gais.
- Portal URL: Bydd y ddolen yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r porth chwilio am swyddi.
- Advert URL: Bydd y ddolen yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r ffurflen gais ar gyfer y swydd wag.
Yn ddiofyn, bydd y person sy'n creu'r swydd wag yn cael ei nodi'n awtomatig fel 'cyfranogwr' a bydd ganddo fynediad i'r swydd wag.
Efallai y bydd achosion lle bydd angen i chi roi mynediad i gydweithwyr i'r swydd wag - efallai eu bod yn helpu i lunio'r rhestr fer neu'n rhan o'r panel cyfweld; neu efallai y byddwch yn absennol neu fod un o'r cymeradwywyr i ffwrdd o'r gwaith, felly mae angen i chi roi mynediad i'ch swyddi gwag i bobl eraill.
- Agorwch eich swydd wag a dewiswch y tab ‘Participants’.
- Cliciwch ar y botwm +Add Participant a bydd blwch newydd yn ymddangos.
- Dewiswch yr ‘User/Profile’ drwy gynnal chwiliad meddal – dechreuwch deipio enw'r ymgeisydd a bydd opsiynau yn ymddangos – efallai y bydd gan rai defnyddwyr sawl proffil, felly dewiswch y proffil ar gyfer y rôl rydych am iddynt ei chyflawni.
- Dewiswch y categori priodol - fel arfer bydd opsiwn diofyn i chi ei ddewis. Os na fydd opsiwn diofyn yn ymddangos, dewiswch y math o rôl y bydd y cyfranogwr yn ei chyflawni e.e. sgriniwr/cyfwelydd.
- Os ydych am iddo fod yn gyfrifol yn gyffredinol am gydlynu'r broses recriwtio ar gyfer y swydd wag hon, yna dewiswch y blwch 'Co-ordinator'.
- Os oes angen i'r person weld ceisiadau, yna dewiswch ‘Can View Applications’.
- Nesaf, cliciwch ar y botwm 'Add Participant' a bydd yr unigolyn yn cael ei ychwanegu at y rhestr o gyfranogwyr.
- Bydd rhestr o gyfranogwyr yn ymddangos sydd â mynediad i'r swydd wag. Gallwch olygu neu ddileu cyfranogwyr.
Gallwch symleiddio'r broses creu swydd wag drwy ddefnyddio templedi i lenwi'r meysydd yn y ffurflen creu swydd wag ymlaen llaw.
- O'r ddewislen ar y chwith, dewiswch Vacancies, yna dewiswch Templates. Yng nghornel dde uchaf y dudalen dewiswch y botwm New Template.
- Yna byddwch yn mynd i dudalen newydd i gwblhau tri cham o greu templed.
- Cam 1: Dull Creu Cyfle
- Cam 2: Ffurflenni Ymgeiswyr
- Cwblhau Manylion Swydd Wag
- Gofynnir i chi am Deitl y Swydd ar gyfer y templed.
- Cofiwch, efallai y bydd defnyddwyr eraill yn cael mynediad i'ch templed wrth greu swydd wag ac felly dylech fod mor glir â phosibl. Efallai yr hoffech roi enw eich maes gwasanaeth neu'ch tîm neu'ch ysgol o flaen teitl eich swydd i'w gwneud yn haws chwilio amdani. Cofiwch ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o deitl y swydd.
- Bydd angen i chi ddewis sut y byddwch yn creu'r templed o blith dri opsiwn:
- Cliciwch ar y botwm ‘Continue to Candidate forms’.
- Mae'r cam hwn yn nodi'r ffurflenni y bydd yr ymgeiswyr yn eu llenwi ym mhob newid statws yn y llif gwaith. Mae'r rhain wedi'u rhagosod, ac ni ddylech newid unrhyw un o'r gosodiadau. Yn syml, sgroliwch i waelod y dudalen a symud i Gam 3 drwy glicio ar y botwm 'Continue to Opportunity Details’.
- Bydd hyn yn mynd â chi i'ch adran Opportunity Details, sydd wedi'u rhagosod, felly nid oes angen i chi gwblhau unrhyw un o'u meysydd.
- Byddwch hefyd yn gweld y meysydd 'Opportunity Description', sy'n adlewyrchu'r dudalen creu swydd wag. I greu'r templed, nid oes yr un o'r meysydd ar y dudalen hon yn orfodol. Gallwch gwblhau cynifer neu gyn lleied ag sydd angen. Fe welwch fod seren wrth ymyl yr holl feysydd ond mae hyn yn tynnu sylw at y meysydd a fydd yn orfodol pan fyddwch yn mynd ati i greu swydd wag fyw gan ddefnyddio'r templed hwn. Dim ond y meysydd rydych am eu llenwi ymlaen llaw y mae angen i chi eu cwblhau pan fyddwch yn dewis y templed hwn.
- Pan fyddwch yn hapus, cliciwch ar Create Vacancy ar waelod y dudalen i gadw'r templed ar y system.
- Yn yr un modd â chreu swydd wag, rhoddir rhif adnabod unigryw i dempledi.
- Gallwch olygu'r tabiau 'Details, Description and Participants’ ar unrhyw adeg.
Bydd templed yn eich helpu i arbed amser drwy lenwi rhai o'r meysydd yn y ffurflen creu swydd wag ymlaen llaw.
- Pan fyddwch yn creu swydd wag, y peth cyntaf y gofynnir i chi ei wneud yw 'Select a Template’.
- Cliciwch ar y maes ‘Select Template' a bydd cwymplen o dempledi yn ymddangos, neu gallwch ddechrau teipio enw eich swydd wag yn y maes chwilio meddal. Os nad oes gennych yr opsiwn i ddewis templed, neu os nad yw'r swydd wag rydych yn chwilio amdani yn ymddangos yn y ddewislen chwilio, nid oes templed wedi'i greu ar gyfer y swydd wag honno.
- O'r gwymplen, dewiswch y templed swydd wag sydd ei angen arnoch.
- Bydd y ffurflen sydd wedi'i llenwi eisoes (yn seiliedig ar y meysydd a gwblhawyd gennych wrth greu eich templed) yn ymddangos, a gallwch wneud newidiadau i'r meysydd perthnasol.
- Dewiswch Create Vacancy.
- Bydd 'statws' eich swydd wag yn newid i 'Draft' ac mae hyn yn rhoi cyfle i chi wirio bod yr holl wybodaeth yn gywir.
- Byddwch yn gallu gwneud newidiadau hyd nes eich bod yn barod i anfon y swydd wag i'w chymeradwyo.
- Os ydych am newid eich hysbyseb, yn y tab 'Description', cliciwch ar y botwm 'view', a bydd yn newid i 'Edit.’ Cliciwch ar 'Edit' a gallwch wneud newidiadau. Ar ôl cwblhau hyn, sgroliwch i waelod y dudalen, a phwyswch y botwm 'Submit'.
- Yna gofynnir i chi ‘Request Approval’. Ar ôl i chi ddewis 'request approval' bydd hyn yn dechrau'r broses gymeradwyo. Gallwch wirio statws eich cais ar y dangosfwrdd Vacancies Awaiting Approval.
Gallwch hefyd greu'r Templed Sgorio Cyfweliad os ydych yn debygol o ofyn cwestiynau tebyg yn y cyfweliad.
- Cliciwch ar y tab 'Description’.
- Cliciwch ar y tab 'Setup Interview Scoring'.
- Cwblhewch y templed gan nodi'ch cwestiynau cyfweliad safonol. I greu'r templed, nid oes yr un o'r meysydd ar y dudalen hon yn orfodol. Gallwch gwblhau cynifer neu gyn lleied ag sydd angen.
- Cliciwch ar 'Submit’.
Ychwanegu cyfranogwyr at eich templed
Os ydych yn cynnwys yr un cyfranogwyr yn rheolaidd yn eich swyddi gwag, gallwch eu hychwanegu at eich templedi.
- Cliciwch ar y tab 'Participants'.
- Dewiswch 'Add Participant’.
- Dewiswch ei broffil defnyddiwr (fel arfer ei broffil Rheolwr Recriwtio)
- Dewiswch y categori – bydd y categori yn cael ei ragosod.
- Os ydych am iddo allu gwneud newidiadau i amserlenni cyfweliadau, ticiwch y blwch 'Co-ordinator'.
- Os ydych am iddo allu gweld ceisiadau, ticiwch y blwch 'Can View Applicants'.
- Cliciwch ar 'Add Participant’.
Cofiwch, y tro cyntaf fydd yn cymryd yr amser hwyaf bob tro, ond bydd yn haws y tro nesaf, os mai'r un swydd sydd dan sylw, gan fod y rhan fwyaf o'r gwaith eisoes wedi'i wneud. Ac os ydych wedi creu templed, mae'n haws fyth.
Fodd bynnag, wrth gynllunio eich amserlen recriwtio, yn enwedig wrth bennu dyddiadau cau, gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu amser i'ch cais fynd drwy'r broses gymeradwyo.
I gael gwybod beth i'w wneud nesaf, edrychwch ar yr adran ‘Rheoli a llunio rhestr fer o geisiadau’.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch y gallwch bob amser gysylltu â'ch Uwchddefnyddiwr Adrannol neu'r Tîm Recriwtio
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Cytundeb Amser Cyfleusterau Undebau Llafur
- Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
- Y Broses Achwyniadau o Ran Graddio Swyddi
- Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
- Polisi Achwyniadau
- Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol
- Protocol Atal - Mehefin 2026
- Polisi a Gweithdrefn Galluogrwydd - Mehefin 2026
- Y Polisi Ymchwiliadau - Mehefin 2026
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
- Anabledd: Addasiadau Rhesymol
- Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- Crefydd a chred
- Canllawiau Trawsrywedd (1)
- Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Canllaw i Reolwyr ynghylch Cefnogi Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol - Ionawr 2024
- Polisi Niwroamrywiaeth
- Niwroamrywiaeth
- Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026
- Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026
- Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi Patrwm Gweithio Rhagweladwy
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Awst 2026
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Rhiant
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
- Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
- Amharu ar Drefniadau Gwaith
- Polisi Amser o’r Gwaith - Chwefror 2026
- Rhannu Absenoldeb Rhiant - Canllaw i'r Broses ar gyfer Penaethiaid
- Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026
- Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth
- Y Polisi Absenoldeb Rhiant
- Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau - Gorffennaf 2026
- Amser o’r Gwaith ar Gyfer Dibynyddion Polisi a’r Weithdrefn - Ebrill 2026
Gadael y Cyngor
Cyfeirlyfr
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Treuliau
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
- Polisi Teithio a Chynhaliaeth
Polisïau a Chanllawiau
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
- Polisi Absenoldeb Salwch
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
- Cyflwyniad
- Cam 1 - Man Cychwyn
- Dadansoddi Rolau Critigol
- Beth Yw'r Galw a'r Cyflenwad?
- Dadansoddi Bylchau
- Cynllun Gweithredu
- Adrodd
- Atebion o ran y Gweithlu a Chynllunio Olyniaeth
Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd
- 2. Cwmpas
- 3. Egwyddorion
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
- 6. Diffinio Sefydliad neu Dîm Perthnasol neu Faes Gwaith
- 7. Recriwtio a Phenodi Gweithwyr
- 8. Gofyniad i Ddatgelu Cysylltiad Personol Agos
- 9. Perthynas Rhwng Ymgeisydd a Rheolwr neu Gydweithwyr yn y Tîm
- 10. Awdurdod i Benodi
- 11. Methu â Rheoli Materion yn Effeithiol
- 12. Perthynas yn Dirwyn i Ben
- 13. Materion o Ran Ymddygiad neu Berfformiad
- 14. Cysylltiadau Personol Agos Rhwng Gweithiwr a Phlentyn/Person Ifanc neu Oedolyn sy'n Agored i Niwed
- 15. Cydweithwyr sy'n Cael eu Heffeithio Gan Gysylltiad Personol Agos
- 16. Llunio Geirdaon
- 17. Rheoliadau Ariannol
- 18. Cysylltiadau â Chontractwyr neu Ddarpar Gontractwyr
- 19. Methu â Datgelu Cysylltiadau Personol Agos
- 20. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Datganiadau Buddiannau Personol Swyddogion
- Atodiad 2 - Protocol Perthynas
Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026
- 2. Pwrpas
- 3. Cwmpas
- 4. Y Gwahaniaethau Rhwng Contract Cyfnod Penodol a Chontract Dros Dro
- 5. Gweithwyr Achlysurol
- 6. Defnydd Olynol o Gontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 7. Cyhoeddi Contractau Cyfnod Penodol/ Dros Dro
- 8. Hawliau Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 9. Cyfnod Penodol/Dros Dro ac Ailstrywthuro
- 10. Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro sy'n Gwneud Cais am Secondiadau
- 11. Dewis y Swyddi i'w Dileu
- 12. Taliad Dileu Swydd
- 13. Gwasanaeth Di-dor
- 14. Cyrchu Swyddi Parhaol
- 15. Adnewyddu a Pheidio ag Adnewyddu Contractau Penodol/Dros Dro
- 16. Adolygu Contractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 17. Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 18. Peidio ag Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 19. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad A - Holi ac Ateb Ynghylch Ailstrwythuro a Chontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- Atodiad B - Llythyr Gwahodd o ran Ymgynghori ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- Print Page
Contractau Gweithwyr
Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026
- 2. Cwmpas
- 3. Rolau a Chyfrifoldebau
- 4. Gweithwyr
- 5. Adnoddau Dynol
- 6. Newid
- 7. Cynllunio a Pharatoi
- 8. Ymgynghoriad
- 9. Ymgynghori yn Ystod Ailstrwythuro Fesul Cam
- 10. Gweithredu – Llenwi Swyddi Newydd yn y Strwythur Newydd
- 11. Adolygu'r Broses
- 12. Y Cyfnod Addasu
- 13. Gweithwyr Dros Dro a Chyfnod Penodol
- 14. Gweithwyr a Secondiwyd
- 15. Cymorth
- 16. Teithio Ychwanegol
- 17. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
- Atodiad A - Templed Cynllun Prosiect Ailstrwythuro
- Atodiad B - Llythyr Ymgynghori
- Atodiad C - Llythyr Ystyried ar Gyfer Swydd
- Atodiad D - Ffurflen Asesiad Priodoldeb
- Atodiad E - Cadarnhau Mewn Swydd – Llythyr Cynnig
- Atodiad F - Cadarnhau Mewn Swydd – Gwahoddiad i Gyfweliad
- Atodiad G - Llythyr i un na Gu'n Llwyddiannus
- Atodiad H - Hysbysu Staff am Swyddi Newydd
- Atodiad I - Mynegi Diddordeb Mewn Swydd Newydd – Datganiad Yn Cefnogi'r Cais
- Print page
Polisi Adleoli Staff - Medi 2026
- 2. Cwmpas y Polisi Adleoli Staff
- 3. Pam gynnig Cyfleoedd Adleoli?
- 4. Beth yw Adleoli?
- 5. Y Weithdrefn Adleoli
- 6. Diogelu "Tâl"
- 7. Ystyried Adleoli – Terfynau Amser
- 8. Cadw/Diweddaru Cofnodion
- 9. Adolygu'r penderfyniad ynghylch Cyflogaeth Arall Addas
- 10. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
- Print Page
Adleoli
Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026
- 2. Hyd a lled y Weithdrefn
- 3. Rolau a Chyfrifoldebau
- 4. Y Weithdrefn
- 5. Cyfarfod Cyntaf i Adolygu'r Cyfnod Prawf - Rhwng Pedair a Chwe Wythnos
- 6. Yr Ail Gyfarfod/Cyfarfod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Hwb Fod yn Hwyrach Na Thri Mis
- 7. Y Trydydd Cyfnod / Cyfnod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Heb Fod yn Hwyrach Na Phum Mis
- 8. Absenoldeb Salwch yn Ystod y Cyfnod Prawf
- 9. Canlyniadau Posibl ar Ddiwedd y Cyfnod Prawf
- 10. Apêl yn Erbyn Diswyddo
- 11. Cyfnodau Rhybudd
- 12. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Asesiad o'r Cyfnod Prawf
Cyfnod prawf
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol
